Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 19/04/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC, David Rees AC a Neil
Hamilton AC. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN1 - Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad o daliadau ymadael yng Nghynllun Ymadael Gwirfoddol 2016-17 - 19 Mawrth 2018 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.20) |
Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 5 (CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) Y
Cynghorydd Huw David, Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Y
Cynghorydd Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ac Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, Cyngor Caerdydd Dave
Street, Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Papur 1 - CLlLC ac ADSS
Cymru: Tystiolaeth ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Huw David, Llefarydd CLlLC
dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr; Y Cynghorydd Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd CLlLC dros
Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd,
Cyngor Caerdydd; a Dave Street, Llywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru ar ei ymchwiliad i'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n
heneiddio. |
|
(10.30-11.10) |
Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio: Sesiwn dystiolaeth 6 (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru) Sarah
Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Papur
2 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Tystiolaeth ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl
Hŷn Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. 4.2 Cytunodd y Comisiynydd i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion pellach
am y pwysau costau sy'n wynebu'r gwasanaethau cymdeithasol. |
|
(11.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod ar 25 Ebrill 2018 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.10-11.20) |
Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.20-11.30) |
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017: Offeryn Statudol Treth: Papur 3 – Rheoliadau
Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2018 Rheoliadau Treth
Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol. |