Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF, 45KB). Gweld fel HTML (40KB).

 

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Busnes y Pumed Cynulliad. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o unrhyw gyfarfod yn y dyfodol lle y trafodir materion yn ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Cynulliad

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

3.

Busnes y Cynulliad

Cofnodion:

  

 

 

 

3a

Y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gwrdd am 8.30am ar foreau Mawrth yn ystod yr wythnosau mae'r Cynulliad yn eistedd ar gyfer gweddill y tymor, ond i edrych ar gwrdd ar amser arall yn y tymor newydd er mwyn rhoi ystyriaeth i gyfrifoldebau teuluol Aelodau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol fel rhan o'r drafodaeth ar amserlen gyffredinol y pwyllgor.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gwrdd yn breifat ar gyfer unrhyw gyfarfodydd yn y dyfodol lle bydd materion yn ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor neu'r Cynulliad yn cael eu trafod, a nodwyd bod y penderfyniad y cytunwyd arno ar ddechrau'r cyfarfod yn darparu ar gyfer gwneud hynny. Fodd bynnag, cafwyd consensws ar draws y Pwyllgor y dylai'r pwyllgor anelu at gwrdd yn gyhoeddus yn fwy aml yn y dyfodol.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai cofnodion cyfarfodydd preifat yn cael eu cyhoeddi yn Saesneg ac yn Gymraeg o fewn 1 wythnos iddynt gael eu cytuno gan y Pwyllgor.

 

3b

Trefn Busnes

Cofnodion:

Adolygu Amserlen y Cynulliad

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal adolygiad o amserlen y Cynulliad, gan gynnwys amserlennu Cyfarfodydd Llawn, gyda'r bwriad o gynyddu'r gallu cyffredinol ar gyfer busnes ffurfiol y Cynulliad. Gofynnodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur â chynigion manwl i'r Rheolwyr Busnes i'w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi amserlen dros dro ar gyfer gweddill y tymor hwn, gyda chyfarfodydd Llawn am 13.30 ar brynhawn Mawrth a Mercher, yn unol â Rheolau Sefydlog:

  • Gan ddefnyddio prynhawn dydd Mawrth ar gyfer Busnes y Llywodraeth; a
  • Chan ddefnyddio prynhawn dydd Mercher ar gyfer Busnes y Llywodraeth a'r Cynulliad.

Pwyllgorau

Roedd yr holl Aelodau o blaid defnyddio prynhawn dydd Llun mewn egwyddor fel slot ffurfiol yn Amserlen y Cynulliad, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor blaenorol, ond y byddai angen i unrhyw benderfyniad gael ei lywio gan yr adolygiad ehangach o strwythur pwyllgorau.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y mater gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Amserau Eraill

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau gyda'r trefniant blaenorol o grwpiau pleidiau yn cwrdd am 11am ddydd Mawrth.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ar ddyddiadau'r toriadau hyd at fis Hydref hanner tymor a chytunwyd y dylid dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol i benderfynu ar ddyddiadau toriadau dros dro ar gyfer y Nadolig 2016 a Gwanwyn 2017, yn dilyn trafodaethau gyda Grwpiau'r Pleidiau.

Refferendwm ar yr UE

Cododd Simon Thomas y mater o amserlennu busnes yn y cyfnod yn arwain at refferendwm yr UE a'r effaith y gallai hyn ei chael ar gyfraniadau Aelodau yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad fod y Ddeddf Etholiadau a Refferenda Pleidiau Gwleidyddol 2000 (PPERA) yn gosod cyfyngiadau ar Gomisiwn y Cynulliad mewn perthynas â chyhoeddi deunydd yn ymwneud â'r refferendwm yn ystod y 28 diwrnod yn arwain at 23 Mehefin.

Byddai cyhoeddi cofnod o fusnes ffurfiol y Cynulliad yn destun y cyfyngiadau hyn. Ni fyddai torri'r Ddeddf yn drosedd, felly byddai'r risg yn un i enw da. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad yn ôl y gyfraith i gyhoeddi cofnodion ein trafodion.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i drefnu busnes fel arfer yn ystod cyfnod y refferendwm. Fodd bynnag, gofynnodd Mark Reckless am gyngor cyfreithiol pellach ar y mater, a gofynnodd i swyddogion edrych ar y posibilrwydd o'r Cynulliad yn gofyn am ddatganiad rhagataliol gan y llys i alluogi Aelodau i drafod materion sy'n ymwneud â refferendwm yr UE. Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn darparu nodyn i'r cyfarfod nesaf i egluro rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol y Comisiwn cyn gwneud penderfyniad.

 

Y defnydd o amser y Cynulliad

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i edrych ar ffyrdd o gyflwyno mwy o amrywiaeth i'r defnydd o amser y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth i ddod â phapur i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau â'r arfer a fabwysiadwyd yn y Pedwerydd Cynulliad ar gyfer amserlennu Dadleuon gan Aelodau Unigol yn rheolaidd a chytunodd i drefnu un bob yn ail wythnos tan doriad yr haf. Penderfynodd y Pwyllgor hefyd i ostwng y trothwy ar gyfer cefnogi cynnig o dri Aelod o dri grŵp gwleidyddol gwahanol i dri Aelod o ddau grŵp.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drefnu hyd at dair awr o ddadleuon yr wrthblaid yr wythnos, gan ddibynnu ar y gofynion eraill ar amser y Cynulliad. Trafododd y Rheolwyr Busnes y rhaniad mwyaf priodol o amser y Cynulliad ymysg y gwrthbleidiau a chytunodd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod ar 8 Mehefin.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal Dadl Fer ar ddydd Mercher bob wythnos ac i ddyrannu 30 munud iddi, fodd bynnag mynegodd Simon Thomas y farn y dylai Dadleuon Byr gael eu hadolygu fel rhan o'r adolygiad o amser y Cynulliad.

 

3c

Pwyllgorau

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapurau yn nodi'r penderfyniadau y byddai angen i'r Pwyllgor eu gwneud wrth sefydlu pwyllgorau a gweithdrefnau ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau.

Cwestiynodd Simon Thomas a fyddai hawl gan Kirsty Williams AC gael sedd ar bwyllgor tra ei bod hefyd yn aelod o'r llywodraeth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth er nad yw aelodau o'r Llywodraeth fel arfer wedi eistedd ar bwyllgorau'r Cynulliad, nid yw'r Rheolau Sefydlog yn eu hatal rhag gwneud hynny. Byddai hawl yr Aelod Democratiaid Rhyddfrydol i sedd ar bwyllgor felly yn parhau, er y byddai'n fater iddi hi ynghylch a oedd hi eisiau ei derbyn ai peidio.

Cafwyd consensws cyffredinol y dylid lleihau meintiau pwyllgorau o gymharu â'r Pedwerydd Cynulliad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod opsiynau gyda’u grwpiau.

Trafododd y pwyllgor hefyd argymhelliad y Pwyllgor Busnes blaenorol y dylai strwythur craidd pwyllgorau polisi a deddfwriaeth ar y cyd gael ei chynnal yn y Pumed Cynulliad. Roedd Jane Hutt a Mark Reckless o blaid cynnal y strwythur hwn, gan ddweud ei bod yn caniatáu i Aelodau a oedd wedi datblygu arbenigedd mewn meysydd polisi i graffu hefyd ar ddeddfwriaeth ar y pynciau hynny. Fodd bynnag, awgrymodd Simon Thomas a Paul Davies y byddai cael o leiaf rhai pwyllgorau deddfwriaeth ar wahân yn lleihau pwysau gwaith rai pwyllgorau, a oedd yn broblem yn ystod y Cynulliad diwethaf.

Cododd Paul Davies y mater o gylchoedd gwaith pwyllgorau, sef y dylent adlewyrchu portffolios Ysgrifenyddion Cabinet, rhywbeth nad oedd wedi digwydd yn y Pedwerydd Cynulliad. Awgrymodd Simon Thomas hefyd y dylid cael pwyllgor ar wahân i graffu ar ddeddfwriaeth yr UE, a chyfeiriodd at y ffaith bod cylch gorchwyl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y pedwerydd Cynulliad yn benodol o eang gan arwain at lwyth gwaith anghymesur.

Nododd y Rheolwyr Busnes argymhelliad yn y papur ar bwyllgorau o ran pe byddai angen mwy o amser i ddod i farn derfynol ar y materion hyn, dylai trefniadau penodol gael eu rhoi yn eu lle ar gyfer pwyllgorau penodol i ystyried materion brys megis is-ddeddfwriaeth, cyllid, Mesur Cymru a chanlyniad refferendwm yr UE.

Gofynnodd y Pwyllgor am bapur pellach manwl yn amlinellu'r opsiynau ar gyfer strwythurau pwyllgor posibl gan gynnwys modelau a awgrymwyd ar gyfer cylch gwaith pwyllgorau a gweithdrefnau ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, yn seiliedig ar drafodaethau'r Pwyllgor, i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf ar ôl 8 Mehefin. Yn y cyfamser, gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes drafod y dewisiadau gyda'u Grwpiau.

 

 

4.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Comisiwn y Cynulliad

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiynwyr y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 7.1, ar gyfer y Cyfarfod Llawn ar 8 Mehefin. Nododd y Pwyllgor, er mwyn gwneud hynny, y byddai angen atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r cynnig ddigwydd ar 8 Mehefin gan y byddai hyn y tu hwnt i'r gofyniad i benodi Comisiynwyr heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi aelodau'r Pwyllgor Busnes.

Gofynnodd y Pwyllgor am gael cofnodi bod yr Aelodau o'r farn ei bod yn anffodus bod yn rhaid torri'r Rheolau Sefydlog yn y ffordd hon, a chytunodd i adolygu'r gofyniad o 10 diwrnod yn y Rheolau Sefydlog, gan nad oedd yn glir beth oedd ei ddiben.

Egwyddorion ac arfer ar gyfer cyflwyno a gosod busnes y Cynulliad

Nododd y Rheolwyr Busnes bapur ar gyfer Egwyddorion ac arfer ar gyfer cyflwyno a gosod busnes y Cynulliad

 

 

5.

Y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gwrdd am 9am ar 8 Mehefin i gytuno ar amserlen tair wythnos Busnes y Cynulliad ac i gwrdd eto yn dilyn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mehefin neu ar fore Iau 9 Mehefin i ystyried y materion a gyfeiriwyd i'w trafod gyda grwpiau.

 

Unrhyw Fater Arall

Anogodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i ofyn i'w Haelodau i beidio â thynnu lluniau yn y Siambr yn ystod y trafodion ac atgoffodd nhw nad oedd unrhyw fwyd a diod yn cael ei ganiatáu yn y Siambr, ac eithrio y dŵr a ddarperir ar gyfer yr Aelodau yn y Cwrt.