Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Siân Gwenllian AS.

 

 

(14.30)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion.

 

(14.30-15.30)

3.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm

Sara James, Pennaeth Ymchwil Ysgolion a Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi

Andrew Hobden, Economegydd, yr Is-adran Cyngor Economaidd

 

Papurau ategol:

Y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

FIN(5)16-20 P1 - Llythyr at y Gweinidog Addysg gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - gwybodaeth ariannol - 22 Gorffennaf 2020 

FIN(5)16-20 P2 - Llythyr gan y Gweinidog Addysg - ymateb i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - 4 Awst 2020 

FIN(5)16-20 P3 - Llythyr gan y Gweinidog Addysg - 1 Medi 2020 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg; Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Cwricwlwm, Sara James, Pennaeth Ymchwil Ysgolion, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, ac Andrew Hobden, Economegydd, yr Is-adran Cyngor Economaidd ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).    

 

(15.45-17.00)

4.

Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 a’r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2020-21: Sesiwn dystiolaeth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Isobel Everett, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol, Archwilio Cymru

 

Papurau ategol:

FIN(5)-16-20 P4 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilio Cymru ar gyfer 2019-20

FIN(5)-16-20 P5 – Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad ar Ganfyddiadau'r Archwiliad - y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 (Saesneg yn unig)

FIN(5)-16-20 P6 - Archwilio Cymru - Cynllun Blynyddol 2020-21 

FIN(5)-16-20 P7 - RSM UK Tax and Accounting Limited - Adolygiad Gwerth am Arian o drefniadau Teithio a Chynhaliaeth Swyddfa Archwilio Cymru  

FIN(5)-16-20 P8 - Llythyr Ffarwelio gan Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru  

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Isobel Everett, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilio Cymru; a Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol, Archwilio Cymru am Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 a'r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2020-21.

 

4.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar gyfrifo'r cyfnod ad-dalu ar gyfer ailstrwythuro o ran rheoli.

 

(17.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(17.00-17.15)

6.

Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 a’r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(17.15-17.30)

7.

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.