Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/05/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2        Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei bod hi wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i warchod iechyd y cyhoedd.

1.3        Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden AC yn camu i’r adwy fel Cadeirydd Dros Dro yn achos unrhyw broblemau technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4        Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC. Nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

(14.00 - 15.00)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicola Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar

Jean White, Prif Swyddog Nyrsio

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau a Grwpiau Agored i Niwed

 



 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch COVID-19 a’i effaith ar blant a phobl ifanc.

2.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ysgrifennu at y Pwyllgor unwaith i’r adroddiad ar farwolaethau annisgwyl ar ddechrau’r pandemig COVID-19 yng Nghymru gael ei gyhoeddi ac unwaith i Lywodraeth Cymru gael cyfle i’w ystyried.

 

2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gymryd y camau a ganlyn:

  • rhoi gwybod faint o’r cymorth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth drwy Gronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector a Chronfa Cadernid y Trydydd Sector, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sydd wedi’i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc;
  • egluro faint o’r cyllid ar gyfer gwasanaethau trydydd sector sy’n golygu parhau â gwaith presennol a faint sy’n gyllid ychwanegol; a
  • chadarnhau’r amserlenni adrodd ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a fydd yn gweithio gyda chynrychiolwyr gofalwyr i drafod anghenion penodol ystod eang o ofalwyr yn ystod y pandemig COVID-19 ac ar ôl iddo ddod i ben.

 

 

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cyn i’r Pwyllgor gytuno i’r cynnig, nododd y Cadeirydd mai’r cyfarfod hwn oedd busnes ffurfiol olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn iddo ddod yn Senedd Cymru.

3.2 Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

 

 

(15.00 - 15.25)

4.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu, gan gytuno i ysgrifennu at y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am rai o’r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(15.25 - 15.45)

5.

COVID-19: Trafod busnes sydd ar ddod y Pwyllgor.

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar waith arfaethedig y Pwyllgor ynghylch COVID-19. Cytunodd yr Aelodau ar raglen waith i gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid, a hynny gan flaenoriaethu’r meysydd a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:

  • effaith COVID-19 ar blant sy’n agored i niwed;

·         effaith COVID-19 ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc; ac

·         effaith COVID-19 ar addysg uwch ac addysg bellach.