Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 24/02/2021 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod rhithwir. 1.2 Nododd y
Cadeirydd fod Nick Ramsay AS bellach wedi gadael y Pwyllgor, a diolchodd iddo
am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor. 1.3 Croesawodd y
Cadeirydd Mark Isherwood AS fel aelod newydd o'r Pwyllgor. |
||
(09:30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2021. Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021. Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2021. Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2021. Cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2021. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru: Ymateb Archwilio Cymru i argymhellion y Pwyllgor - 22 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 - 27 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwybodaeth am gyfalaf trafodiadau ariannol a chyllid canlyniadol fformiwla Barnett i Gymru - 21 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 - Ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru - ymateb Llywodraeth Cymru - 19 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 5 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - cyfraddau amhreswyl a throthwyon Treth Trafodiadau Tir (TTT) - 2 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 6 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - 2 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Gwaith modelu ar gyfer prydau ysgol am ddim - 9 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: |
||
PTN 8 - Llythyr gan Hafal: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - 17 Chwefror 2021 Dogfennau ategol: |
||
(09:30 - 11:00) |
Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru Gawain Evans,
Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol Papurau
ategol: FIN(5)-06-21 P1 –
Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 FIN(5)-06-21 P2 –
Dyraniadau prif grŵp
gwariant FIN(5)-06-21 P3 –
Nodyn Esboniadol FIN(5)-06-21 P4 –
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Dull ac amseriad Trydedd Gyllideb
Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 - 1 Chwefror 2021 FIN(5)-06-21 P5 –
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Cronfa Wrth Gefn y DU - 10 Chwefror
2021 Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch trydedd
gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gan y tystion a ganlyn:
Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid; a Matthew Denham-Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaethau Ariannol. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: - Manylion pellach, drwy'r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i wella’r
broses o rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd.
- Gwybodaeth bellach, drwy'r Gweinidog Tai a Llywodraeth
Leol, ynghylch cronfa galedi’r awdurdodau lleol, ac yn benodol ynghylch y
fformiwla sy'n ymwneud ag arbedion a gollwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad
i'r pandemig. - Manylion pellach ynghylch y cyllid sydd wedi’i ddyrannu
i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig. |
|
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:00 - 11:20) |
Trydedd Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11:20 - 11:30) |
Trafod Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2021-22 Papurau
ategol: FIN(5)-06-21 P6 -
Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio
Cymru ar gyfer 2021-22 o dan Reolau Sefydlog 18.10(x) yn unol ag adran 24(7) o
Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. |
|
(11:30 - 11:45) |
Trafod papur y flaenraglen waith Papurau
ategol: FIN(5)-06-21 P7 –
Papur y flaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. |