Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/12/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30-10.00)

1.

Effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd - Papur cwmpasu

Papur 1 - Yr effaith wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd - Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur cwmpasu ar baratoad ariannol Cymru ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

(10.00-10.15)

2.

Blaenraglen waith - Papur cwmpasu

Papur 2 - Blaenraglen waith - Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.

 

(10.15-11.15)

3.

Offerynnau Statudol Treth: Sesiwn friffio technegol

Liz Matthews, Rheolwr Prosiect Gweithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru

Gurvinder Bhakar, Cyfreithiwr, Tîm y Trysorlys

Andrew Hewitt, Rheolwr Prosiect y Dreth Trafodiadau Tir

Sarah Govier, Rheolwr Prosiect Polisi Trethi Datganoledig

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio technegol ar Offerynnau Statudol Treth gan swyddogion canlynol Llywodraeth Cymru: Liz Matthews, Rheolwr Prosiect Gweithrediadau Awdurdod Refeniw Cymru; Gurvinder Bhakar, Cyfreithiwr, Tîm y Trysorlys; Andrew Hewitt, Rheolwr Prosiect y Dreth Trafodion Tir; a Sarah Govier, Rheolwr Prosiect Polisi Trethi Datganoledig.

 

(11.30)

4.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC a David Rees AC.

 

(11.30)

5.

Papur(au) i'w nodi:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(11.30)

5.1

PTN1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Cyllidebau Awdurdod Refeniw Cymru ar gyfer 2017/18 - 2019/20 - 4 Rhagfyr 2017

Dogfennau ategol:

(11.30)

5.2

PTN2 - Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Comisiwn y Cynulliad Ebrill 2017 - Medi 2017 - 7 Rhagfyr 2017

Dogfennau ategol:

(11.30-12.30)

6.

Papur briffio: Rhagolygon ar gyfer Trethi Datganoledig

Robert Chote, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robert Chote, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar ragolygon ar gyfer trethi datganoledig.