Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Buddug Saer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys Steve Wyndham a oedd yn bresennol am y tro cyntaf ers cymryd lle Gareth Lucey fel Rheolwr Archwilio yn Archwilio Cymru. Nododd ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin a dywedodd y byddai'r sesiwn breifat flynyddol gydag Archwilio Cymru a drefnwyd ar gyfer heddiw yn cael ei hail-drefnu.

 

2.

Cofnodion cyfarfod 20 Tachwedd, y camau i'w cymryd a materion yn codi

Cofnodion:

2.1         Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd a nodwyd y crynodeb o’r diweddariadau ar y camau i’w cymryd. 

 

3.

COVID-19 - Diweddariad corfforaethol

Cofnodion:

3.1         Rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y trefniadau sydd ar waith ar yr ystâd. Oherwydd y cyfyngiadau haen 4, roedd busnes y Senedd yn hollol rithwir ac felly y byddai'n aros hyd nes i gyfyngiadau gael eu codi. Roedd y cyfyngiadau wedi lleihau'r risg ar yr ystâd yn sylweddol gan fod presenoldeb yn is na 15 y cant, o’i gymharu â’r trothwy o 30 y cant. Roedd y rhai a oedd yn bresennol, gan gynnwys y rhai a oedd yn cefnogi busnes y Senedd ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, yn rhwym wrth reolau cadw pellter cymdeithasol, a oedd yn gweithio'n dda. 

3.2         Roedd grŵp rhaglen Dychwelyd i'r Ystad yn parhau i baratoi ar gyfer nifer o senarios yn seiliedig ar lacio cyfyngiadau, yn enwedig o ystyried llwyddiant cynnar y rhaglen frechu. Roeddent yn canolbwyntio ar fonitro'r rheoliadau i sicrhau bod y sefydliad mor barod â phosibl ar gyfer ailagor. Byddai'r grŵp hwn yn darparu diweddariadau wythnosol i'r Tîm Arweinyddiaeth a byddai'n parhau i ymgynghori â deddfwrfeydd eraill.

3.3         Gofynnodd aelodau'r pwyllgor a fyddai llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu y gallai staff ddychwelyd i'r ystâd yn gynt. Mewn ymateb, cadarnhaodd Dave fod hyn yn annhebygol oherwydd proffil oedran defnyddwyr yr adeiladau, gan fod y mwyafrif ohonynt yn annhebygol o gael eu brechu tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Pwysleisiodd hefyd fod rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau wyneb yn debygol o aros am gryn amser, yn ogystal â dod i’r gweithle dim ond os yw’n hanfodol. 

3.4         Mae'r Tîm Ystadau a Chyfleusterau wedi nodi mannau peilot ar gyfer newidiadau penodol i brofi sut y gallai dychwelyd i'r ystâd edrych, gyda phresenoldeb corfforol a phresenoldeb rhithwir, yn ogystal â mannau cyfarfod ac ymneilltuo. Byddai'r mannau peilot hyn yn cael eu gwerthuso a'u haddasu cyn eu cyflwyno i leoedd eraill. 

3.5         Wrth gael ei holi am bwysigrwydd monitro llesiant staff, rhoes Dave sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr heriau i nifer o weithwyr ynghylch cyfrifoldebau domestig ac addysg gartref yn cael eu monitro'n weithredol gan reolwyr llinell a bod lles a llesiant staff yn flaenoriaeth i bawb. Roedd cau am gyfnod estynedig dros y Nadolig wedi rhoi cyfle i fwyafrif helaeth y staff gymryd hoe, yn ogystal â lleihau'r ffigur ar gyfer gwyliau blynyddol cronedig. Er bod y cyfnod clo parhaus yn rhoi pwysau ar lawer, credai fod polisïau'r Comisiwn a hyblygrwydd timau i weithio'n wahanol yn golygu bod y mater yn cael ei reoli'n dda. Dywedodd hefyd fod cyd-ddealltwriaeth o'r pwysau trwy drafodaethau rheolaidd gyda'r Comisiwn a Fforwm y Cadeiryddion. 

3.6         Hefyd, dywedodd Arwyn Jones wrth y Pwyllgor fod y cynllunio ar gyfer dechrau'r Chweched Senedd ar y gweill i ganiatáu ar gyfer trafodion rhithwir yn bennaf. Roedd hyn yn cynnwys y seremoni agoriadol swyddogol, a allai fod yn gymysgedd o weithgareddau rhithwir a gweithgareddau ar y safle, yn dibynnu ar y cyfyngiadau a fydd ar waith bryd hynny. Bu staff y Comisiwn yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r gwahanol randdeiliaid. 

3.7         Croesawodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys rhagolwg o gynllun archwilio 2021-22)

Cofnodion:

4.1         Cyflwynodd Gareth ei ddiweddariad arferol ar weithgaredd llywodraethu a sicrhau a gwaith archwilio. Amlinellodd sut yr oedd wedi parhau i arwain Llif Gwaith Sicrwydd o ran Rhaglen y Comisiwn ar gyfer Dychwelyd i'r Ystâd a’i gyfranogiad o’r fforwm rhyngseneddol ar Barhad Busnes. Hefyd rhoddodd ddiweddariad ar baratoadau ar gyfer cynhyrchu Adroddiad Blynyddol 2020-21 y Comisiwn, a chynhyrchu datganiadau sicrwydd gan bob Pennaeth Gwasanaeth a Chyfarwyddwr, sef gwaith yr oedd ei dîm yn arwain arno.   

4.2         Dosbarthwyd yr adroddiad ar yr adolygiad rheoli risg a materion y tu allan i'r Pwyllgor, ac roedd adolygiad o reoli asedau TGCh ar gyfer staff y Comisiwn ac Aelodau o'r Senedd a'u staff yn aros i gael ei glirio cyn ei rannu â'r Pwyllgor.

4.3         Holodd y Pwyllgor ynghylch y meini prawf ar gyfer dychwelyd asedau TGCh a dodrefn gan Aelodau sy’n gadael ac ynghylch dyrannu offer i Aelodau newydd ac Aelodau sy'n dychwelyd. Cytunodd Gareth y byddai'n trafod opsiynau ailgylchu ac ailddefnyddio â chydweithwyr yn nhîm Cymorth Busnes i’r Aelodau a Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau. 

4.4         Aildrefnwyd yr archwiliad o ddiwylliant cydymffurfio ar gyfer tymor yr hydref; nid oedd ei gwmpas wedi'i ddiffinio eto. Disgrifiodd Gareth yr offeryn cydymffurfio meta a ddefnyddiwyd i gyflwyno rhai polisïau, a bydd ei effeithiolrwydd yn cael ei werthuso. Holodd aelodau'r pwyllgor ynghylch ei ddefnydd i helpu i sicrhau lefel eu cydymffurfiad â pholisïau'r Comisiwn y tu hwnt i'r Rheolau Diogelwch TGCh.

4.5         O ran anghenion hyfforddiant  aelodau'r Pwyllgor yn gyffredinol, awgrymodd y Cadeirydd y dylai ef a’r tîm clercio drafod y mater. 

4.6         Wrth lunio ei Adroddiad Blynyddol a'i Farn ar ddiwedd y flwyddyn, bydd Gareth yn adolygu Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Bydd ei adroddiad yn cydnabod sut yr oedd modd gwrthbwyso’r gostyngiad yn nifer yr adroddiadau archwilio mewnol traddodiadol a gynhyrchir, trwy iddo gynnig ffyrdd ychwanegol o roi sicrwydd ac adolygiad yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys gwasanaethu ar fyrddau, yn darparu sicrwydd a chyngor amser real i uwch-reolwyr ac eraill.

4.7         I gloi’r eitem fe gyflwynodd Gareth ei ragolwg ar gyfer 2021-22 a fydd yn cynnwys gwaith sy'n gysylltiedig â Senedd newydd, yn ogystal â’r archwilio a ohiriwyd o'r flwyddyn flaenorol a'r adolygiadau rheolaidd o feysydd fel systemau ariannol, treuliau Aelodau a seiberddiogelwch. Croesawodd y Pwyllgor gynlluniau i gynnal yr adolygiad arfaethedig o werth am arian o'r Gwasanaeth Ymchwil, yn benodol ynglŷn â’r Llyfrgell, gan y bydd yn dangos defnydd effeithiol o adnoddau.  

 

5.

Diweddariad ar Ddiogelu Data

Cofnodion:

5.1 Cyflwynodd Gareth y papur hwn, a fwriadwyd i roi sicrwydd bod y Comisiwn yn adolygu eu gallu i gydymffurfio â GDPR yn gyson. Roedd y papur hwn yn canolbwyntio ar sut yr eir i'r afael wrth symud ymlaen â'r bylchau a nodwyd, ac ar gynlluniau ar gyfer archwiliadau cydymffurfio yn y dyfodol. Amlinellodd hefyd ddatblygiad offeryn cydymffurfio â diogelu data (yn seiliedig ar hunanasesiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth) a oedd yn cael ei gyflwyno i feysydd cyfrifoldeb.

5.2 Ychwanegodd Gareth fod cael Dirprwy Swyddog Diogelu Data yn golygu y bydd mwy o ffocws ar gamau blaenoriaeth, gan gynnwys hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, canllawiau a pholisi, gan gynnwys o ran cadw gwybodaeth. Cytunodd Gareth i ddarparu adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y camau a nodwyd a bydd yn gwirio’r cynnydd yn ffurfiol ymhen blwyddyn trwy archwiliad ffurfiol.

5.3 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad hwn a'r dull arfaethedig. Pan ofynnwyd iddo a fyddai cyngor a hyfforddiant yn cael eu rhoi i'r Aelodau a'u staff, atgoffodd Gareth y Pwyllgor fod yr Aelodau'n rheolwyr data ynddynt eu hunain ond y byddai ei dîm yn gwneud yr Aelodau'n ymwybodol o ganllawiau, gan gynnwys canllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Cyfeiriodd hefyd at sesiynau hyfforddi yr oedd swyddfa ICO Cymru wedi'u darparu i Aelodau yn y gorffennol, a'r opsiwn o ddarparu sesiynau rhithwir posibl yn y dyfodol.

 

6.

Trafod canfyddiadau newydd sy'n deillio o waith interim/yn ystod y flwyddyn a rhoi cyngor i'r Swyddog Cyfrifyddu ynglyn ag unrhyw faterion y bydd angen mynd i'r afael â hwy yn ystod gweddill y flwyddyn

7.

Trafod unrhyw gamau sydd eto i'w cymryd o ran gwaith archwilio mewnol ac allanol y flwyddyn flaenorol a rhoi sylwadau ar unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â hwy

8.

Rhannu adroddiadau sector cyhoeddus/cenedlaethol ehangach a gynhyrchwyd

Cofnodion:

6.1 Diolchodd Steve Wyndham i'r Pwyllgor am eu geiriau o groeso ac i'r Cadeirydd am roi o’i amser i gyflwyno ei hun cyn y cyfarfod. Roedd wedi ystyried diddordeb y Pwyllgor mewn allbynnau a diweddariadau Archwilio Cymru (a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol) a chytunodd i rannu'r rhain pan fyddant ar gael.

6.2 Rhoes Steve ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y camau o ran canlyniad unrhyw drafodaethau gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) mewn perthynas â'r Ddeddf Cydraddoldeb. Roedd ymrwymiad y byddai Archwilio Cymru yn parhau i gysylltu ag CCHD pan fyddai gogwydd cydraddoldeb sylweddol ar ei waith. Croesawodd Ann Beynon yr ymrwymiad hwn ac anogodd Gomisiwn y Senedd i ymgysylltu â'r CCHD mewn ffordd debyg. Cytunwyd y byddai Dave yn trafod hyn ymhellach ag Ann y tu allan i'r cyfarfod. 

6.3 Cadarnhaodd Steve nad oedd materion heb eu datrys ar gyfer ISA 260 y llynedd na’r Llythyr Rheoli a bod yr archwiliad interim cyfredol yn dod yn ei flaen yn dda, gyda'i dîm ef a'r tîm Cyllid yn gweithio'n hyblyg ac yn bragmataidd o dan yr amgylchiadau heriol hyn. 

6.4 Nid oedd Archwilio Cymru mewn sefyllfa i rannu gwybodaeth am ei ffi archwilio gan ei bod yn cael ei hadolygu o dan eu proses gymedroli fewnol.  Cyn gynted ag y byddai ar gael, byddai'n cael ei rhannu â’r Pwyllgor.   

Camau gweithredu

·        Dave ac Ann i drafod yn breifat unrhyw werth y gellid ei ychwanegu trwy gynnwys y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn rhai agweddau ar waith cydraddoldeb y bydd Bwrdd Gweithredol y Comisiwn yn ei ddatblygu.

 

9.

Trafod strategaeth y Comisiwn ar gyfer y Chweched Senedd

Cofnodion:

7.1      Gofynnodd y Cadeirydd i Manon roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd. Eglurodd fod trafodaethau cychwynnol wedi cael eu cynnal gyda'r Comisiynwyr ynghylch adroddiad gwaddol a'i argymhellion ar gyfer y Comisiwn newydd, gyda thrafodaethau pellach i ddilyn. Roedd nifer o feysydd sy’n cynnig rhywfaith o sicrwydd ar gyfer argymhellion gan y Comisiwn presennol, gan gynnwys y byddai aelodau nesaf y Comisiwn yn newydd a chymeradwyo'r gyllideb ar gyfer 2021-22. Tynnodd Suzy sylw at y ffaith bod y gyllideb eisoes dan bwysau, yn enwedig ar gyfer prosiectau yn y dyfodol a’r ffaith bod angen cefnogaeth realistig a rhesymol gan yr Aelodau. Byddai angen i'r Comisiwn newydd ystyried y cyfyngiadau cyllidebol, rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a’r hyn a ddysgwyd o sefyllfa Covid wrth flaenoriaethu ei amcanion ar gyfer cyflawni busnes y Senedd, yn ogystal â datblygu strategaethau o ran y gweithlu a llety. Atgoffodd Manon y Pwyllgor hefyd o'r disgwyliad y byddai adolygiad capasiti pellach yn cael ei gynnal ar ddechrau'r Chweched Senedd. Nododd y Pwyllgor fod y nodau strategol yn annhebygol o newid yn sylweddol, ond y byddai ailosod y rhain yn dibynnu ar uchelgeisiau'r Comisiwn newydd, er enghraifft, yn y cam nesaf o ran diwygio'r Senedd a lefelau a dulliau ymgysylltu â'r cyhoedd. Nododd hefyd y byddai angen i farn y Comisiwn cyfredol lywio’r gwaith o bennu nodau a blaenoriaethau strategol.

7.2       Yna trafododd y Pwyllgor enghreifftiau penodol o flaenoriaethau y bydd angen eu hystyried, gan gynnwys pwyso a mesur y rhinweddau yn erbyn y gost o fwrw ymlaen â gweithgareddau ymgysylltu â dinasyddion a'r gwahanol ffyrdd y gellid cyflawni hyn. Awgrymodd Aled werthusiad o brofiad y Cynulliad/Senedd o’u cymharu â chynulliadau dinasyddion a phrofiadau mewn rhannau eraill, megis Iwerddon a'r Alban. 

7.3       Roedd dyfodol Tŷ Hywel yn dal i fod yn fater byw. Amlinellodd Dave gynlluniau tymor byr ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu yn swyddfeydd Aelodau yn ystod cyfnod y diddymiad, a chynlluniau tymor canolig i'r tymor hir ar gyfer dychwelyd i'r ystâd. Disgrifiodd gynlluniau'r Comisiwn i dreialu'r cynigion a gymeradwywyd i gefnogi ffordd fwy hybrid o weithio i staff ledled yr ystâd. Bydd y cynlluniau peilotiaid hyn yn cael eu gwerthuso a'u haddasu i gyd-fynd â meysydd cyfrifoldeb. Byddai cyflwyno hyn yn golygu archwilio atebion arloesol ac ailgyfeirio adnoddau i ddarparu'r lleoedd a'r dechnoleg i hwyluso fformatau gweithle newydd.  

7.4       Gofynnodd Aled am ddiweddariad ar y trefniadau tymor hir ar gyfer prydles Tŷ Hywel, ac awgrymodd yr angen am bapur opsiynau pan adolygir y brydles. Dywedodd Dave y byddai trafodaethau archwiliadol yn dechrau gyda'r landlord yn ystod y misoedd nesaf.

10.

Diweddariad ar y gwaith cynllunio ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021

Cofnodion:

8.1         Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies a Sulafa Thomas i'r cyfarfod. Cyfeiriodd Siwan y Pwyllgor at y diweddariadau a ddarparwyd yng Nghofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn a rhoddodd ddiweddariad pellach ar y sefyllfa ddeddfwriaethol, gan amlinellu hynt gyflym Bil Brys y Llywodraeth trwy’r gwahanol gyfnodau a goblygiadau hyn i'r Comisiwn. Byddai'r Bil, sy’n aros i gael Cydsyniad Brenhinol ar gyfer ei ddeddfu fel Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021, yn rhoi pwerau i'r Senedd newid dyddiad Etholiad y Senedd hyd at chwe mis pe bai’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Byddai hefyd yn cwtogi cyfnod y diddymiad ffurfiol i wythnos.

8.2         Disgrifiodd Siwan y cytundeb y byddai cyfnod hwn o wythnos ar gyfer y diddymiad ffurfiol hwn yn cael ei ragflaenu gan gyfnod cyn y diddymiad o dair wythnos. Yn ystod pedair wythnos y cyfnod hwn, a elwir yn ‘gyfnod yr etholiad’, unig fusnes y Senedd fyddai trafod a chymeradwyo newidiadau arfaethedig i ddyddiad yr etholiad neu ymdrin â materion iechyd cyhoeddus yn ymwneud â’r Coronafeirws. Ychwanegodd y byddai rheolau diddymiad arferol, gan gynnwys rheolau’n ymwneud â defnyddio adnodd y Senedd, yn berthnasol yn ystod pedair wythnos cyfnod yr etholiad. Roedd canllawiau ar gyfer y diddymiad i Aelodau o'r Senedd a staff y Comisiwn yn cael eu diweddaru ar gyfer eu cyhoeddi yn y dyddiau nesaf.

8.3         Disgrifiodd Sulafa y camau ymarferol sy'n cael eu cymryd i ddiweddaru a chyhoeddi canllawiau ar gyfer cyfnod yr etholiad, a'r cynlluniau sy'n cael eu cwblhau ar gyfer dechrau'r Chweched Senedd. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau ar gyfer tyngu’r llw yn rhithwir neu yn gorfforol yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus, darparu mynediad at offer TG ac adnoddau eraill, a sefydlu swyddfeydd ar gyfer Aelodau newydd ac Aelodau sy'n dychwelyd. Eglurodd Sulafa fod rhywfaint o offer TG ar gyfer Aelodau newydd yn cael ei brynu'n gynnar i leihau’r risgiau posibl o ran oedi wrth gaffael yn ymwneud â diwedd cyfnod Pontio'r UE.

8.4         Dywedodd Sulafa fod cynlluniau hefyd yn cael eu llunio ar gyfer y gwahanol ffurfiau ar gyfer cynnal y seremoni agoriadol swyddogol, yn dibynnu ar y cyfyngiadau symud. Roedd rhaglen gynefino fanwl hefyd yn cael ei chwblhau a fyddai’n canolbwyntio, yn y dyddiau cynnar, ar roi eglurder ar reolau a chyfrifoldebau statudol a mwyaf arwyddocaol yr Aelodau. Roedd trafodaethau hefyd ar y gweill, gan gynnwys gyda'r Llywydd, y Comisiwn a Fforwm y Cadeiryddion (Pwyllgorau), ynglŷn â diwedd y Bumed Senedd o ran adroddiad gwaddol.

8.5         Ychwanegodd Sulafa fod y broses ar gyfer newid dyddiad yr etholiad, a'r trothwyon ar gyfer gwneud hynny, hefyd yn cael eu hystyried. Roedd goblygiadau cyllideb unrhyw newidiadau hefyd yn cael eu monitro. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, dywedodd Siwan mai’r Prif Weinidog fyddai’n cynnig newid i ddyddiad yr etholiad ar sail cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Prif Swyddog Meddygol.

8.6         Diolchodd y Cadeirydd i Siwan a Sulafa am eu diweddariadau cynhwysfawr a nododd y cynlluniau trylwyr a datblygedig sydd ar waith. Nododd hefyd y byddai ffocws y Pwyllgor ar reoleidd-dra a phriodoldeb. Hefyd,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

Risgiau corfforaethol

Cofnodion:

9.1         Cyflwynodd Dave yr eitem hon gan nodi i’r Bwrdd Gweithredol adolygu’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol ar 28 Ionawr. Amlygodd y ffaith bod y cyfyngiadau symud parhaus yn golygu bod y sgôr tebygolrwydd ar gyfer risgiau’r Coronafeirws wedi codi o ganolig i uchel. Roedd y risg i Gapasiti Corfforaethol hefyd gwaethygu drachefn i lefel gorfforaethol i gydnabod y pwysau sylweddol parhaus ar gapasiti oherwydd y pandemig a'r llwythi gwaith cynyddol, gan gynnwys o ran y Bil Brys a pharatoi ar gyfer yr Etholiad.

9.2Croesawodd y Pwyllgor y crynodeb cynhwysfawr hwn ac, o ystyried cyflymder y rhaglen frechu, roeddent yn gobeithio gweld risgiau’r Coronafeirws yn gostwng yn ystod y misoedd nesaf. 

 

12.

Archwiliad beirniadol o risg a nodwyd neu sy'n dod i'r amlwg - Seiberddiogelwch (ynghyd â'r diweddariad ddwywaith y flwyddyn)

Cofnodion:

10.1    Croesawodd y Cadeirydd Mark Nielson, Jamie Hancock a Tim Bernat i'r cyfarfod a gwahoddodd nhw i amlinellu manylion eu diweddariad ar seiberddiogelwch.

10.2    Rhannodd Mark ddisgrifiad manwl o'r gwaith yr oedd ei dîm wedi'i wneud ers y diweddariad diwethaf a lle byddent yn canolbwyntio eu hymdrechion yn y dyfodol. Adroddodd y gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr ymosodiadau gwe-rwydo yn ystod y pandemig ac mai e-byst yw prif gyfrwng y cynnwys maleisus o hyd. Roedd ei dîm wedi bod yn gweithio'n agos gyda Microsoft i wella'r trefniadau a'r paramedrau sydd ar waith o ran diogelwch. Sefydlwyd system i gynorthwyo adferiad ar ôl unrhyw ymosodiadau seiber ac roedd model newydd o ymddiried mewn dim yn cael ei roi ar waith.

10.3    Roedd hyfforddi staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'w dîm a byddai archwiliad mewnol a drefnwyd i’w gynnal yn ddiweddarach yn 2021 yn profi gwydnwch craidd y systemau wrth gefn. Roedd yn hyderus bod gan ei dîm ddigon o adnoddau i gyflawni'r tasgau sy'n ofynnol ar hyn o bryd.

10.4    Yna holodd y Pwyllgor ynghylch lleoliad ar gyfer storio data rhai rhaglenni.  Cadarnhaodd Mark nad oedd yr holl ddata yn y DU ond eu bod i gyd yn cael ei gadw yn yr UE.  Roedd trafodaethau wedi cychwyn ynghylch sicrhau bod data'n aros yn y DU. Codwyd pryderon o’r blaen ynghylch dibyniaeth y sefydliad ar wasanaeth y Cwmwl. Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi lefel yr hyblygrwydd mae’r cwmwl yn ei chynnig ond fe erys yn fan gwan posibl o hyd.

10.5    Nododd Mark a Dave y pryderon a godwyd ynghylch gwasanaethau’r cwmwl, ond nodwyd y byddai'r newid i weithio o bell wedi bod yn drafferthus pe na byddent wedi symud i wasanaeth Office365 rai blynyddoedd yn ôl. Roedd Mark yn ymwybodol bod rhai sefydliadau wedi cael problemau sylweddol o ganlyniad i geisio gweithredu model gwasanaeth cwmwl yn ystod y pandemig. Roedd mannau gwan unigol yn anochel ac, er bod methiant trydydd partïon y tu allan i reolaeth y Comisiwn, byddent yn parhau i ganolbwyntio ar waith lliniarol yn y dyfodol.

10.6    Diolchodd y Pwyllgor Mark a'i dîm a’u llongyfarch ar eu hymdrechion yn ystod yr cyfnod digynsail hwn. Roedd y ffaith na chafwyd yr un methiant mawr ers i'r sefydliad cyfan ddechrau gweithio o bell ym mis Mawrth 2020 yn gyflawniad aruthrol. 

13.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Cofnodion:

11.1    Amlinellodd Nia Morgan mai targed ariannol corfforaethol 2020-21 oedd cyflwyno adroddiad archwilio diamod ac alldro gweithredol diwedd blwyddyn rhwng 0 y cant a 1.5 cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy. Cadarnhaodd fod rhagolwg y sefyllfa alldro ar ddiwedd mis Ionawr ymhell o fewn y targed hwn, sef 0.4 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy. Wrth i'r tanwariant aros yn dynn, byddai'r Bwrdd Gweithredol a'r tîm Arwain yn parhau i asesu ceisiadau am adnoddau prosiect gyda'r bwriad o gynnal lefel isel y tanwariant tan ddiwedd y flwyddyn. Roedd treialu gwahanol gyfluniadau ar gyfer gweithfannau wedi bod yn faes gwariant annisgwyl ychwanegol a bydd yn eitem o wariant y cyllidebir ar ei gyfer yn y blynyddoedd i ddod, os yw’r peilot yn llwyddiannus. 

11.2    Dylai Comisiwn y Senedd gael gwared ar ddangosyddion perfformiad allweddol yn y dyfodol a osodir i leihau tanwariant a chanolbwyntio, yn hytrach, ar ddefnyddio adnoddau ariannol mor effeithlon â phosibl. Gwneir gwaith yn ystod 2021-22 i ddatblygu cynigion i drafod â'r Comisiwn dargedau ariannol corfforaethol priodol ar gyfer y Chweched Senedd.

11.3    Cymeradwyodd y Comisiwn ail Gyllideb Atodol ym mis Rhagfyr. Fel y’i nodwyd yng nghyfarfod mis Tachwedd, roedd rhan o'r ail Gyllideb Atodol hon ar gyfer cynyddu cyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) o £1.6 miliwn i £2.0 miliwn i adlewyrchu amcangyfrif yr Actiwari o'r cynnydd yng nghostau cyllid pensiwn yr Aelodau. 

11.4    Yna fe droes Nia at gyllideb 2021-22, sy’n ymwneud â blwyddyn gyntaf y Chweched Senedd a fydd yn cael ei goruchwylio gan y Comisiwn newydd sydd i’w benodi yn haf 2021. Gyda'r oedi cyn gweithredu Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 (Prydlesau) oherwydd effaith Covid-19 cafodd cyllideb 2021-22 ei chyflwyno heb unrhyw ddata IFRS 16. Mae mwy o fanylion am hyn ym mharagraff 12.2.

11.5    Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y diweddariad hwn a nododd y ganmoliaeth a'r gydnabyddiaeth haeddiannol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Roedd y gwaith a wnaed i gyflwyno cyllideb y dyfodol yn rhagorol a chytunodd Nia i rannu â'r Pwyllgor wybodaeth am unrhyw arbedion neu wariant ychwanegol oherwydd y pandemig maes o law.

Camau gweithredu

          Nia i rannu ag ARAC ddadansoddiad o wariant ac arbedion mewn perthynas â Covid ar ddiwedd y flwyddyn.

14.

Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu

Cofnodion:

12.1    Cyflwynodd Nia y papur hwn a amlinellodd yr adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu i sicrhau eu perthnasedd parhaus wrth gefnogi busnes y Senedd. Defnyddiodd y tîm Cyllid y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael gan Drysorlys Ei Mawrhydi a buont yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws y Comisiwn, gan nodi unrhyw newidiadau sylweddol. Roedd y meysydd a adolygwyd yn cynnwys newidiadau allanol megis newidiadau i’r safonau cyfrifyddu, newidiadau i fusnes mewnol ac adroddiad archwilio allanol a llythyr rheoli Archwilio Cymru.

12.2    Er bod yr adolygiad yn parhau, nid oedd unrhyw newidiadau disgwyliedig i'r safonau cyfrifyddu y byddai angen eu hadlewyrchu yn y polisïau cyfrifyddu a gymhwyswyd gan y Comisiwn ar gyfer 2020-21, ar wahân i'r Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16. Yn dilyn cryn oedi, cadarnhaodd Trysorlys EM ym mis Tachwedd 2020 fod y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol wedi cytuno na fyddai IFRS 16 yn cael ei weithredu'n orfodol o 1 Ebrill 2021. Yn lle hynny, y dyddiad gweithredol bellach fyddai 1 Ebrill 2022. Bydd yr oedi pellach hwn i'w weithredu yn golygu na fydd IFRS 16 yn effeithio ar gyllideb y Comisiwn tan 2022-23. Penderfynodd y Comisiwn beidio â mabwysiadu IFRS yn gynnar (yn 2021-22). Yn amodol ar ganllawiau pellach gan Drysorlys EM, bydd yr effaith yn cael ei hadlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 neu yn ei Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2022-23.

12.3    Diolchodd y Pwyllgor i Nia a'i thîm am eu hadolygiad manwl. Awgrymodd y gallai trafodaethau ag Archwilio Cymru fod yn ddefnyddiol i leihau dyblygu ymdrechion ar draws sefydliadau sector cyhoeddus Cymru o ran dadansoddi newidiadau i bolisïau cyfrifyddu a'r Llawlyfr Adrodd Ariannol (FReM).

15.

Adborth ar drafodaethau ym Mhwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu (REWAC) y Comisiwn

Cofnodion:

13.1    Fel aelod o Bwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a Gweithlu (REWAC) y Comisiwn, fe groesawodd Ann Beynon y cyfle hwn i roi adborth ar y cyfarfod diwethaf, a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2020.  Dywedodd fod cyfradd yr ymatebion i’r arolwg Pulse, a gynhaliwyd ym mis Hydref wedi cynyddu, ond mai nifer isel iawn o Aelodau o’r Senedd a ymatebodd i’r arolwg Urddas a Pharch. 

13.2    Roedd REWAC wedi trafod ffyrdd o wella cyfathrebu dyddiol a’r ffaith y byddai dechrau tymor Senedd newydd yn gyfle gwych i hyrwyddo polisïau ac adnewyddu hyfforddiant a chanllawiau. Cyfeiriodd Ann at adroddiad ar newyddiaduraeth yng Nghymru a thrafodaethau yn REWAC a ganolbwyntiodd ar sut y gallai negeseuon o'r Senedd ac am y Senedd gael eu lledaenu'n ehangach, a hynny wrth gynnal y ffin rhyngom ni a Llywodraeth Cymru.   

13.3    Diweddarodd Arwyn yr aelodau ar y papur a oedd yn cael ei baratoi ar gyfer Comisiynwyr ar gynnal newyddiaduraeth yng Nghymru, gan adeiladu ar waith y Tasglu Digidol y cyhoeddwyd ei adroddiad yn 2017.

13.4    Diolchodd y Cadeirydd i Ann am yr adborth hwn a nododd byddai'n croesawu adborth mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. 

16.

Adborth ar Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Cofnodion:

14.1    Yn anffodus, oherwydd y pandemig, cadarnhaodd y Cadeirydd na chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau fforwm y Cadeiryddion i adrodd arnynt.

17.

Trafod y ffyrdd y gellir defnyddio'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon i hyrwyddo gwaith y Senedd drwy gydol y flwyddyn.

Cofnodion:

15.1    Byddai’r eitem hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor.

18.

Y flaenraglen waith

Cofnodion:

16.1    Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw newidiadau i'w gwneud i raglen waith y Pwyllgor.

19.

Crynodeb o'r ymadawiadau

Cofnodion:

17.1    Ni chafwyd unrhyw sylwadau na chwestiynau ar yr ymadawiadau.

 

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 23 Ebrill 2021.