Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/05/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod rhithwir.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(13.30-14.45)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r sector amaethyddiaeth

John Davies, Llywydd - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru

Dr Nick Fenwick, Pennaeth Polisi -Undeb Amaethwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru. 

 

(15.00-16.00)

3.

COVID-19:Sesiwn dystiolaeth gyda'r sector bwyd a diod

Gwyn Howells, Prif Weithredwr – Hybu Cig Cymru

Andrew Opie, Cyfarwyddwr Bwyd a Chynaliadwyedd – Consortiwm Manwerthu Cymru

Pete Robertson, Cyfarwyddwr Dros Dro – Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Consortiwm Manwerthu Cymru, Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru a Hybu Cig Cymru,

 

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

5.

Covid-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.

 

6.

Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.

 

 

7.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno.