Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Video Conference via Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafodd Caroline Jones ei chroesawu yn ôl i’r pwyllgor gan y Llywydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cynnig gohirio’r trafodion tan ddydd Mercher, os daw'n amlwg na fydd Cyfnod 3 yn cael ei gwblhau erbyn diwedd dydd Mawrth.

 

Egwyliau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl byr cyn y cyfnod pleidleisio (os oes gwrthwynebiad i'r cynnig o dan Eitem 4) neu ar ôl y grŵp cyntaf yng Nghyfnod 3, ac yn defnyddio ei barn ar unrhyw egwyliau ar ôl hynny. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael egwyl hwy oddeutu 7pm.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:

 

Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2020

 

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Cynllun Adferiad Economaidd (45 munud) - Gohiriwyd tan 1 Rhagfyr

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020

·         Dadl:  Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru (30 munud) – Gohiriwyd tan 1 Rhagfyr

·         Dadl:  Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)Gohiriwyd tan 18 Tachwedd

 

Dydd Mercher 18 Tachwedd 2020 –

 

·         Dadl:  Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (15 munud)

 

Dydd Mawrth 24 Tachwedd 2020

 

·           Dadl:  Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-2020) ac Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-2020) (60 munud)

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:

 

Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 18 Tachwedd:

 

NNDM7455

Helen Mary Jones

Joyce Watson

Leanne Wood

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod.

2. Yn credu y dylid ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol.

3. Yn condemnio'r protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan i Sir Benfro.

4. Yn canmol trigolion a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r ceiswyr lloches.

Cefnogwyr:

 

Mick Antoniw

John Griffiths

Llyr Gruffydd

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 9 Rhagfyr:

 

NNDM7462

Lynne Neagle

Bethan Sayed 

Leanne Wood

Cynnig bod y Senedd:  

1.  Yn cydnabod bod y dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwy oed, yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad cryf rhwng cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol, cynnydd yn y gwaith a gwell iechyd corfforol a meddyliol.     

2. Yn nodi, ers yr achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod rhieni'n wynebu pwysau digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.      

3. . Yn nodi bod arolwg Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi nodi bod iechyd meddwl rhieni yn prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y cant o rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio ar eu baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc.  

4. Yn nodi bod ymchwil New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros hanner y 257 o ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y pandemig.  

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd i sicrhau y gall menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod ymweliadau ysbyty yn ystod beichiogrwydd.  

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19.

Babies in Lockdown

New Parents and COVID-19

Cefnogwyr:

 

Dawn Bowden

Jayne Bryant

Alun Davies

Vikki Howells

Huw Irranca-Davies:

Helen Mary Jones

Dai Lloyd

Neil Mcevoy 

Jenny Rathbone

David Rees

Jack Sargeant

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 16 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 16 Tachwedd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.

 

 

4.3

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Gwasanaethau Ariannol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, a'r Memorandwm Atodol ar y Bil Masnach at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Rhagfyr ar gyfer y ddau Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Amserlen y Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer tymor y gwanwyn 2021 a'r addasiadau i'r amserlen bresennol.

 

 

Unrhyw Fater Arall

Aelodaeth Pwyllgorau

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i ethol David Rowlands i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a Phwyllgor y Llywydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyflwyno cynigion i ganiatáu i Caroline Jones fod yn ddirprwy ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a Mandy Jones i gymryd y sedd ar y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Gofynnodd Caroline Jones beth oedd y rhesymeg dros beidio â galw grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio i ofyn cwestiynau i lefarwyr neu arweinwyr. Esboniodd y Llywydd mai mater i'r Cadeirydd oedd hyn, ond y byddai Aelodau'r grŵp hwnnw yn cael eu galw i gyfrannu'n gymesur â chynrychiolaeth y grŵp yn y Senedd.