Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 – 9:15)

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.

 

1.2 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2016.

 

(9:15 – 9:45)

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf ac ystyried rhaglen waith y Bwrdd

·        Y Wybodaeth Ddiweddaraf a Rhaglen Waith – Papur 2

 

Cofnodion:

2.1        Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu'r gwaith y bwriadwyd ei wneud a'r penderfyniad allweddol y byddai angen ei wneud yn fuan. Trafododd y Bwrdd y rhaglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn/tymor yr haf 2016.

 

Y Bil Menter

 

2.2        Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r trafodaethau ynghylch y Bil Menter.

 

2.3        Nododd y Bwrdd fod y Cynulliad wedi cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, yn sgil sicrwydd gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus na fyddai'r Llywodraeth yn ceisio arfer y pŵer hwn.

 

2.4        Mynegodd y Bwrdd bryderon ynglŷn â'r egwyddor nad oedd y Bil yn adlewyrchu rôl y Bwrdd Taliadau na'i gylch gwaith yng Nghymru. 

 

Cam gweithredu:

 

·         Cytunodd y Bwrdd i fonitro'r trafodaethau ynghylch sut y bydd y trefniadau o dan y Bil yn gweithio'n ymarferol ac i ofyn am ddiweddariad gan y Llywydd ynglŷn ag unrhyw ymrwymiadau a wnaed gan y Trysorlys.

 

Pensiynau

 

2.5        Nododd y Bwrdd fod Trysorlys Ei Mawrhydi yn ystyried y cynllun pensiwn terfynol ac mai'r disgwyl oedd i'r cynllun gael ei gymeradwyo'n ffurfiol dros yr wythnosau nesaf.

 

2.6        Yn dilyn trafodaethau rhwng Michael Redhouse ac Adran Actiwari’r Llywodraeth, cytunodd y Bwrdd i roi'r cyngor i'r Adran Actiwari y dylai'r cynllun pensiwn newydd fod â chyfradd cyfraniadau o 10.5 y cant ar gyfer Aelodau a 15.6 y cant ar gyfer Comisiwn y Cynulliad. Byddai'r cynllun terfynol i'w gymeradwyo gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn adlewyrchu hyn.

 

2.7        Nododd y Bwrdd fod y broses o recriwtio Cadeirydd annibynnol ar gyfer Bwrdd Pensiynau newydd Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd rhagddi. Er mai Michael Redhouse oedd cynrychiolydd y Bwrdd ar y panel recriwtio, nododd y Bwrdd fod angen iddo benodi'r ymgeisydd llwyddiannus yn ffurfiol yn dilyn yr ymarfer recriwtio.

 

Disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad

 

2.8         Nododd y Bwrdd yr ymatebion i ymgynghoriad y tîm Cymorth Busnes i Aelodau ar ddisgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, a fyddai'n eu helpu i wella'r broses recriwtio ac adlewyrchu'r amrywiaeth o swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad yn y Grwpiau ac yn swyddfeydd yr Aelodau.  

 

2.9        Cytunodd y Bwrdd fod y templed safonol presennol ar gyfer disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad yn addas i'r diben.

 

 Diweddariad ar faterion ariannol y Bwrdd a'r rhagolygon ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17

 

2.10     Nododd y Bwrdd y diweddariad ariannol ar gyfer ei waith a'r gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.

 

2.11     Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiadau chwe-misol o'i gyllideb a'r gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. 

 

Cam gweithredu:

·         Gofynnodd y Bwrdd am ragor o wybodaeth am y tanwariant yng nghyllideb gyffredinol yr Aelodau.

 

 

 

Cynigion am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd strategol ym mis Medi

 

2.12     Cytunodd y Bwrdd y byddai'n cynnal diwrnod cwrdd i ffwrdd strategol yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn er mwyn ymgysylltu ag aelodau o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad sy'n gweithio mewn swyddfeydd etholaeth yn y gogledd. 

 

2.13     Cytunodd y Bwrdd y dylai'r diwrnod cwrdd i ffwrdd gynnwys gwahodd staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sesiwn galw heibio ac ymweliadau unigol â swyddfeydd etholaethol er mwyn clywed yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

(9:45 – 10:45)

3.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad: Ystyried ymatebion i ymgynghoriad 2016-17

Cofnodion:

3.1        Trafododd y Bwrdd y gwelliannau a ganlyn i Benderfyniad drafft 2016-17 a'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Cytunodd y Bwrdd i gymryd y camau a ganlyn:

 

·         cynyddu cyflogau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2016-17 1. 1 y cant yn unol â ffigurau arfaethedig 2015 ar gyfer enillion canolrif ASHE yng Nghymru (i'w weithredu ar 1 Ebrill);

·         cadw'r terfyn uchaf ar gyfer hawlio lwfans llety preswyl i Aelodau o'r ardal allanol, sef £735 y mis ar gyfer taliadau rhent ar hyn o bryd, gosod lwfans gofalwyr o £1,440 y flwyddyn a chadw cyfradd y lwfans atodol ar gyfer llety preswyl sy'n ymwneud â gwaith atgyweirio hanfodol ar eiddo dan forgais, sef 10 y cant o lwfans blynyddol yr ardal allanol ar hyn o bryd;

·         cynyddu'r lwfans costau swyddfa 1 y cant (i'w weithredu ar 1 Ebrill); 

·         cynyddu cyfanswm y lwfans cymorth i bleidiau i £909,900.   Er mwyn symleiddio pethau, y ffigur a nodwyd yw £910,000.

 

3.2        Cytunodd y Bwrdd i drafod darpariaethau yn y Penderfyniad ynghylch Gwariant ar Lety Preswyl ar ôl ethol Aelodau newydd y Cynulliad pe bai unrhyw broblemau'n codi.

 

3.3       Cytunodd y Bwrdd i ymateb i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2016-17 gan Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a Grŵp Llafur Cymru.  Cytunodd y Bwrdd i ystyried y materion a godwyd ynghylch cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad fel rhan o'i waith cynllunio strategol ym mis Medi. 

 

3.4       Mewn perthynas â'r lwfans costau swyddfa, nododd y Bwrdd fod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar 0.3 y cant ar hyn o bryd a chaiff y ffigurau nesaf eu rhyddhau ar 22 Mawrth.  Bydd y ffigurau chwyddiant ar gyfer mis Ebrill 2016 yn cael eu cyhoeddi ganol mis Mai.

 

3.5        Nododd y Bwrdd y rhagolygon diweddaraf gan Fanc Lloegr (Chwefror 2016) o ran y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer chwyddiant yn chwarter cyntaf 2016, sef amcangyfrif o 0.4 y cant yn cynyddu i 1.2 y cant erbyn chwarter cyntaf 2017.

 

3.6        Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y Penderfyniad er mwyn cynnwys y cynnydd arfaethedig o 1 y cant yn y lwfans costau swyddfa.

 

3.7       Nododd y Bwrdd fod y Penderfyniad cyfredol yn cyfeirio at 'Arweinydd yr Wrthblaid' ond nid yw'n nodi bod angen tri Aelod ar blaid er mwyn iddo fod yn grŵp a chael cyflog.  Cytunodd y Bwrdd y byddai newid y geiriad a'r Rheol Sefydlog berthnasol i adlewyrchu hyn yn gwneud y ddarpariaeth yn y Penderfyniad yn gliriach. 

 

(11:00 – 11:30)

4.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad: Darpariaeth ar gyfer Cynghorwr Ariannol Annibynnol

Cofnodion:

4.1        Trafododd y Bwrdd bapur yn amlinellu Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a gyflwynwyd gan Donna Davies, Pennaeth Pensiynau Comisiwn y Cynulliad.

 

4.2        Nododd y Bwrdd fod Cynghorwr Ariannol Annibynnol ynghlwm wrth y Cynllun a'i fod yn cael ei dalu gan y Comisiwn ar hyn o bryd am y gwasanaethau a ddarperir a chostau disgwyliedig y gwasanaeth yn y dyfodol, o ystyried na fyddai'n gweithredu ar y sail honno mwyach. 

 

4.3         Bu'r Bwrdd yn trafod adborth staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ar y gwasanaeth hwn ac awgrymiadau ar gyfer gwella'r cymorth a roddir iddynt o ran deall eu cynllun pensiwn.  

 

4.4        Nododd y Bwrdd y byddai Comisiwn y Cynulliad yn cynnal adolygiad o Gynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn fuan.

 

4.5         Cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi terfyn ar gontract y Cynghorwr Ariannol Annibynnol presennol.  Yn lle hynny, cytunodd y Bwrdd mai Tîm Pensiynau Comisiwn y Cynulliad ddylai fod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â'u pensiynau.

 

4.6        Cytunodd y Bwrdd y dylai'r tîm Pensiynau ysgrifennu at aelodau a'u staff er mwyn egluro'r newid a chadarnhau'r trefniadau newydd.

 

Cam gweithredu:

 

·         Y Pennaeth Pensiynau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd wrth weithredu'r ddarpariaeth newydd ynghylch cyngor ar bensiynau i staff cymorth Aelodau'r Cynulliad. 

 

(11:30 – 12:30)

5.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Pensiynau'r Aelodau: Ystyried rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r Cynllun Pensiwn

Cofnodion:

5.1        Bu'r Bwrdd yn trafod papur a oedd yn nodi'n glir y rolau a'r cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Cynllun Pensiynau newydd fel sail ar gyfer Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng y Bwrdd Pensiynau a'r Bwrdd Taliadau.

 

5.2        Nododd y Bwrdd y rolau a'r cyfrifoldebau a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chadarnhaodd ei fod yn fodlon ar sut y câi rôl y Bwrdd Taliadau ei chyflawni mewn egwyddor. 

 

5.3        Cytunodd y Bwrdd y dylid gwahodd sylwadau gan Adran Actiwari’r Llywodraeth a'r Bwrdd Pensiynau newydd ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r rolau a'r cyfrifoldebau.

 

5.4         Nododd y Bwrdd hefyd y byddai'r Bwrdd yn cael papur ar brisiadau'r terfyn uchaf ar gostau i'w ystyried yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf.

 

(13:30 – 14:15)

6.

Eitem ar gyfer penderfyniad: Cynigion ar gyfer Egwyddorion Llywodraethu a chanllawiau ar gynnal busnes y Bwrdd Taliadau

Cofnodion:

6.1        Trafododd y Bwrdd ddiwygiadau i'r ddogfen Egwyddorion Llywodraethu a Chanllawiau ar Gynnal Busnes drafft

 

6.2        Cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod cynnwys y ddogfen hon ar y diwrnod cwrdd i ffwrdd.

 

6.3        Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y disgrifiadau o rôl ac egwyddorion y Bwrdd yn y ddogfen ddrafft i'w gwneud yn gliriach. 

 

6.4        Cytunodd y Bwrdd y dylai fabwysiadu cynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad gan ei fod yn enghraifft o arfer da.  Dylai'r ddogfen ddrafft adlewyrchu hyn.

 

 

(14:15 – 14:45)

7.

Trosolwg o adnoddau a ddarperir i Aelodau'r Cynulliad drwy'r Penderfyniad a chan Gomisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

7.1        Bu'r Bwrdd yn trafod adnodd drafft a fyddai'n caniatáu iddo ddeall yn well sut y mae'r lwfansau amrywiol yn cydblethu ac yn cefnogi Aelodau Cynulliad. 

 

7.2        Nododd y Bwrdd, lle y bo'n bosibl, y byddai'r adnodd yn nodi'n glir y gyllideb ar gyfer pob lwfans neu wasanaeth a ddarperir, o Lwfans yr Aelodau ac o gronfeydd canolog Comisiwn y Cynulliad, er mwyn adlewyrchu'r pecyn cyffredinol o gymorth i Aelodau Cynulliad yn well. 

 

7.3        Cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod yr adnodd ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(15:00 – 16:00)

8.

Ymgysylltu Aelodau yn y Pumed Cynulliad

Cofnodion:

8.1        Cytunodd y Bwrdd i gynnal sesiwn galw heibio yn y Senedd ddydd Mawrth 5 Gorffennaf.

 

8.2        Bu'r Bwrdd yn trafod negeseuon allweddol i atgyfnerthu ei ymagwedd at ei rôl a'i gylch gwaith.  Y nod oedd sicrhau cysondeb y negeseuon a gaiff eu cyfleu.        

 

8.3        Cytunodd y Bwrdd fod y dull hwn yn galluogi'r Bwrdd i ymateb i'r materion allweddol a nodwyd yn Adroddiad Etifeddiaeth y Bwrdd blaenorol ac sy'n cael eu hystyried hefyd yng nghyd-destun y ddogfen Egwyddorion Llywodraethu a Chanllawiau Ategol arfaethedig.

 

8.4         Cytunodd y Bwrdd y byddai'n siarad ag Aelodau Cynulliad yn gynnar yn y Pumed Cynulliad er mwyn clywed am eu barn a'u profiadau o ran effeithiolrwydd y lwfans dirwyn i ben.

 

8.5        Gofynnodd y Bwrdd am i'r adroddiad archwilio ar lwfansau Aelodau gael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

8.6        Cyfarwyddodd y Bwrdd yr ysgrifenyddiaeth i gydweithio â grwpiau'r pleidiau er mwyn trefnu slotiau yng nghyfarfodydd y pleidiau cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.  Awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n ddymunol ac yn angenrheidiol i aelodau'r Bwrdd fod ar gael i gefnogi'r Cadeirydd neu gynrychioli'r Bwrdd eu hunain yn y cyfarfodydd hynny. 

 

8.7        Gofynnodd y Bwrdd am nodyn briffio gan yr ysgrifenyddiaeth i lywio'r trafodaethau yng nghyfarfodydd y pleidiau.