Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/12/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.

1.2.Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Siân Gwenllian AS. Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu rhan.

 

(10.30 - 11.00)

2.

Gohebiaeth y Pwyllgor - i’w trafod a’u cytuno

Cofnodion:

2.1 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth.

 

(11.00 - 12.00)

3.

Iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc - paratoi ar gyfer y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr Adroddiad Cadernid Meddwl: dwy flynedd yn ddiweddarch (16 Rhagfyr 2020)

Carol Shillabeer, Cadeirydd – Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (2)

Deb Austin, Rheolwr Rhaglen - Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc (2)

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc gyda Carol Shillabeer a Deb Austin, Cadeirydd a Rheolwr Rhaglen y Rhaglen Gyda'n Gilydd i Blant a Phobl Ifanc (2).

 

 

12.00 - 12.15

4.

Trafodaeth y Pwyllgor

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei agwedd tuag at y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr Adroddiad Cadernid Meddwl: dwy flynedd yn ddiweddarach, sydd wedi'i drefnu ar gyfer 16 Rhagfyr 2020.