Agenda item
Y wybodaeth ddiweddaraf ac ystyried rhaglen waith y Bwrdd
- Cyfarfod Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (WRB (04)), Dydd Iau, 24 Mawrth 2016 09.00 (Item 2.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 2.
·
Y Wybodaeth Ddiweddaraf a Rhaglen Waith – Papur 2
Cofnodion:
2.1
Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn
amlinellu'r gwaith y bwriadwyd ei wneud a'r penderfyniad allweddol y byddai
angen ei wneud yn fuan. Trafododd y Bwrdd y rhaglen waith ar gyfer tymor y
gwanwyn/tymor yr haf 2016.
Y Bil Menter
2.2
Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r
trafodaethau ynghylch y Bil Menter.
2.3
Nododd y Bwrdd fod y Cynulliad wedi
cytuno ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, yn sgil sicrwydd gan y Gweinidog
Gwasanaethau Cyhoeddus na fyddai'r Llywodraeth yn ceisio arfer y pŵer hwn.
2.4
Mynegodd y Bwrdd bryderon
ynglŷn â'r egwyddor nad oedd y Bil yn adlewyrchu rôl y Bwrdd Taliadau na'i
gylch gwaith yng Nghymru.
Cam gweithredu:
·
Cytunodd y Bwrdd i
fonitro'r trafodaethau ynghylch sut y bydd y trefniadau o dan y Bil yn
gweithio'n ymarferol ac i ofyn am ddiweddariad gan y Llywydd ynglŷn ag
unrhyw ymrwymiadau a wnaed gan y Trysorlys.
Pensiynau
2.5
Nododd y Bwrdd fod Trysorlys Ei
Mawrhydi yn ystyried y cynllun pensiwn terfynol ac mai'r disgwyl oedd i'r
cynllun gael ei gymeradwyo'n ffurfiol dros yr wythnosau nesaf.
2.6
Yn dilyn trafodaethau rhwng Michael
Redhouse ac Adran Actiwari’r Llywodraeth, cytunodd y Bwrdd i roi'r cyngor i'r
Adran Actiwari y dylai'r cynllun pensiwn newydd fod â chyfradd cyfraniadau o
10.5 y cant ar gyfer Aelodau a 15.6 y cant ar gyfer Comisiwn y Cynulliad.
Byddai'r cynllun terfynol i'w gymeradwyo gan Drysorlys Ei Mawrhydi yn
adlewyrchu hyn.
2.7
Nododd y Bwrdd fod y broses o
recriwtio Cadeirydd annibynnol ar gyfer Bwrdd Pensiynau newydd Cynllun Pensiwn
Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd rhagddi. Er mai Michael Redhouse
oedd cynrychiolydd y Bwrdd ar y panel recriwtio, nododd y Bwrdd fod angen iddo
benodi'r ymgeisydd llwyddiannus yn ffurfiol yn dilyn yr ymarfer recriwtio.
Disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad
2.8
Nododd y Bwrdd yr ymatebion i ymgynghoriad y
tîm Cymorth Busnes i Aelodau ar ddisgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad, a fyddai'n eu helpu i wella'r broses recriwtio ac adlewyrchu'r
amrywiaeth o swyddi staff cymorth Aelodau'r Cynulliad yn y Grwpiau ac yn
swyddfeydd yr Aelodau.
2.9
Cytunodd y Bwrdd fod y templed
safonol presennol ar gyfer disgrifiadau swyddi staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad yn addas i'r diben.
Diweddariad ar faterion ariannol y
Bwrdd a'r rhagolygon ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17
2.10
Nododd y Bwrdd y diweddariad
ariannol ar gyfer ei waith a'r gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r
Cynulliad.
2.11
Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal adolygiadau chwe-misol o'i gyllideb a'r
gyllideb gyffredinol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.
Cam gweithredu:
·
Gofynnodd y Bwrdd am ragor o
wybodaeth am y tanwariant yng nghyllideb gyffredinol yr Aelodau.
Cynigion am ddiwrnod cwrdd i ffwrdd strategol ym mis Medi
2.12
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n cynnal
diwrnod cwrdd i ffwrdd strategol yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn er mwyn
ymgysylltu ag aelodau o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad sy'n gweithio mewn
swyddfeydd etholaeth yn y gogledd.
2.13
Cytunodd y Bwrdd y dylai'r diwrnod
cwrdd i ffwrdd gynnwys gwahodd staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sesiwn galw
heibio ac ymweliadau unigol â swyddfeydd etholaethol er mwyn clywed yn
uniongyrchol am yr heriau sy'n wynebu staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.
2.14
Cytunodd y Bwrdd i ystyried rhaglen
ddrafft ar gyfer y diwrnod cwrdd i ffwrdd yn ei gyfarfod nesaf. Dylai hyn gynnwys meysydd y bydd y Bwrdd am
eu trafod er mwyn helpu i lywio ei benderfyniadau yn y cyfnod yn arwain at y
Chweched Cynulliad.
Cam gweithredu:
·
Gofynnodd y Bwrdd am ragor o
wybodaeth am arferion da a'r egwyddorion a fabwysiadwyd gan wledydd eraill yr
UE wrth gefnogi Aelodau a'u staff i gyflawni eu swyddi hyd eithaf eu gallu.
Dyddiadau cyfarfodydd
2.15
Cadarnhaodd y Bwrdd y byddai'r
diwrnod cwrdd i ffwrdd ym mis Medi yn cael ei gynnal ar 15 a 16 Medi.
Cyfathrebu
2.16
Hwylusodd Pennaeth Cyfathrebu Comisiwn y
Cynulliad drafodaeth ynghylch cysylltiadau â'r cyfryngau a phroffil y Bwrdd, yn
benodol yn ystod y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad.
Tâl cydnabyddiaeth Cadeiryddion Pwyllgorau
2.17
Nododd y Bwrdd y byddai angen iddo
ystyried tâl cydnabyddiaeth Cadeiryddion pwyllgorau yn ei gyfarfod ar 6
Gorffennaf.
2.18
Trafododd y Bwrdd y trefniadau ar
gyfer talu cadeiryddion pwyllgorau cyn penderfynu ynghylch y taliadau i aelodau
pwyllgorau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Cytunodd y Bwrdd na ddylid gwneud unrhyw daliadau yn y cyfnod interim ac
y dylid ôl-ddyddio'r taliadau ar ôl i'r Bwrdd wneud penderfyniad.
Camau gweithredu:
·
Gofynnodd y Bwrdd am ragor o
wybodaeth am benderfyniad y Bwrdd ynghylch taliadau i Gadeiryddion pwyllgorau'r
Pedwerydd Cynulliad.
·
Gofynnodd y Bwrdd am ragor o
wybodaeth am y cyfrifoldebau ychwanegol y byddai Cadeiryddion y pwyllgorau
newydd yn eu cael o gymharu â Chadeiryddion y Pedwerydd Cynulliad.