Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Cyllid.

 

(14:00)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y cofnodion.

 

(14:00-15:00)

3.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys 

 

Papurau ategol:

Papur 1 - Ymateb gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Ymateb ariannol i’r pandemig COVID-19 - 24 Ebrill 2020

Papur 2 - Ymateb gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - COVID-19: Cymorth i Gymru - 9 Ebrill 2020

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch yr ymateb ariannol i bandemig COVID-19 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys.

 

(15:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15:00-15:20)

5.

COVID-19: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(15:20-15:30)

6.

Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2020-21

Papur ategol:

Papur 3 - Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor gais Gomisiwn y Senedd ynghylch ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, a nododd y cais hwnnw.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd i ofyn am wybodaeth ynghylch goblygiadau ariannol COVID-19 ar ei gyllideb.

 

(15:30-15:40)

7.

Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21

Papur ategol:

Papur 4 - Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor gais Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, a nododd y cais hwnnw.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am wybodaeth ynghylch goblygiadau ariannol COVID-19 ar ei gyllideb.

 

(15:40-15:50)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Dull o gynnal gwaith craffu

Papur ategol:

Papur 5 – Dull ar gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Yn wyneb y cyfyngiadau cymdeithasol presennol oherwydd COVID-19, cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â mentrau ymgysylltu ar-lein er mwyn cynnwys rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn y broses o graffu ar y gyllideb ddrafft, yn hytrach na chynnal digwyddiad i randdeiliaid. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ofyn am ddadl a gynigiwyd gan y Pwyllgor cyn toriad yr haf ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Bwriedir i’r hyn sy’n deillio o’r mentrau ymgysylltu ar-lein i lywio'r ddadl.