Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(13.45 - 15.15)

2.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2017-18

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-04-19 Papur 1 – Llythyr gan Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru (4 Chwefror 2019)

PAC(5)-04-19 Papur 2 – Llythyr gan Sir David Henshaw, Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru (4 Chwefror 2019)

PAC(5)-04-19 Paper 3 – Cylch gorchwyl yr Adolygiad Annibynnol ar weithrediadau coedwigaeth masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru (Awst 2018)

PAC(5)-04-19 Papur 4 – Adolygiad Annibynnol Grant Thornton o weithrediadau coedwigaeth masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-04-19 Paper 5 – Strwythur Tîm Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru (Chwefror 2019)

 

Clare Pillman – Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Syr David Henshaw - Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Clare Pillman, Prif Weithredwr a Syr David Henshaw, Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rhan o'u hymchwiliad i Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18.

 

(15.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitem 4

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.15 -15.45)

4.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.