Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cynhadledd Fideo Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth yr Aelodau ei bod wedi diweddaru teitl datganiad y Cwnsler Cyffredinol ar y papur Saesneg.

 

Dethol gwelliannau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y gallai, oherwydd nifer y gwelliannau a gyflwynwyd yr wythnos hon, ddefnyddio ei phwerau i beidio â dethol gwelliannau lle mae'n credu ei bod yn briodol i gynnal busnes y Senedd yn briodol.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd fod dadl y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf' hefyd wedi denu dau welliant, na fydd yn eu dethol yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii).

 

Trefn yn y Siambr/ar Zoom

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn trin rhagor o achosion o Aelodau'n agor eu meicroffonau eu hunain pan na elwir arnynt, fel mater o drefn, ac y bydd yn gwneud cyhoeddiad i'r perwyl hwnnw ar hyn cyn y cyfarfod llawn heddiw.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ddau ddiweddariad i'r amserlen tair wythnos:

 

Dydd Mawrth 13 Hydref 2020 -

 

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

 

Dydd Mawrth 3 Tachwedd

 

Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 (15 munud) – Gohiriwyd tan 24 Tachwedd

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid gofyn i gadeiryddion pwyllgorau a allai eu dadleuon fod mewn slotiau 30 neu 45 munud, yn hytrach na 60, fel mater o drefn.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:

 

Dydd Mercher 4 Tachwedd 2020 –

 

·         Cynnig i nodi’r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20 (30 munud)

·         Dadl ar ddeisebau: addysgu hanes mewn ysgolion (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 12 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 12 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.3

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Pysgodfeydd i graffu arno.

 

 

4.4

Rheoliadau Coronafeirws

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a daeth i'r casgliad bod byrhau amserlenni cyffredinol ar gyfer trafod Rheoliadau, ar y cyd ag argaeledd cyfleoedd eraill i drafod Rheoliadau newydd, yn un ffordd ymlaen.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth Reolwyr Busnes nad oedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 wedi newid yn sylweddol o reoliadau Rhif 15, ac eithrio lleoliad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ganfod dull y gellir ystyried rheoliadau tebyg yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ar ôl iddynt ddod i rym yn y dyfodol.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y ddeiseb 'P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020 yn Rhondda Cynon Taf fel bod gwersi'n cael eu dysgu' yn yr hanner tymor nesaf, gyda'r dewis y bydd y ddadl yn un 30 munud o hyd.

 

 

 

Unrhyw Fater Arall

Seddi

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yn caniatáu i seddau a ddyrennir i grwpiau plaid gydag Aelodau nad ydynt yn mynychu'r Siambr gael eu dyrannu i Aelodau grwpiau eraill neu Aelodau annibynnol.

 

Cyfarfod dros y tymor hwy

Trafododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd hybrid. Dywedodd y Llywydd y byddai'n trafod y mater gyda'r Prif Weinidog a gofynnodd i'r Rheolwyr Busnes drafod gyda'u grwpiau.