Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 21/05/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
cyntaf y Pwyllgor Cyllid. |
|
(14:00) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd y cofnodion. |
|
(14:00-15:00) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Margaret Davies,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr y Trysorlys Papurau
ategol: Papur 1 - Ymateb gan
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Ymateb ariannol i’r pandemig COVID-19 - 24
Ebrill 2020 Papur 2 - Ymateb
gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - COVID-19: Cymorth i Gymru - 9 Ebrill 2020 Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch yr ymateb
ariannol i bandemig COVID-19 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y
Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu
Strategol; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys. |
|
(15:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15:00-15:20) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15:20-15:30) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2020-21 Papur ategol: Papur 3 - Cyllideb
Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2020-21 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor gais Gomisiwn y Senedd ynghylch
ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, a nododd y cais hwnnw. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd
i ofyn am wybodaeth ynghylch goblygiadau ariannol COVID-19 ar ei gyllideb. |
|
(15:30-15:40) |
Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21 Papur ategol: Papur 4 -
Cyllideb Atodol Gyntaf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020-21 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor gais Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru ynghylch ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, a nododd y
cais hwnnw. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am wybodaeth ynghylch goblygiadau ariannol
COVID-19 ar ei gyllideb. |
|
(15:40-15:50) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Dull o gynnal gwaith craffu Papur ategol: Papur 5 – Dull ar
gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith craffu
ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Yn wyneb y cyfyngiadau
cymdeithasol presennol oherwydd COVID-19, cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â
mentrau ymgysylltu ar-lein er mwyn cynnwys rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn y
broses o graffu ar y gyllideb ddrafft, yn hytrach na chynnal digwyddiad i
randdeiliaid. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes
a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ofyn am ddadl a gynigiwyd gan y Pwyllgor
cyn toriad yr haf ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Bwriedir i’r
hyn sy’n deillio o’r mentrau ymgysylltu ar-lein i lywio'r ddadl. |