Agenda item

Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad - Crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad: rhan dau

Cofnodion:

·                     3.1     Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad.

·                     3.2     Mewn perthynas â Chynnig 1, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu'r cynnig ar gyfer y Chweched Cynulliad a gweddill y Pumed Cynulliad, a hynny er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau ar allu Aelodau i recriwtio staff ar gontractau tymor penodol sy'n hwy na chwe mis ac sy’n para hyd at 18 mis, yn amodol ar gynnal proses recriwtio deg ac agored.

·                     3.3     Ymhellach i’r cam o weithredu Cynnig 1 ar gyfer y Chweched Cynulliad, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylid alinio contractau tymor penodol ar gyfer absenoldeb mamolaeth â darpariaethau statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth, a hynny am gyfnod o hyd at 12 mis.

·                     3.4     O ran Cynigion 2 a 6, sy'n ymwneud â chaniatáu i Aelod neu Arweinydd Plaid bennu cyflog cychwynnol a chodiadau cyflog cynyddrannol aelod staff yn dilyn ei gyfnod prawf, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu’r trefniant hwn ar gyfer y Chweched Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n argymell bod y Bwrdd nesaf yn adolygu'r broses hon 12 mis ar ôl ei gweithredu.

·                     3.5     Cytunodd y Bwrdd â'r ymatebion a ddaeth i law a oedd yn galw am broses ymgynghori mewn perthynas â’r canllawiau sy'n ymwneud â'r meini prawf ar gyfer cyflog cychwynnol, a chytunodd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychiolwyr wrth ddatblygu'r canllawiau.

·                     3.6     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3, 7 ac 8, a chytunodd hefyd, yn unol â’r hyn sydd wedi’i nodi yn y Cynigion, y byddai amgylchiadau lle byddai aelodau o staff cymorth yn cael eu diswyddo yn rhai annisgwyl, a dylai’r sefyllfa honno felly fod yn destun codiad o 100 y cant.

·                     3.7     Wrth drafod yr ymatebion, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai staff sy’n cael eu diswyddo o ganlyniad i afiechyd fod yn destun codiad o 100 y cant, oherwydd y gallai amgylchiadau o’r fath hefyd fod yn annisgwyl.

·                     3.8     Fodd bynnag, ni chytunodd y Bwrdd i gymhwyso codiad o 100 y cant i aelodau staff a gafodd eu diswyddo yn sgil penderfyniad blaenorol y Bwrdd ym mis Ebrill 2019 ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu, gad fod yr amgylchiadau hynny yn rhai disgwyliedig.

·                     3.9     Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 4 a 9, sy’n ymwneud â thalu cyflog sy'n cyfateb i isafswm band tri mewn perthynas â lleoliadau addysg uwch sy’n para’n hwy na phedair wythnos. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu canllawiau ar gyfer interniaethau. Cred y Bwrdd y byddai'r dull hwn yn cynorthwyo’r broses o gyflawni amcanion cydraddoldeb, tryloywder a thegwch.

·                     3.10   Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3 a 10, sy’n ymwneud â chyflwyno gweithdrefn ar gyfer lleoliadau gwirfoddol mewn swyddfeydd Aelodau a Grŵp.

·                     3.11   Mewn perthynas â Rhan dau o'r ymgynghoriad, yn canolbwyntio ar gynigion i ddiwygio Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y byddai’n rhoi'r newidiadau hynny ar waith. Bydd y Tîm Pensiynau yn cyfarwyddo Eversheds, ar ran y Bwrdd, i wneud y newidiadau angenrheidiol i Reolau'r Cynllun Pensiwn.

·                     3.12   Bu'r Bwrdd hefyd yn trafod materion eraill a godwyd yn yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y rhan hon o'r adolygiad.

·                     3.13   Trafododd y Bwrdd faterion a godwyd mewn nifer o ymatebion yn ymwneud â lefelau cyflog staff cymorth. Mae’r Bwrdd o'r farn o hyd nad oes tystiolaeth ychwanegol i'r Bwrdd ei thrafod ar hyn o bryd, yn dilyn Adolygiad diweddar y Bwrdd o Gymorth Staffio, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019. Nododd y Bwrdd y ffigur ASHE diweddaraf, sef 4.4 y cant, a fyddai'n arwain at gynnydd mewn lefelau cyflog staff cymorth ar gyfer 2020-21.

·                     3.14   Yn ogystal, nododd y Bwrdd fater a godwyd mewn nifer o ymatebion, sef y cynllun pensiwn ar gyfer staff cymorth, a chytunodd y byddai’n trafod papur mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn deall manylion y cynllun yn well.

·                     3.15   Nododd y Bwrdd hefyd fater a godwyd mewn un ymateb, sef mater yn ymwneud ag absenoldeb arbennig ar gyfer milwyr wrth gefn. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n trafod y posibilrwydd o gyflwyno polisi absenoldeb arbennig ar gyfer milwyr wrth gefn a rolau eraill y gall staff ymgymryd â hwy er mwyn cyfrannu at gymdeithas ddinesig. Bydd yn ymgynghori ar gynigion fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ar gyfer y Chweched Cynulliad ym mis Ionawr.

3.16   Nododd y Bwrdd y materion a godwyd mewn un ymateb parthed contractau Staff Grŵp. Roedd y Bwrdd o'r farn o hyd y byddai angen trafod y mater hwn yn y Chweched Cynulliad yng nghyd-destun diwygio pellach mewn perthynas â’r Cynulliad.

·                     Cam gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi’r llythyr yn datgan penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.