Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(08.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i'r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells
AS, a oedd eisoes wedi nodi ei bod yn fodlon ar yr adroddiad drafft a oedd yn
cael ei drafod o dan Eitem 2. |
|
(08.30 - 10.30) |
Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-08-21
Papur 1 – Adroddiad Drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Roedd Angela Burns AS a Llyr Gruffydd AS wedi gwneud
sylwadau ar nifer o feysydd y bu'r Aelodau'n eu trafod wrth iddynt ystyried yr
adroddiad drafft. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad. Bydd yr
adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar 17 Mawrth 2021. 2.3 Nododd y Cadeirydd y bydd dadl yn cael ei chynnal ar
yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021. |