Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 542KB) Gweld fel HTML (276KB)

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.00)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(09.00-10.15)

3.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18: Sesiwn dystiolaeth

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Matthew Denham-Jones - Dirprwy Gyfarwyddwr - Rheolaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Papur 1 - Cynnig y Gyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol, Llywodraeth Cymru.

 

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: 5, 6 ac 8

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15-10.30)

5.

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.30-11.00)

6.

Papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad: Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio

Papur 2 – Papur cwmpasu'r ymchwiliad: Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gostau gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio a chytunodd i gynnal ymchwiliad.

 

(11.00-12.00)

7.

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 7 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru)

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Michael Palmer - Cyfarwyddwr ar gyfer Gweithredu a Pherfformiad, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

 

Papur 3 - Tystiolaeth ysgrifenedig - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru; a Michael Palmer - Cyfarwyddwr Gweithredu a Pherfformiad, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru.

 

(12.00-12.30)

8.

Trafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Papur 4 – Y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Papur 5 - Nodyn briffio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft, a chytunodd i wneud rhai mân newidiadau i'r Bil a dychwelyd at y mater.