Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

1.2        Gan groesawu Lleu Williams, Clerc y Bwrdd, yn ôl, mynegodd y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd eu dymuniadau gorau iddo.

1.3        Cyflwynodd y Cadeirydd y swyddogion a ganlyn i bawb yn y cyfarfod: Craig Griffiths, un o gynghorwyr cyfreithiol Comisiwn y Cynulliad, a Dean Beard, aelod o’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.

1.4        Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 19 Medi, yn amodol ar fân newid i baragraff 5.2 i’w wneud yn fwy darllenadwy.

1.5        Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn y Cynulliad.

1.6        Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu'r Pwyllgor ar Ddiwygio'r Cynulliad.

1.7        Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro, gan gydnabod y penodiad hwnnw.

1.8        Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder, sef 'Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru'.

1.9        Nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am eiriad y Weithdrefn Gwyno a Disgyblu mewn perthynas ag apeliadau yn dilyn ymchwiliadau annibynnol, ynghyd â chyngor gan ACAS. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychiolwyr mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig i eiriad y weithdrefn, gyda'r bwriad o wneud gwaith ymgynghori pellach fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ar gyfer y Chweched Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

1.10     Gwnaeth y Bwrdd drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.

 

Camau gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i newid a chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi.

-     Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y cyfarfod ym mis Ionawr.

-     Yr ysgrifenyddiaeth i wneud trefniadau ar gyfer cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd ym mis Chwefror 2020.

 

 

2.

Eitem i’w thrafod: Adolygiad chwe mis o hyblygrwydd y lwfansau

Cofnodion:

2.1     Trafododd y Bwrdd adolygiad chwe mis o hyblygrwydd y lwfansau staff yn dilyn y broses o roi newidiadau ar waith, gan gynnwys dileu’r cap 111 awr ar gyflogi staff a gyflogir yn barhaol, cyllidebu costau cyflogau ar sail costau gwirioneddol, a newidiadau i'r opsiynau i drosglwyddo cyllid sydd ar gael i'r Aelodau.

 

2.2     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n cynnal adolygiad pellach ym mis Ebrill 2020 er mwyn gwneud gwaith monitro pellach ar natur effaith y newidiadau. 

 

2.3     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n newid y geiriad ar drosglwyddiadau yn y Penderfyniad er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn fwy clir.

 

 

 

3.

Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad - Crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad: rhan dau

Cofnodion:

·                     3.1     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad.

·                     3.2     Mewn perthynas â Chynnig 1, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu'r cynnig ar gyfer y Chweched Cynulliad a gweddill y Pumed Cynulliad, a hynny er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau ar allu Aelodau i recriwtio staff ar gontractau tymor penodol sy'n hwy na chwe mis ac sy’n para hyd at 18 mis, yn amodol ar gynnal proses recriwtio deg ac agored.

·                     3.3     Ymhellach i’r cam o weithredu Cynnig 1 ar gyfer y Chweched Cynulliad, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylid alinio contractau tymor penodol ar gyfer absenoldeb mamolaeth â darpariaethau statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth, a hynny am gyfnod o hyd at 12 mis.

·                     3.4     O ran Cynigion 2 a 6, sy'n ymwneud â chaniatáu i Aelod neu Arweinydd Plaid bennu cyflog cychwynnol a chodiadau cyflog cynyddrannol aelod staff yn dilyn ei gyfnod prawf, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu’r trefniant hwn ar gyfer y Chweched Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n argymell bod y Bwrdd nesaf yn adolygu'r broses hon 12 mis ar ôl ei gweithredu.

·                     3.5     Cytunodd y Bwrdd â'r ymatebion a ddaeth i law a oedd yn galw am broses ymgynghori mewn perthynas â’r canllawiau sy'n ymwneud â'r meini prawf ar gyfer cyflog cychwynnol, a chytunodd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychiolwyr wrth ddatblygu'r canllawiau.

·                     3.6     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3, 7 ac 8, a chytunodd hefyd, yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yn y Cynigion, y byddai amgylchiadau lle byddai aelodau o staff cymorth yn cael eu diswyddo yn rhai annisgwyl, a dylai’r sefyllfa honno felly fod yn destun codiad o 100 y cant.

·                     3.7     Wrth drafod yr ymatebion, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai staff sy’n cael eu diswyddo o ganlyniad i afiechyd fod yn destun codiad o 100 y cant, oherwydd y gallai amgylchiadau o’r fath hefyd fod yn annisgwyl.

·                     3.8     Fodd bynnag, ni chytunodd y Bwrdd i gymhwyso codiad o 100 y cant i aelodau staff a gafodd eu diswyddo yn sgil penderfyniad blaenorol y Bwrdd ym mis Ebrill 2019 ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu, gad fod yr amgylchiadau hynny yn rhai disgwyliedig.

·                     3.9     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 4 a 9, sy’n ymwneud â thalu cyflog sy'n cyfateb i isafswm band tri mewn perthynas â lleoliadau addysg uwch sy’n para’n hwy na phedair wythnos. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu canllawiau ar gyfer interniaethau. Cred y Bwrdd y byddai'r dull hwn yn cynorthwyo’r broses o gyflawni amcanion cydraddoldeb, tryloywder a thegwch.

·                     3.10   Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3 a 10, sy’n ymwneud â chyflwyno gweithdrefn ar gyfer lleoliadau gwirfoddol mewn swyddfeydd Aelodau a Grŵp.

·                     3.11   Mewn perthynas â Rhan dau o'r ymgynghoriad, yn canolbwyntio ar gynigion i ddiwygio Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y byddai’n rhoi'r newidiadau hynny ar waith. Bydd y Tîm Pensiynau yn cyfarwyddo Eversheds, ar ran y Bwrdd, i wneud y newidiadau angenrheidiol i Reolau'r Cynllun Pensiwn.

·                     3.12   Bu'r Bwrdd hefyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitem i’w thrafod: Y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymatebion i’r ymgynghoriad: rhan tri

Cofnodion:

 

4.1     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad ar ran tri o'r adolygiad o'r Penderfyniad.

4.2     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 1 i gadw’r trefniadau cyfredol ar gyfer tâl Aelodau, ac i gadw’r cyswllt rhwng cyflogau Aelodau a mynegai ASHE.

4.3     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 2 i wneud darpariaeth ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol y Darpar Gwnsler Cyffredinol.

4.4     Wrth drafod y materion uchod yng nghyd-destun sicrhau cysondeb o fewn y Penderfyniad, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar gynigion i dalu Darpar Brif Weinidog. Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar y ddarpariaeth dan sylw fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.

4.5     Nododd y Bwrdd y gefnogaeth a fynegwyd yn yr holl ymatebion a gafwyd i Gynnig 3, sef datblygu pennod newydd yn y Penderfyniad ar ddarparu cymorth i Aelodau sydd ag anableddau. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar destun penodol fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.

4.6     Cytunodd y Bwrdd mewn egwyddor i ddatblygu Cynnig 4, gan ystyried darparu cymorth i Aelodau â chyfrifoldebau gofal plant a gofalu. Cytunodd y byddai’n ymgynghori ar gynigion fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.

4.7     Wrth gytuno ar yr uchod, cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n gweithredu cynnig 5, sef cyhoeddi costau ar sail ddienw a chyfanredol.

4.8     Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu darpariaeth mewn perthynas â Chynnig 6, sef darparu cymorth i Aelodau sy'n cymryd cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir. Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar y darpariaethau manwl fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr.

4.9     Wrth drafod ymateb ynghylch darparu cymorth i Aelodau dros 65 oed, penderfynodd y Bwrdd y byddai'r newidiadau a'r ychwanegiadau a wneir i'r Penderfyniad o ganlyniad i'r rhan hon o'r adolygiad yn ymdrin ag anghenion Aelodau sy’n 65 oed neu’n hŷn.

 

Cam gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi’r llythyr yn datgan penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.

 

 

 

 

5.

Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: trafodaeth gychwynnol ynghylch yr ymgynghoriad llawn ar y Penderfyniad

Cofnodion:

5.1         Cynhaliodd y Bwrdd ei drafodaeth gychwynnol ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad yn ei gyfanrwydd, ynghyd â thrafodaeth ar y materion dros ben i’w hystyried fel rhan o'r broses ymgynghori derfynol ym mis Ionawr.

5.2         Cytunodd y Bwrdd y byddai’n trafod y Penderfyniad fesul llinell, fel y'i diwygiwyd, cyn cyhoeddi’r ymgynghoriad ddiwedd mis Ionawr.

 

 

 

6.

Eitem i’w thrafod: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2020-21

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Bwrdd nifer o faterion yn ymwneud â'i Benderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2020-21.

6.2     Trafododd y Bwrdd gyfradd y lwfans costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2020-201). Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys faint y mae Aelodau unigol yn ei wario ar gostau swyddfa, yn ogystal â mesurau chwyddiant.

6.3     Yn dilyn dadansoddiad o'r wybodaeth a oedd ar gael, cytunodd y Bwrdd fod gwariant Aelodau ar y lwfans yn dangos bod y lwfans cyfredol yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Yn sgil hynny, penderfynodd y Bwrdd gynnal y lwfansau o £18,260 a £4,912 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

6.4     Trafododd y Bwrdd y lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, gan ymdrin â nifer o ffactorau cysylltiedig, gan gynnwys faint y mae Aelodau’n ei wario ar lety, costau'r farchnad rentu leol yng Nghaerdydd, a mesurau chwyddiant. 

6.5     Cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu lwfans yr ardal allanol yn unol â chyfradd y CPI o fis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Byddai gwneud hyn yn cynyddu’r lwfans o £795 y mis i £810 y mis. Byddai hyn yn rhoi cyfanswm o £9,710 y flwyddyn.

6.6     Hefyd, trafododd y Bwrdd a ddylid newid y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr. Penderfynodd y Bwrdd fod y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

6.7     Mae cyflogau’r Aelodau (a deiliaid swyddi ychwanegol), yn ogystal â chyflogau eu staff cymorth, yn cael eu haddasu'n awtomatig bob mis Ebrill yn unol â’r newid yn enillion canolrif gros yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru. Nododd y Bwrdd mai'r newid eleni yw 4.4 y cant. Felly, dyma’r swm a ddefnyddir i addasu cyflogau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd manylion am y cyflogau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y Penderfyniad ar gyfer 2020-21.

6.8     Yn flaenorol, addaswyd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol bob blwyddyn yn ôl yr un mynegai ag a ddefnyddir ar gyfer cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y lwfans i dalu cyflogau staff cymorth grŵp yn unig; fe'i defnyddir hefyd i dalu costau staffio eraill, fel teithio, yn ogystal ag offer swyddfa a deunyddiau. Mae’r Bwrdd yn ymwybodol o gyfanswm cost gyffredinol y lwfans hwn, sy’n parhau i gynyddu. Yn sgil hynny, cytunodd y byddai’n defnyddio dull arall i addasu cyfanswm y lwfans ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

6.9     Gwnaeth y Bwrdd gynnig bod cyfanswm yr hyn sy’n cael ei wario ar gyflogau (sef tua 80.2 y cant o gyfanswm y lwfans yn 2018-19) yn cynyddu 4.4 y cant, sef cyfradd mynegai ASHE, a bod gweddill y lwfans yn cael ei addasu yn ôl cyfradd y CPI ar gyfer mis Medi 2019, sef 1.7 y cant.  Mae'r Bwrdd o'r farn bod y newid hwn yn un teg a fydd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.