Agenda item

Cofnodion

Cofnodion:

ACARAC (04-17) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 19 Mehefin 2017

ACARAC (04-17) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu

2.1        Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2017 a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, ei nodi.   

2.2        O ran pwynt gweithredu 5.3 (Ystyried dulliau o gyfleu penderfyniadau'r Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi yn ehangach), cytunwyd mewn diwrnod i ffwrdd diweddar y Bwrdd Rheoli, y byddai Nia Morgan yn briffio Suzy Davies yn ystod eu cyfarfodydd dal i fyny.  Byddai'r Bwrdd Rheoli hefyd yn cael diweddariadau a'r cyfle i gyfrannu at y flaenraglen waith. 

2.3        Pwynt gweithredu 5.3 (Rhannu canlyniadau strwythurau llywodraethu ar ôl diwrnod i ffwrdd y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi). Cadarnhaodd Dave Tosh y byddai cylch gorchwyl y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben a'u bod yn nodi'n fanwl gywir swyddogaeth arbennig pob Bwrdd o fewn trefniadau llywodraethu'r Comisiwn.  Eglurodd Dave hefyd, fel rhan o'r ymarfer hwn eu bod hefyd yn adolygu aelodaeth pob Bwrdd.  Cytunodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gyda chylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.

2.4        Trafododd Suzy Davies, Manon Antoniazzi a Nia Morgan bwynt gweithredu 8.1 (Briffio ACARAC yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid).  Roeddent wedi egluro i'r Pwyllgor Cyllid y broses tu ôl i broffilio'r gyllideb a'r gwaith cynllunio a chraffu sy'n digwydd yn ystod y broses o bennu'r gyllideb.  Mewn ymgais i wella tryloywder, gofynnodd y Pwyllgor Cyllid fod y Comisiwn yn amcangyfrif y tanwariant yn erbyn y Penderfyniad yn ystod 2018-19 ac yn llunio rhestr fanwl o feysydd posibl o wariant a blaenoriaethu. Gofynnodd y Pwyllgor Cyllid i'r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn nogfen y gyllideb i'w gosod erbyn 30 Medi 2017. 

2.5        Hysbysodd Suzy ACARAC fod rhestr wedi'i blaenoriaethu o brosiectau buddsoddi ar gyfer 2018-19 ar hyn o bryd, ond ei bod yn anodd rhagweld y gwariant gwirioneddol yn ystod 2018-19 oherwydd y tirlun gwleidyddol sy'n newid.  Byddai amcangyfrif o'r gwarged tebygol hefyd yn cael ei gynnwys yn nogfen y gyllideb ar gyfer 2018-19, ond nododd Nia na nodwyd unrhyw batrwm clir o ddefnydd o'r gyllideb yn y blynyddoedd blaenorol ac y byddai'n anodd darparu rhagolwg cywir. 

2.6        Trafododd Dave gyfeiriad risg corfforaethol ICT16 (Bygythiadau seiber ​​- Amddiffyn, Canfod ac Ymateb) a oedd wedi'i ddiwygio i fod yn fwy penodol ac ystyrlon.  Hysbysodd y Pwyllgor yn dilyn yr achos diweddar yn San Steffan, fod neges at bob rhan o'r sefydliad wedi'i hanfon yn atgoffa'r holl ddefnyddwyr i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod am unrhyw beth amheus i ddesg gwasanaeth y tîm TGCh. 

2.7        Cafwyd trafodaeth bellach ar yr angen parhaus i'r Aelodau a staff cymorth fod yn ymwybodol o'u gweithredoedd yn ymwneud â diogelwch seiber.  Cytunodd Suzy i Gomisiynwyr fod yn rhan o'r gwaith o annog eu pleidiau i fod yn rhagweithiol wrth hyfforddi a threfnwyd sesiynau galw heibio.       

2.8        Roedd aelodau'r Pwyllgor eto i rannu unrhyw gysylltiadau GDPR gyda'r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth, ond roedd Dave yn fodlon rhannu ein dull ni o ran GDPR gydag eraill, os gofynnir am hynny.

Camau gweithredu

-         Dave i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gyda chylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd Rheoli a'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.