Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1
Datganodd Eric Gregory ei
fod yn gynrychiolydd busnes ar gyfer yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yng Nghymru. 1.2
Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau eraill. |
|
Cofnodion Cofnodion: ACARAC
(04-17) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 19 Mehefin 2017 ACARAC
(04-17) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu 2.1
Cytunwyd ar gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2017 a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am
gamau gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, ei nodi. 2.2
O ran pwynt gweithredu 5.3 (Ystyried
dulliau o gyfleu penderfyniadau'r Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi yn ehangach),
cytunwyd mewn diwrnod i ffwrdd diweddar y Bwrdd Rheoli, y byddai Nia Morgan yn
briffio Suzy Davies yn ystod eu cyfarfodydd dal i fyny. Byddai'r Bwrdd Rheoli hefyd yn cael
diweddariadau a'r cyfle i gyfrannu at y flaenraglen waith. 2.3
Pwynt gweithredu 5.3 (Rhannu canlyniadau
strwythurau llywodraethu ar ôl diwrnod i ffwrdd y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi).
Cadarnhaodd Dave Tosh y byddai cylch gorchwyl y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd
Buddsoddi ac Adnoddau yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn
addas at y diben a'u bod yn nodi'n fanwl gywir swyddogaeth arbennig pob Bwrdd o
fewn trefniadau llywodraethu'r Comisiwn.
Eglurodd Dave hefyd, fel rhan o'r ymarfer hwn eu bod hefyd yn adolygu
aelodaeth pob Bwrdd. Cytunodd i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gyda chylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y
Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau. 2.4
Trafododd Suzy Davies, Manon Antoniazzi a Nia
Morgan bwynt gweithredu 8.1 (Briffio ACARAC yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor
Cyllid). Roeddent wedi egluro i'r
Pwyllgor Cyllid y broses tu ôl i broffilio'r gyllideb a'r gwaith cynllunio a
chraffu sy'n digwydd yn ystod y broses o bennu'r gyllideb. Mewn ymgais i wella tryloywder, gofynnodd y
Pwyllgor Cyllid fod y Comisiwn yn amcangyfrif y tanwariant yn erbyn y
Penderfyniad yn ystod 2018-19 ac yn llunio rhestr fanwl o feysydd posibl o
wariant a blaenoriaethu. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid i'r wybodaeth hon gael ei
chynnwys yn nogfen y gyllideb i'w gosod erbyn 30 Medi 2017. 2.5
Hysbysodd Suzy ACARAC fod rhestr wedi'i
blaenoriaethu o brosiectau buddsoddi ar gyfer 2018-19 ar hyn o bryd, ond ei bod
yn anodd rhagweld y gwariant gwirioneddol yn ystod 2018-19 oherwydd y tirlun
gwleidyddol sy'n newid. Byddai
amcangyfrif o'r gwarged tebygol hefyd yn cael ei gynnwys yn nogfen y gyllideb
ar gyfer 2018-19, ond nododd Nia na nodwyd unrhyw batrwm clir o ddefnydd o'r
gyllideb yn y blynyddoedd blaenorol ac y byddai'n anodd darparu rhagolwg
cywir. 2.6
Trafododd Dave gyfeiriad risg corfforaethol
ICT16 (Bygythiadau seiber - Amddiffyn, Canfod ac Ymateb) a oedd
wedi'i ddiwygio i fod yn fwy penodol ac ystyrlon. Hysbysodd y Pwyllgor yn dilyn yr achos diweddar
yn San Steffan, fod neges at bob rhan o'r sefydliad wedi'i hanfon yn atgoffa'r
holl ddefnyddwyr i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod am unrhyw beth amheus i
ddesg gwasanaeth y tîm TGCh. 2.7 Cafwyd trafodaeth bellach ar yr angen parhaus i'r Aelodau a staff cymorth fod yn ymwybodol o'u gweithredoedd yn ymwneud â diogelwch seiber. Cytunodd Suzy i Gomisiynwyr fod yn rhan o'r gwaith o annog eu pleidiau i fod yn rhagweithiol wrth hyfforddi a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Diweddariad ar NAV (y system gyllid) Cofnodion: ACARAC
(04-17) Papur 3 – Diweddariad ar NAV 3.1
Croesawodd y Cadeirydd
Adrian Crompton (Uwch-berchennog Cyfrifol) ac Eve Jennings (Rheolwr
Prosiect) i'r cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad cau ar gyfer cyfnod 1 NAV. 3.2
Cafodd y gwersi a
ddysgwyd yn dilyn y prosiect Adnoddau Dynol a'r Gyflogres eu hastudio i sicrhau
bod system newydd mor sylweddol yn cael ei chyflwyno'n llwyddiannus. Cafodd y Rheolwr Prosiect profiadol,
ymroddedig a'i thîm eu canmol yn yr un modd ag ymdrechion ac ymrwymiad y tîm
Cyllid. 3.3
Roedd dewis y cyflenwr
(TES) wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect. Roedd y cymorth parhaus a'r gwaith technegol
ar gyfnod 2 hefyd yn galonogol iawn. 3.4
Roedd trafodaethau
pellach yn canolbwyntio ar ddal y gwersi cadarnhaol a ddysgwyd yn ogystal â'r
agweddau negyddol ar y prosiect.
Cwestiynodd y Pwyllgor gyflwyniad y costau ymgynghori a chytunodd Nia i
ddarparu nodyn i'r Ysgrifenyddiaeth i'w cynnwys yn y cofnodion. 3.5
Sicrhaodd Gareth a Dave y
Bwrdd y byddent yn ymgorffori'r gwersi a nodwyd yn yr adroddiad ac, fel yr
awgrymwyd gan y Bwrdd, o fewn templedi prosiect a chanllawiau. 3.6
Llongyfarchodd aelodau'r
Pwyllgor dîm y prosiect ar ddarparu cyfnod 1 yn llwyddiannus. Estynnodd dîm y prosiect a Nia ddiolch i
Keith am ei rôl yn darparu sicrwydd a chyngor allanol i dîm y prosiect, yn
enwedig i Adrian pan oedd angen gwneud y penderfyniad o ran 'mynd yn fyw/dim am
ddigwydd'. Camau
gweithredu -
Gareth a Dave i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd
(cadarnhaol a negyddol) yn cael eu defnyddio a'u hymgorffori mewn arferion
gwaith. -
Nia i ddarparu nodyn i'r cofnodion ACARAC i
egluro'r amrywiad yn y costau ymgynghori gwirioneddol yn erbyn y rhagolwg yn
ogystal â'r proffil rhagolygon cyffredinol. |
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cofnodion: ACARAC
(04-17) Papur 4 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2016-17 - papur
cwmpasu ACARAC
(04-17) Papur 5 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2016-17 4.1
Croesawyd yr adroddiad blynyddol a'r
datganiad o gyfrifon diwygiedig gan y Pwyllgor.
Awgrymwyd rhai meysydd y gellid eu hadolygu i roi eglurder pellach, ond
ar y cyfan cafodd y gweithgarwch yn ystod cyfnod 2016-17 ei gofnodi'n dda a'i
gyflwyno'n effeithiol. 4.2
Cytunodd Nia i ystyried diwygio'r geiriad ar
dudalen 109 i adlewyrchu'r ailddyraniad o adnoddau rhwng llinellau'r gyllideb
tra'n aros o fewn y gyllideb gyffredinol. 4.3
Cododd Ann-Marie Harkin fater sy'n ymwneud â
thaliadau cyflog a wnaed i Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Mai a mis
Mehefin 2016. Oherwydd methu â dilyn y
ddeddfwriaeth briodol ar gyfer gosod cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru, ni
allai'r taliadau cyflog a oedd yn ddyledus i'r Archwilydd Cyffredinol ym mis
Mai a mis Mehefin 2016 gael eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru. Yn lle hynny, defnyddiodd Comisiwn y
Cynulliad gronfeydd a bleidleisiwyd iddo at ddibenion eraill i dalu Archwilydd
Cyffredinol Cymru yn ystod y ddau fis.
Unig opsiwn amgen Comisiwn y Cynulliad fyddai atal taliadau cyflog i
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ystod y ddau fis. 4.4
Pwysleisiodd Ann-Marie y pleidleisir ar
gyllideb Comisiwn y Cynulliad yn flynyddol.
Cafodd Comisiwn y Cynulliad ei ad-dalu ar ôl hynny o Gronfa Gyfunol
Cymru, felly mae'r sefyllfa wedi cael ei rheoleiddio erbyn diwedd y flwyddyn.
Felly, roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru a thîm archwilio Swyddfa Archwilio
Cymru o'r farn nad oedd unrhyw amheuaeth o gyfrifon Comisiwn y Cynulliad yn bod
yn gymwys (y farn ar yr adran sy'n ymwneud â chysondeb). 4.5
Fodd bynnag, er tryloywder cynigiwyd y caiff
y datgeliad o'r mater hwn ei wneud yn y datganiadau ariannol. Gallai hyn naill ai gael ei wneud drwy
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fel atodiad i'w Dystysgrif a'i Farn
Archwilio neu gan Gomisiwn y Cynulliad yn datgelu'r mater o fewn y nodiadau i'r
datganiadau ariannol. Mynegodd tîm
rheoli Comisiwn y Cynulliad y byddai'n well ganddynt i'r mater gael ei ddatgelu
yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol. 4.6
Cytunodd Ann-Marie, mewn cyfarfod gydag
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y byddai'n
awgrymu bod nodyn esboniadol yn cael ei ychwanegu i'r cyfrifon, yn disgrifio'r
mater. Gwnaed yn glir y byddai'r camau
gweithredu y cytunwyd arnynt yn benderfyniad i Archwilydd Cyffredinol Cymru. 4.7
Cytunodd Nia i ddrafftio a dosbarthu nodyn
i'w atodi i gofnodion y Pwyllgor i ddatgelu'r prosesau o ran y driniaeth o dalu
cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru. 4.8
Cytunodd y Pwyllgor gyda Swyddfa Archwilio
Cymru yn amodol ar gytundeb gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, y byddai nodyn yn
cael ei ychwanegu, ond roedd am fod yn glir nad oes unrhyw gamddefnydd o arian
cyhoeddus wedi digwydd. 4.9
Cytunodd Nia i ddarparu'r wybodaeth
ddiweddaraf am y sefyllfa a'r camau gweithredu y cytunir arnynt ar ôl iddi gael
ei hysbysu o ganlyniad y cyfarfod rhwng Ann-Marie ac Archwilydd Cyffredinol
Cymru.
Camau gweithredu - Nia Morgan i ystyried diwygio'r geiriad ar dudalen 109 o'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
y wybodaeth ddiweddaraf am archwilio allanol Cofnodion: Y
wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar 5.1
Trafodwyd yr eitem hon o dan eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: ACARAC
(04-17) Papur 7 - Y flaenraglen waith 6.1
Nodwyd y
flaenraglen waith ac y byddai'n cael ei chyhoeddi ar wefan y Pwyllgor. 6.2
Yn olaf, soniodd y
Cadeirydd am ei gyflwyniad o adroddiad blynyddol ACARAC mewn cyfarfod diweddar
Comisiwn y Cynulliad ddydd Llun 17 Gorffennaf.
Croesawyd yr adroddiad gan y Comisiynwyr ac roeddent yn falch o weld
ansawdd a chanlyniadau adroddiadau archwilio, a'r ffocws ar ddiogelwch
seiber. 6.3
Roedd hefyd wedi
tynnu sylw at yr angen i gasglu ac adrodd ar gynnydd prosiectau a rhaglenni
drwy'r adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol. Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 27
Tachwedd 2017. |