Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafodd Caroline Jones ei chroesawu yn ôl i’r pwyllgor gan
y Llywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cyfnod 3 y
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Dywedodd y
Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn
cynnig gohirio’r trafodion tan ddydd Mercher, os daw'n amlwg na fydd Cyfnod 3
yn cael ei gwblhau erbyn diwedd dydd Mawrth. Egwyliau Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl byr cyn y cyfnod pleidleisio (os
oes gwrthwynebiad i'r cynnig o dan Eitem 4) neu ar ôl y grŵp cyntaf yng
Nghyfnod 3, ac yn defnyddio ei barn ar unrhyw egwyliau ar ôl hynny. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid cael egwyl hwy oddeutu 7pm. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol: Dydd Mawrth
17 Tachwedd 2020
·
Datganiad gan Weinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i
Gymru (45 munud) ·
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i
gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30
munud): o
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 o
Rheoliadau Diogelu Iechyd
(Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 ·
·
Dydd
Mercher 18 Tachwedd 2020 – ·
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) (15 munud) Dydd Mawrth
24 Tachwedd 2020 ·
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar
gyfer Cymraeg 2050 (2019-2020) ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg
(2019-2020) (60 munud) |
|
Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen: Dydd
Mercher 2 Rhagfyr 2020 – ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith argyfwng
COVID-19 ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol (30 munud) ·
Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio
trafnidiaeth (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 18 Tachwedd: NNDM7455 Helen Mary
Jones Joyce
Watson Leanne Wood Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi
cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi
llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod. 2. Yn credu y dylid
ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei
fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol. 3. Yn condemnio'r
protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan
i Sir Benfro. 4. Yn canmol trigolion
a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r
ceiswyr lloches. Cefnogwyr: Mick
Antoniw John
Griffiths Llyr
Gruffydd Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 9 Rhagfyr: NNDM7462 Lynne
Neagle Bethan
Sayed Leanne Wood Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y dystiolaeth yn
ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwy oed, yn
gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad cryf rhwng
cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell canlyniadau yn
ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol, cynnydd yn y gwaith a
gwell iechyd corfforol a meddyliol. 2. Yn nodi, ers yr achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau
cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod
rhieni'n wynebu pwysau digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o
ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol. 3. . Yn nodi bod arolwg Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o
ymatebwyr o Gymru wedi nodi bod iechyd meddwl rhieni yn prif bryder yn ystod y
cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent ddod o
hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y cant o
rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio ar eu
baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc. 4. Yn nodi bod ymchwil New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros
hanner y 257 o ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn
teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r
coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a
bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i
deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a
bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn
cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y pandemig. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd
i sicrhau y gall menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod
ymweliadau ysbyty yn ystod beichiogrwydd. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i
neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau
gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19. Cefnogwyr: Dawn Bowden Jayne
Bryant Alun Davies Vikki
Howells Huw
Irranca-Davies: Helen Mary
Jones Dai Lloyd Neil
Mcevoy Jenny
Rathbone David Rees Jack
Sargeant |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 16 Tachwedd
i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y
rheoliadau. |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 16
Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar y rheoliadau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil
Gwasanaethau Ariannol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, a'r Memorandwm Atodol ar y Bil
Masnach at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol
ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Rhagfyr ar gyfer y ddau Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol. |
|
Pwyllgorau |
|
Amserlen y Senedd Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer tymor y gwanwyn 2021 a'r addasiadau i'r
amserlen bresennol. |
|
Unrhyw Fater Arall Aelodaeth
Pwyllgorau Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i ethol David Rowlands i'r Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a
Phwyllgor y Llywydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyflwyno cynigion i ganiatáu i
Caroline Jones fod yn ddirprwy ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a Mandy Jones i
gymryd y sedd ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Gofynnodd
Caroline Jones beth oedd y rhesymeg dros beidio â galw grŵp y Gynghrair
Annibynnol dros Ddiwygio i ofyn cwestiynau i lefarwyr neu arweinwyr. Esboniodd
y Llywydd mai mater i'r Cadeirydd oedd hyn, ond y byddai Aelodau'r grŵp
hwnnw yn cael eu galw i gyfrannu'n gymesur â chynrychiolaeth y grŵp yn y
Senedd. |