Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/02/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS

1.2 Dirprwyodd Jack Sargeant AS ar ran Joyce Watson AS

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant

(09.45-10.45)

2.

Y diweddaraf am fand eang

Kim Mears OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Datblygu Seilwaith Strategol, Openreach

Elinor Williams, Pennaeth, Materion Rheoleiddio, Ofcom Cymru

Nick Speed, Cyfarwyddwr, Grŵp BT yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Kim Mears OBE, Rheolwr Gyfarwydddwr Datblygu Seilwaith Strategol, Openreach, Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddio, Ofcom Cymru a Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

2.2 Cytunodd Kim Mears i ddarparu rhagor o fanylion  i'r Pwyllgor ar yr hyn a gafodd ei aralleirio, beth aeth i mewn, beth aeth allan, a lle rydyn ni heddiw.  Hefyd o ran cysylltiad ether-rwyd, bydd yn rhoi gwybod a fydd yn dod yn fuan neu’n rhoi manylion am yr amserlen a bydd yn rhannu dogfen gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes pan fydd yn barod.

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(10.55-11.55)

4.

Sesiwn breifat: Gweithio o Bell - Papur briffio gan academyddion

Bu’r Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Dr Darja Reuschke, Athro Cyswllt, Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd, Prifysgol Southampton

Cofnodion:

3.1 Cynhaliwyd cyfarfod preifat gyda’r Athro Alan Felstead, Athro Ymchwil, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd a Dr Darja Reuschke, Athro Cyswllt, Ysgol Daearyddiaeth a Gwyddor Amgylcheddol, Prifysgol Southampton

(11.55-12.15)

5.

Preifat

Ystyried tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn