Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Ryan Bishop

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi y cafwyd ymddiheuriadau gan Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey, ill dau o Swyddfa Archwilio Cymru, a chroesawyd Jon Martin a oedd yn bresennol ar eu rhan.

1.2        Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Cofnodion 15 Gorffennaf, camau gweithredu a materion yn codi

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019

ACARAC (04-19) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd 

2.1        Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf.

2.2        O ran y cam gweithredu nad yw wedi'i roi ar waith ynghylch y Comisiwn Etholiadol (paragraff 2.1), roedd aelodau'r Pwyllgor wedi cael diweddariad cyn y cyfarfod.

2.3        Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r ddarpariaeth pensiwn cynyddrannol (paragraff 3.4) yn parhau i fod yn broblem mewn perthynas â chyfrifon 2019-20.

2.4        O ran y sesiwn ar y cyd a awgrymwyd gyda REWAC (paragraff 6.2), cytunwyd y dylid trefnu cyfarfod arall rhwng dau Gadeirydd y Pwyllgor, sef Manon a Dave.

3.

Sylwadau gan aelod o’r Pwyllgor sy’n gadael

Cofnodion:

3.1 Rhoddir sylw i’r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.

4.

Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 3 – Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd

4.1        Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am waith Llywodraethu a Sicrwydd mewnol diweddar.

4.2        Dosbarthwyd copïau o'r adroddiadau ynglŷn â’r adolygiad o Gynllun Ymadael Gwirfoddol Comisiwn y Cynulliad ac Adolygiad Effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol i aelodau'r Pwyllgor o'r cyfarfod ar 26 Medi 2019. Roedd Gareth hefyd wedi cynnal Adolygiad Effeithiolrwydd o’r Tîm Arwain ac wedi cyflwyno'r canlyniad a'r argymhellion mewn perthynas â’r rhain. Byddai Gareth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cynnydd mewn perthynas â’r camau sy’n codi yn sgil y ddau adolygiad.

4.3        Arweiniodd y Tîm Llywodraethu y gwaith o lunio’r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon am y tro cyntaf eleni. Roedd y Tîm wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y timau Cyllid a Chyfathrebu, gan gwblhau drafftiau cyn y dyddiadau cau gwreiddiol a bennwyd. Roedd y rheolwyr wedi cytuno ar nifer o argymhellion ar gyfer adroddiad 2019-20, a byddai’r rhain, ynghyd ag amserlen arfaethedig, yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor maes o law.

4.4        Roedd y Tîm Llywodraethu wedi cyfarfod â Phenaethiaid Gwasanaeth fel rhan o’r cylch o gyfarfodydd ar faterion llywodraethu blynyddol. Dyma oedd y blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer llunio’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Trefnwyd cyfarfodydd gyda Chyfarwyddwyr i drafod unrhyw faterion a nodwyd o gyfarfodydd y Pennaeth Gwasanaeth wrth baratoi ar gyfer drafftio Datganiadau Sicrwydd.

4.5        Roedd adolygiad o’r Asedau Sefydlog wedi’i drefnu, a chytunodd Gareth i rannu'r papur cwmpasu cyn i hyn gychwyn.

4.6        Roedd adolygiad o ddull y Comisiwn o ymgysylltu â chyflenwyr Cymru wedi’i gwblhau, a byddai'r adroddiad yn cael ei rannu pan fydd yn barod. Gofynnodd Suzy a oedd unrhyw themâu neu faterion o ran yr amgylchedd/cynaliadwyedd wedi codi o'r adolygiad. Nododd Gareth fod yr adroddiad yn cyfeirio at asesiadau effaith ond cytunodd i ystyried sut y gellid trafod y rhain ymhellach.

4.7        O ran yr adolygiad sydd ar y gweill o Newidiadau Rheoli Prosiect, nodwyd, er bod y Comisiwn wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod hyn yn amserol o ystyried y newid strwythur a roddwyd ar waith mewn perthynas â llywodraethu prosiectau. Cytunodd y Cadeirydd i ddychwelyd at y pwnc hwn ar ôl i'r archwiliad ddod i ben. Yn y cyfamser, cytunodd Gareth i rannu’r papur cwmpasu amlinellol ag aelodau'r Pwyllgor, pan fydd ar gael.

4.8        Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch unrhyw gynlluniau ar gyfer adolygu'r defnydd o ystâd y Cynulliad, dywedodd Arwyn Jones y byddai hyn yn rhan o'r strategaeth ymgysylltu ehangach.

4.9        Nododd Hugh Widdis fod yr adolygiad o effaith yr Adolygiad Capasiti yn mynd rhagddo. Dywedodd Gareth fod y themâu sy'n dod i'r amlwg yn gyson i raddau helaeth â'r rhai a godwyd yn ystod sesiwn dystiolaeth y Comisiwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref. Ychwanegodd y byddai'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar sicrwydd o ran gwireddu manteision.

4.10     Ail-bwysleisiodd Hugh pa mor bwysig yw cynnal archwiliadau o feysydd y Gyfarwyddiaeth Busnes, lle bo hynny’n briodol. Cytunodd Gareth,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Trafod yr adroddiadau Archwilio Mewnol diweddaraf

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 4 - Rheoli Absenoldeb

5.1        Gwahoddodd y Cadeirydd Gareth a Lowri Williams, Pennaeth AD, i gyflwyno'r adroddiad archwilio mewnol ar Reoli Absenoldeb. Esboniodd Gareth fod yr archwiliad wedi dod i'r casgliad bod y rheolaethau a'r mecanweithiau sylfaenol ar waith yn gweithio, ac yn cynnwys nifer fach o argymhellion cymharol fach. Disgrifiodd Lowri sut yr oedd AD yn gweithio gyda'r Tîm Arwain a'r meysydd gwasanaeth i sicrhau bod digon o ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i staff drwy'r polisïau a'r gweithdrefnau sydd ar waith a bod y rhain yn cael eu defnyddio'n effeithiol.

5.2        Trafododd aelodau a swyddogion y Pwyllgor amrywiol agweddau ar yr adroddiad gan gynnwys defnyddio data am absenoldebau. Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth ynghylch pa mor ddefnyddiol yw meincnodi cyfraddau absenoldeb yn erbyn sefydliadau eraill y gwasanaeth sifil/sector cyhoeddus ac a oedd lle i feincnodi yn erbyn deddfwrfeydd eraill. Gwnaeth Hugh annog swyddogion i barhau i fonitro data am absenoldebau, yn enwedig pan oedd pwysau parhaus ar adnoddau staff.

5.3        Diolchodd y Cadeirydd i Gareth a Lowri am gyflwyno a thrafod manylion yr adroddiad gyda'r Pwyllgor, a chytunwyd ar y cyd eu bod yn adlewyrchiad cadarnhaol o'r rheolaethau sydd ar waith, gan gydnabod y rhai y gellid eu cryfhau. Gofynnodd i gael diweddariad o’r gwaith o weithredu’r argymhellion yn gynnar yn 2020.

Camau i’w cymryd: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o weithredu argymhellion yr adolygiad ar Reoli Absenoldeb.

6.

Adolygu HMT/canllawiau eraill ar gyfer Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg (Cadeirydd a Phennaeth Archwilio Mewnol)

Cofnodion:

6.1    Dywedodd Gareth na fu unrhyw ddiweddariadau i Lawlyfr Pwyllgor Archwilio Risg a Sicrwydd Trysorlys EM.

6.2    Roedd Kathryn wedi dosbarthu fersiwn wedi'i diweddaru o Lyfr Oren Trysorlys EM ar Reoli Risg i aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Dywedodd Gareth ei fod wedi darganfod, mewn Fforwm Archwilio Mewnol Penaethiaid diweddar, y gallai hyn newid gan ei fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi’n llawn yn gynnar yn 2020. Byddai'n gweithio gyda'i gymheiriaid i lunio ymateb i'r ymgynghoriad, a chadarnhaodd nad oedd dim a fyddai'n effeithio ar Gylch Gorchwyl y Pwyllgor.

6.3    Cafodd y Pwyllgor wybod bod disgwyl i ganlyniadau ymgynghoriad gan Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol ar dair llinell y model amddiffyn ar gyfer fframweithiau sicrwydd gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Byddai Gareth yn ystyried hyn, ynghyd â chanllawiau newydd Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol ar gyfer archwiliadau mewnol yn y sector gwasanaethau ariannol i asesu unrhyw effaith ar gyfer dulliau'r Comisiwn.

7.

Adroddiad diweddaru Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 5 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru

7.1 Cyflwynodd y Cadeirydd Jon Martin i'r cyfarfod, a oedd yn bresennol ar ran Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey, yr oedd ill dau wedi anfon ymddiheuriadau ymlaen llaw.

7.2 Dywedodd Jon wrth y Pwyllgor fod cyfarfod adolygu gyda Nia wedi nodi rhai mân welliannau ar gyfer y broses o archwilio cyfrifon y flwyddyn nesaf.

7.3 Gan fod y cyfarfod hwn yn gynharach na'r arfer, nodwyd y byddai cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei rhannu y tu allan i’r cyfarfod pan fydd ar gael.

7.4 Mewn ymateb i gwestiynau gan Aled ynghylch cyfrifiadau o’r ffioedd archwilio, nododd Jon y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu nodyn y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor ar hyn.

Camau i’w cymryd: Bydd Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru yn cael ei ddosbarthu i aelodau'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod, ynghyd â nodyn byr ynghylch sut y mae’r ffi archwilio flynyddol yn cael ei chyfrif

8.

Diweddariad ar Ddiogelwch Seiber

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 6 – Diweddariad ar seiberddiogelwch

8.1        Croesawodd y Cadeirydd Mark Nielson, Pennaeth TGCh, a Jamie Hancock, Pennaeth Seilwaith a Gweithrediadau, i'r cyfarfod, gan eu gwahodd i amlinellu manylion eu diweddariad ar seiberddiogelwch. Roedd y papur yn cynnwys crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion a nodwyd yn Adroddiad Archwilio Mewnol mis Ebrill 2019, ac amlygodd Mark y canlynol:

i.     newid pwrpas swydd i gwmpasu diogelwch a chydymffurfiaeth;

ii.    cyflwyno safonau gofynnol i bob cais a oedd wedi cael canlyniadau ar unwaith o ran rhwystro mynediad;

iii.  achos busnes dros sefydlu gwasanaethau cwmwl ychwanegol ar gyfer cadw data wrth gefn a’i adfer, a fyddai’n cael ei drafod gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Tachwedd;

iv.  gweithredu rheolyddion mewn perthynas â dyfeisiau y gellir eu tynnu (gyriannau USB);

v.    ymarfer arall i addysgu defnyddwyr ynghylch y risgiau o we-rwydo a gynhaliwyd;

vi.  cynlluniau ar gyfer codi rhagor o ymwybyddiaeth yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch, sydd wedi’i threfnu ar gyfer diwedd mis Tachwedd.

8.2        Mewn ymateb i gwestiynau am fforddiadwyedd a rhagor o ddibyniaeth ar Microsoft, rhoddodd Mark sicrwydd i aelodau’r Pwyllgor fod yr holl waith a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’i gynnwys yn y cynlluniau cyllideb presennol ac nad oedd adroddiad archwilio diweddar y TIAA wedi amlygu unrhyw broblemau na phryderon. Dywedodd hefyd, ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr allanol, fod rhagor o sicrwydd wedi’i roi o ran y trefniadau presennol. Ychwanegodd Jamie fod y cyngor yn dangos y byddai trefnu contract allanol gyda darparwyr eraill yn peri mwy o risg ar hyn o bryd. Byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i ymweld â'r safle yn y ganolfan ddata leol, ac fe’u hanogwyd i ddod.

8.3        Cyflwynodd Jamie a Mark y Radar Risg TGCh wedi'i ddiweddaru, gan dynnu sylw at welliannau a wnaed ers i TGCh ddod yn swyddogaeth fewnol, yn enwedig o ran hyblygrwydd y gwasanaethau y gellid eu darparu, a'r meysydd i'w gwella ymhellach wrth symud ymlaen.

8.4        Diolchodd y Cadeirydd i Mark a Jamie, a gofynnodd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o ddibyniaethau contract Microsoft ym mis Ionawr.

Camau i’w cymryd:Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddibyniaethau contract Microsoft yng nghyfarfod mis Ionawr.

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 7 – Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2019-20 a Chyllideb 2020-21

9.1        Aeth Nia drwy’r papur gyda’r Aelodau, gan nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a chyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i gymeradwyo cynigion cyllideb 2020-21.

9.2        Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y wybodaeth a nododd y Pwyllgor y papur.

10.

Adborth ar y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus diweddar

Cofnodion:

10.1     Rhoddodd Nia ddiweddariad i aelodau'r Pwyllgor ynghylch ymddangosiadau diweddar gerbron y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Dywedodd nad oedd unrhyw faterion o bwys wedi'u nodi yn ystod y sesiynau tystiolaeth, a'i bod yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch trefniadau ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd Safonau.

10.2     Disgwylir i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a’r ymateb arfaethedig, gael eu trafod gan y Comisiwn ym mis Tachwedd. Byddai Nia yn dosbarthu’r rhain i aelodau'r Pwyllgor pan gytunir ar yr ymateb.

10.3     Mewn ymateb i gwestiynau gan Aled ynghylch lefelau'r tanwario mewn perthynas â chostau staffio Aelodau'r Cynulliad, eglurodd Nia fod hyn yn gysylltiedig, yn rhannol, â'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer trosiant staff. Dywedodd Manon, yn dilyn argymhellion blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, y byddai unrhyw danwariant yn y maes hwn bellach yn cael ei ddychwelyd i Gronfa Gyfunol Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Camau i’w cymryd:Dosbarthu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac ymateb y Comisiwn i aelodau'r Pwyllgor.

11.

Adroddiad Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 8 – Risgiau Corfforaethol
ACARAC (05-19) Papur 8 – Atodiad A – Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol
 ACARAC (05-19) Papur 8 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol sydd wedi’u nodi

11.1     Cyflwynodd Dave y papur, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am statws Risgiau Corfforaethol y Comisiwn.

11.2     Nododd Hugh statws risg y Legislative Workbench, a gofynnodd am ragor o fanylion ynghylch y datrysiad ymarferol a awgrymir yn y papur. Dywedodd Siwan y byddai hyn yn ddwys o ran adnoddau ac na fyddai’n ddigonol nac yn ymarferol yn y tymor hwy. Cydnabu'r Pwyllgor fod y risg hon, a oedd wedi codi o amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn, yn anochel yn y tymor byr, ac roedd yn fodlon ar y camau sy’n cael eu cymryd i leddfu’r risg.

11.3     Dywedodd Dave, ar ôl i'r gwaith o wella elfennau seiberddiogelwch y system gyfredol gael ei gwblhau, y byddai'r sgôr risg yn lleihau’n sylweddol. Wrth edrych ymlaen, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cytuno i gynnal ymarfer caffael ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd i fod i ddechrau ym mis Tachwedd 2019. Cafodd y Pwyllgor sicrwydd o’r diweddariad hwn.

11.4     Mewn ymateb i sylwadau gan Suzy, cytunodd y swyddogion i adolygu’r graddfeydd risg wleidyddol mewn perthynas â Diwygio’r Cynulliad.

12.

Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 9 - Risg Brexit

12.1     Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil, a Manon George, Cydlynydd Brexit, i’r cyfarfod, a diolchodd iddynt am y papur yn amlinellu dull y Comisiwn ar gyfer rheoli’r risgiau sy’n ymwneud â Brexit.

12.2     O ystyried yr ansicrwydd hirsefydlog ynghylch amseriad Brexit, hysbyswyd y Pwyllgor fod un o'r heriau mwyaf yn ymwneud â chynllunio sut y byddai'r Cynulliad yn sicrhau’r adnoddau ar gyfer y gwaith y mae angen iddo ei gyflawni fel deddfwrfa.

12.3     Dywedodd Kathryn fod y dull ailadroddol a roddwyd ar waith hyd yma, drwy ymarferion cynllunio senarios rheolaidd, wedi gweithio'n dda, a’i fod wedi helpu i nodi pwysau a phroblemau a allai godi yn sgil canlyniadau amrywiol Brexit.

12.4     Gofynnodd Ann pa mor effeithiol yw’r Fforwm Rhyng-seneddol ar Brexit, ac a oedd swyddogion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau. Dywedodd Manon George fod holl seneddau'r DU yn cael eu cynrychioli ac yn cymryd rhan mewn deialog werthfawr ar lefel wleidyddol a swyddogol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Comisiwn i fod i gynnal cyfarfod nesaf y fforwm yn ddiweddarach eleni.

12.5     Diolchodd y Cadeirydd i Siwan, Kathryn a Manon am ddod, gan roi diweddariad calonogol mewn perthynas â'r risg hon.

13.

Torri rheolau gwybodaeth

Cofnodion:

13.1 Nododd y Pwyllgor fod dau achos o dorri rheolau gwybodaeth wedi’u cofnodi ond penderfynwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.

14.

Adborth gan REWAC

Cofnodion:

14.1     Rhoddodd Ann ddiweddariad ar feysydd a drafodwyd yn ystod y flwyddyn mewn cyfarfodydd REWAC. Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor hwn. Roedd y trafodaethau hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar ganlyniadau arolygon staff a chynigion ar gyfer arolygon yn y dyfodol, Strategaeth Pobl y Comisiwn, a Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd y Comisiwn.

14.2     Gan fod y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn newydd, cytunodd yr aelodau i ailedrych ar y strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

14.3     Cytunodd y Pwyllgor, yn amodol ar gymeradwyaeth REWAC, i rannu cofnodion cyfarfod rhwng y ddau bwyllgor, a rhannu gwybodaeth arall o bryd i'w gilydd, megis risgiau corfforaethol.

14.4  Roedd y Cadeirydd a'r swyddogion yn awyddus i sicrhau bod cylchoedd gwaith gwahanol pob Pwyllgor yn glir, gan hwyluso ymgyfnewid effeithiol ar yr un pryd.

15.

Arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor

Cofnodion:

15.1     Cytunodd y Cadeirydd y byddai'r arolwg yn cael ei rannu y tu allan i'r Pwyllgor er mwyn cael sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor.

Camau i’w cymryd:Bydd sylwadau ar amseriad a chynnwys arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor yn cael eu hanfon at y Cadeirydd a’r Tîm Clercio

16.

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

16.1 Byddai'r Cadeirydd yn rhoi adborth y tu allan i'r Pwyllgor ynghylch cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2019.

17.

Crynodeb o’r Ymadawiadau

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 10 – Crynodeb o’r ymadawiadau

17.1     Nododd y Pwyllgor y gwyriadau oddi ar y gweithdrefnau caffael arferol a nodwyd yn y papur.

 

18.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 11 - Y flaenraglen waith

18.1 Gan na thrafodwyd yr eitem hon - byddai aelodau'r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i roi sylwadau y tu allan i'r Pwyllgor.

19.

Sylwadau gan aelod o'r Pwyllgor sy'n gadael (wedi'i symud o Eitem 3)

Cofnodion:

12.1     Diolchodd y Cadeirydd i Hugh am ei gyfraniadau gwerthfawr yn ystod ei gyfnod fel aelod o ACARAC, a gwahoddodd ef i rannu ei sylwadau am gyfnod ei swydd.

12.2     Diolchodd Hugh i aelodau a swyddogion presennol a blaenorol y Pwyllgor am y diwylliant agored a chadarnhaol a brofodd fel aelod o’r Pwyllgor ers ymuno yn 2013. Teimlai fod lefel y cydweithredu yn ffactor allweddol o ran effeithiolrwydd gwaith llywodraethu’r Comisiwn. Soniodd yn fras am rai o’r uchafbwyntiau yn ystod ei gyfnod o weithio gydag ACARAC, gan nodi’r canlynol:

i.        y newidiadau i'r proffil risg corfforaethol, gan nodi’r cynnydd yn erbyn meysydd fel parhad busnes, gwasanaethau TGCh, y cyfryngau cymdeithasol a diogelu;

ii.       yr ethos o welliant parhaus, a’r defnydd o sicrwydd ansawdd mewnol ac allanol;

iii.     sut roedd y cyfarfodydd rheolaidd ar faterion llywodraethu gyda Phenaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr wedi helpu i gadw golwg ar lywodraethu yn ystod y flwyddyn;

iv.     y prosesau llyfn ar gyfer archwilio cyfrifon y Comisiwn;

v.       ymdrin yn effeithiol â newidiadau i'r defnydd o danwariant mewn perthynas â Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau;

vi.     yr aeddfedrwydd a ddangoswyd gan y Comisiwn wrth gofnodi a rheoli risgiau, yn enwedig o ran Brexit a newid cyfansoddiadol;

vii.    sut roedd ymchwilio’n ddwfn i risgiau unigol a thrafodaethau manwl wedi helpu aelodau’r Pwyllgor i ddysgu mwy am y sefydliad; ac

viii.  y gwerth ychwanegol gan gyflwynwyr allanol yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor.

12.3     Diolchodd y Cadeirydd i Hugh am ei gyfraniadau at yr holl bwyntiau hyn. Nododd hefyd y gwerth yr oedd Hugh wedi'i ychwanegu at y gwaith o graffu a herio Datganiadau Sicrwydd y Comisiwn. Diolchodd Manon iddo am ei gyfraniadau, yn benodol o ran risg a sicrwydd, a hefyd am ei gyfraniad wrth benodi Cynghorwyr Annibynnol newydd.

 

Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 20 Ionawr 2020.