Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/05/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg. 1.2
Yn unol
â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei bod hi wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i warchod iechyd y cyhoedd. 1.3
Nododd
y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden AC yn camu i’r adwy
fel Cadeirydd Dros Dro yn achos unrhyw broblemau technegol, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.22. 1.4
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Hefin David AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol. Ni
chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
(14.00 - 15.00) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Vaughan
Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie
Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Y
Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Nicola Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gofal
Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl,
Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed
Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r Gweinidog a’r
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch COVID-19 a’i
effaith ar blant a phobl ifanc. 2.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ysgrifennu at y Pwyllgor unwaith i’r adroddiad ar farwolaethau
annisgwyl ar ddechrau’r pandemig COVID-19 yng Nghymru gael ei gyhoeddi ac
unwaith i Lywodraeth Cymru gael cyfle i’w ystyried. 2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i gymryd y camau a ganlyn:
|
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Cyn i’r
Pwyllgor gytuno i’r cynnig, nododd y Cadeirydd mai’r cyfarfod hwn oedd busnes
ffurfiol olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddo ddod yn Senedd Cymru. 3.2 Cafodd y
cynnig ei dderbyn. |
|
(15.00 - 15.25) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu,
gan gytuno i ysgrifennu at y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ofyn am ragor o
wybodaeth am rai o’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(15.25 - 15.45) |
COVID-19: Trafod busnes sydd ar ddod y Pwyllgor. Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor bapur ar waith arfaethedig y Pwyllgor ynghylch COVID-19. Cytunodd yr
Aelodau ar raglen waith i gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid, a hynny gan
flaenoriaethu’r meysydd a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:
·
effaith COVID-19 ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl
plant a phobl ifanc; ac ·
effaith
COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach. |