Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a  David Rees AC.

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papur ei nodi.

 

(09.00-09.50)

3.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Matthew Denham Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheoli Ariannol

Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau

 

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2018-19

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid;  Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoli Ariannol; a Sharon Bounds, Pennaeth Rheoli Cyllidebau Llywodraeth Cymru ar Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19.

 

(09.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 ac 8 ac ar gyfer dechrau'r cyfarfod ar 5 Gorffennaf 2018

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.50-10.00)

5.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2018-19: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.00-11.00)

6.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 7 (Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig)

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Tim Render, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a Materion Gwledig

 

Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig; Tim Render, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Materion Gwledig; a Tony Clark, Pennaeth Cyllid, Adnoddau Naturiol a Bwyd ar ei ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.

 

(11.00-12.30)

7.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 8 (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Peter Ryland, Prif Swyddog Gweithredu, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

 

Papur 3 – Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; a Peter Ryland, Prif Swyddog Gweithredu, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar ei ymchwiliad i baratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.

 

 

(12.30-12.40)

8.

Ymchwiliad i'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.