Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Amseriad disgwyliedig: Committee meeting via Zoom 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/05/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Hoffwn groesawu’r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.  

1.2        Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. 

1.3        Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai David Melding AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 

1.4  Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. 

 

 

(09:15-10:15)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru

Nick Capaldi, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd yr Aelodau Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch COVID-19 a'i effaith ar y rhai sy'n gweithio yn y Celfyddydau yng Nghymru.

 

 

(10:15)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau a ganlyn:

 

 

3.1

Llythyr gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru yn cadarnhau y bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y materion a godwyd yn eu llythyr.

 

3.2

Gohebiaeth â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth.

 

 

3.3

Briff gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y briff.

 

 

(10:15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

 

(10:15-10:45)

5.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiad byr ar effaith yr achosion o COVID-19 ar sector y celfyddydau gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.