Agenda item

COVID-19 - Diweddariad corfforaethol

Cofnodion:

3.1         Rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y trefniadau sydd ar waith ar yr ystâd. Oherwydd y cyfyngiadau haen 4, roedd busnes y Senedd yn hollol rithwir ac felly y byddai'n aros hyd nes i gyfyngiadau gael eu codi. Roedd y cyfyngiadau wedi lleihau'r risg ar yr ystâd yn sylweddol gan fod presenoldeb yn is na 15 y cant, o’i gymharu â’r trothwy o 30 y cant. Roedd y rhai a oedd yn bresennol, gan gynnwys y rhai a oedd yn cefnogi busnes y Senedd ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, yn rhwym wrth reolau cadw pellter cymdeithasol, a oedd yn gweithio'n dda. 

3.2         Roedd grŵp rhaglen Dychwelyd i'r Ystad yn parhau i baratoi ar gyfer nifer o senarios yn seiliedig ar lacio cyfyngiadau, yn enwedig o ystyried llwyddiant cynnar y rhaglen frechu. Roeddent yn canolbwyntio ar fonitro'r rheoliadau i sicrhau bod y sefydliad mor barod â phosibl ar gyfer ailagor. Byddai'r grŵp hwn yn darparu diweddariadau wythnosol i'r Tîm Arweinyddiaeth a byddai'n parhau i ymgynghori â deddfwrfeydd eraill.

3.3         Gofynnodd aelodau'r pwyllgor a fyddai llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu y gallai staff ddychwelyd i'r ystâd yn gynt. Mewn ymateb, cadarnhaodd Dave fod hyn yn annhebygol oherwydd proffil oedran defnyddwyr yr adeiladau, gan fod y mwyafrif ohonynt yn annhebygol o gael eu brechu tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Pwysleisiodd hefyd fod rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau wyneb yn debygol o aros am gryn amser, yn ogystal â dod i’r gweithle dim ond os yw’n hanfodol. 

3.4         Mae'r Tîm Ystadau a Chyfleusterau wedi nodi mannau peilot ar gyfer newidiadau penodol i brofi sut y gallai dychwelyd i'r ystâd edrych, gyda phresenoldeb corfforol a phresenoldeb rhithwir, yn ogystal â mannau cyfarfod ac ymneilltuo. Byddai'r mannau peilot hyn yn cael eu gwerthuso a'u haddasu cyn eu cyflwyno i leoedd eraill. 

3.5         Wrth gael ei holi am bwysigrwydd monitro llesiant staff, rhoes Dave sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr heriau i nifer o weithwyr ynghylch cyfrifoldebau domestig ac addysg gartref yn cael eu monitro'n weithredol gan reolwyr llinell a bod lles a llesiant staff yn flaenoriaeth i bawb. Roedd cau am gyfnod estynedig dros y Nadolig wedi rhoi cyfle i fwyafrif helaeth y staff gymryd hoe, yn ogystal â lleihau'r ffigur ar gyfer gwyliau blynyddol cronedig. Er bod y cyfnod clo parhaus yn rhoi pwysau ar lawer, credai fod polisïau'r Comisiwn a hyblygrwydd timau i weithio'n wahanol yn golygu bod y mater yn cael ei reoli'n dda. Dywedodd hefyd fod cyd-ddealltwriaeth o'r pwysau trwy drafodaethau rheolaidd gyda'r Comisiwn a Fforwm y Cadeiryddion. 

3.6         Hefyd, dywedodd Arwyn Jones wrth y Pwyllgor fod y cynllunio ar gyfer dechrau'r Chweched Senedd ar y gweill i ganiatáu ar gyfer trafodion rhithwir yn bennaf. Roedd hyn yn cynnwys y seremoni agoriadol swyddogol, a allai fod yn gymysgedd o weithgareddau rhithwir a gweithgareddau ar y safle, yn dibynnu ar y cyfyngiadau a fydd ar waith bryd hynny. Bu staff y Comisiwn yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r gwahanol randdeiliaid. 

3.7         Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad cynhwysfawr hwn, a’r cynllunio i sicrhau diogelwch a llesiant pobl a fydd yn gweithio ar yr ystâd.