Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes  Deputy Clerk: Buddug Saer

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd un ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin o Archwilio Cymru.

1.2 Nododd y Cadeirydd mai dyma fyddai cyfarfod olaf Ann Beynon a Nia Morgan. Diolchodd i Ann am ei hymrwymiad a'i chyfraniadau yn ystod ei chyfnod yn y rôl. Byddai Ann yn cael cyfle i fyfyrio ar ei haelodaeth o'r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y cyfarfod. 

1.3 Roedd y Cadeirydd hefyd yn awyddus i ddiolch i Nia, a fydd yn gadael Comisiwn y Senedd i ddechrau swydd newydd ym mis Ionawr 2023. Yn ystod y cyfarfod, nododd ei ddiolch am ei sesiynau briffio, ei chefnogaeth a'i hyfedredd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

1.4 Croesawodd y Pwyllgor Simon Hart, y Cyfarwyddwr Cyllid dros dro, i’r cyfarfod fel sylwedydd, a nodwyd bod aelodau’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y flwyddyn newydd.
 

1.5 Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan.

2.

Cofnodion cyfarfod 15 Mehefin, y camau i'w cymryd a'r materion a gododd

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 1 - Cofnodion Drafft 15 Mehefin 2022

ARAC (22-06) Papur 2 - Crynodeb o’r camau gweithredu i’w cymryd

2.1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 15 Mehefin yn ffurfiol a nodwyd y diweddariadau i’r camau gweithredu. 

2.2 Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddau gyfarfod anffurfiol ar gyfer y cofnod. Ar 8 Gorffennaf, clywodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Awdurdod Band Eang y Sector Cyhoeddus ac ar 14 Medi cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm cynaliadwyedd ar gynnydd y Comisiwn tuag at ddatgarboneiddio, a chlywodd gyflwyniad ar Rwydwaith Gwres Caerdydd yn ystod yr un sesiwn.

3.

Diwygio'r Senedd - Diweddariad corfforaethol, gan gynnwys. diagram strwythur llywodraethu ar gyfer Diwygio'r Senedd (strwythur tîm mewnol a chysylltiadau â Llywodraeth Cymru)

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 3 - Y wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddiwygio'r Senedd

3.1 Diolchodd y Cadeirydd i Siwan Davies a'i thîm am y dogfennau trylwyr a chynhwysfawr, a oedd yn cynnwys y papurau a gyflwynwyd yn ystod cyfarfod diweddar Bwrdd Rhaglen Ddiwygio'r Senedd.

3.2 Ar 15 Mehefin, cafodd y Pwyllgor drafodaeth fanwl ar y risg gorfforaethol sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddiwygio'r Senedd. Ar 7 Hydref, cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar gylch gorchwyl ac aelodaeth Bwrdd Rhaglen Ddiwygio'r Senedd ('yr SRPB') a chafodd manylion y cylch gorchwyl hwn eu cynnwys yn y papurau.
 

3.3 Amlinellodd Siwan y trefniadau llywodraethu ar gyfer rheoli holl elfennau'r agenda ddiwygio, y mae’r SRPB yn rhan ohoni, fel yr amlinellir yn y diagram yn Atodiad A. Yn ogystal â pharatoi ar gyfer busnes seneddol y Seithfed Senedd, mae hyn hefyd yn cynnwys cydgysylltu a chefnogi’r gwaith o basio Bil Diwygio'r Senedd a diwygio'r Penderfyniad ar Gyflog a Lwfansau’r Aelodau, yn ogystal â chyflwyno'r rhaglen Ffyrdd o Weithio a chynnal busnes arferol.

3.4 Cyfeiriodd Siwan at sefydlu Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd, gan ychwanegu bod cylch gorchwyl y bwrdd hwn wedi’i gynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod. Hefyd, cyfeiriodd at y llinell amser a’r cerrig milltir lefel uchel, a oedd hefyd wedi’u cynnwys yn y papurau, sy’n nodi’r cynnydd hyd yn hyn. O ran y gyllideb, cadarnhaodd Siwan y byddai Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol yn dilyn set gyffredin o ragdybiaethau ac yn defnyddio un ffynhonnell o wybodaeth am gostau.

3.5 Cyfeiriodd Siwan at y risg sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddiwygio'r Senedd ac sydd wedi’i nodi yn y papurau, gan dynnu sylw at y risgiau ychwanegol o ran effaith bosib hinsawdd economaidd sy'n newid ar gyllidebau, capasiti a phenderfyniadau gwleidyddol ar gyfeiriad y daith tuag at ddiwygio.
  

3.6 Rhoddwyd sicrwydd i’r Cadeirydd bod y trefniadau llywodraethu priodol ar waith, a nodwyd y llinell amser, y gwaith o gydgysylltu a rheoli prosiectau a'r ddibyniaeth ar y Bwrdd Taliadau Annibynnol fel pwyntiau trafod.
 

3.7 Rhoddwyd sicrwydd i Ann Beynon hefyd gan y dull o reoli prosiectau, a gofynnodd am eglurder o ran ai rôl Llywodraeth Cymru neu'r Comisiwn fyddai rheoli’r risgiau perthnasol. Roedd hi hefyd am sicrhau bod gan rywun drosolwg o unrhyw ddirywiad yn y sefyllfa, fel her gyfreithiol bosib a chapasiti awdurdodau lleol i gynnal yr etholiadau. Roedd Ann hefyd yn awyddus i drafod yr amserlen, yn enwedig o ran yr adolygiad o ffiniau yn dilyn Cydsyniad Brenhinol a'r penderfyniad i aros yn Nhŷ Hywel yn ystod y Seithfed Senedd.

3.8 Gwnaeth Aled Eirug hefyd gwestiynu’r gefnogaeth wleidyddol i'r adolygiad o ffiniau, gan ofyn sut y byddai materion ynghylch etholaethau, y gallent fod yn ddadleuol, yn cael eu rheoli. Gofynnodd hefyd am eglurder ynghylch sut yr oedd swyddogion yn ymdrin â pherthynas a rhyng-ddibyniaethau'r prosiect seneddol a'r rhaglen Ffyrdd o Weithio. 

3.9    Ymatebodd Siwan ac Anna i'r pwyntiau hyn, fel a ganlyn:

a.      Cafodd y posibilrwydd o her gyfreithiol ei gofnodi ar gofrestr risg Llywodraeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad diweddaru ar Lywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys cynnydd ar weithgaredd Archwilio Mewnol)

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

4.1 Rhoddodd Gareth Watts y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am waith archwilio a gweithgarwch ehangach o ran llywodraethu. Roedd y wybodaeth hon yn ategu’r diweddariad a roddodd i aelodau'r Pwyllgor ar 26 Hydref.
  

4.2 Nododd Gareth ei ddiolch i Kathryn Hughes a'r tîm am gwblhau’r holl gyfarfodydd 'Mae Llywodraethu o Bwys' gyda phob Pennaeth Gwasanaeth ac am ddiweddaru a chyhoeddi templedi a chanllawiau ar gyfer cofnodi sicrwydd. Roedd y canllawiau wedi'u gwella i'w gwneud yn fwy eglur o ran cofnodi sicrwydd corfforaethol. Roedd y broses hefyd wedi'i haddasu i ymgorffori arfer gorau sy'n dod i'r amlwg drwy brosiect "edau euraidd" o dan arweiniad Trysorlys EM ac Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth. Nododd y Pwyllgor nad oedd y prosiect wedi codi unrhyw bwyntiau i'r Comisiwn ddysgu oddi wrthynt a'i fod wedi rhoi sicrwydd ychwanegol bod arferion gorau wedi'u dilyn. Hefyd, nodwyd bod dull gweithredu’r Comisiwn yn cael ei rannu â sefydliadau eraill. Gallai hyn helpu i lywio arfer gorau fel rhan o brosiect y Llywodraeth.

4.3 Rhoddodd Gareth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am weithgarwch arall yn y maes hwn, fel a ganlyn:

a. roedd ef a'i dîm wedi cwblhau ymarfer bwrdd gwaith i lywio adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd Gweithredol a'r Tîm Arwain a fyddai'n cael ei drafod ag aelodau’r ddau grŵp yn ystod yr wythnosau nesaf;

b. roedd wedi cwblhau adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol ac wedi rhannu ei adroddiad drafft â Siwan Davies ac Anna Daniel cyn ei drafod gyda'r Cadeirydd;

c. roedd wedi mynd i gynhadledd ddiweddar Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Cymru, lle trafodwyd risgiau byd-eang a risgiau ledled y DU, gan nodi nad yw materion seiber bellach wedi’u nodi ymhlith y deg risg uchaf - cynigiodd rannu ei nodiadau a'i sleidiau ag aelodau'r Pwyllgor;

d. roedd contract partner archwilio mewnol y Comisiwn, a gomisiynwyd ar y cyd, wedi'i ddyfarnu i Haines Watts am y pedair blynedd nesaf (roedd y gwasanaeth hwn wedi'i gynnig gan TIAA am yr wyth blynedd diwethaf) ac roedd y cwmni bellach wedi cwblhau ei archwiliad cyntaf, gan ganolbwyntio ar y Rheolaethau Ariannol Allweddol. Roedd Gareth yn gobeithio rhannu’r adroddiad ar y archwiliad cyntaf hwn cyn y Nadolig;

e. roedd wedi cwblhau ei archwiliad o dreuliau'r Aelodau heb unrhyw argymhellion, a nododd y byddai'n gweithio gyda thîm Cymorth Busnes yr Aelodau ar oblygiadau trethiant i Aelodau yn y dyfodol.

4.4 Ychwanegodd Gareth ei fod wedi trafod cwmpas adolygiad ymgynghorol a fydd yn cael ei gynnal gan Haines Watts ym maes parhad busnes, gan ddefnyddio arbenigedd a dealltwriaeth helaeth y cwmni yn y maes hwn. Bydd yr archwiliad sicrwydd seiber-ddiogelwch yn cael ei gynnal gan Haines Watts hefyd, a bydd yr adroddiad perthnasol yn cael ei rannu y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor. Cyfeiriodd hefyd at ei waith arfaethedig ar sicrwydd o ran y risgiau sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith Rheoleiddio.

5.

Adroddiad Archwilio Mewnol

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 4 – Cynllun Ieithoedd Swyddogol (‘y cynllun’)

5.1 Croesawodd y Pwyllgor Mair Parry-Jones a Sarah Dafydd i'r cyfarfod.
 

5.2 Arweiniwyd y drafodaeth gan Aled Eurig, gan ganolbwyntio ar fonitro cydymffurfiaeth â'r Cynllun, sgiliau, dysgu, y broses gynefino a’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Comisiwn y Senedd a’i defnydd gan Aelodau a'u staff cymorth.

5.3 O ran monitro cydymffurfiaeth â'r cynllun, disgrifiodd Sarah Dafydd y gwaith sydd ar y gweill gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gryfhau'r systemau sydd yn eu lle. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys trafod sut y gellir gwneud mwy o ddefnydd o gydgysylltwyr y Gymraeg ym mhob maes gwasanaeth a chysylltu â Chomisiwn y Gymraeg a Llywodraeth Cymru i rannu syniadau ac arferion da.
 

5.4 Amlinellodd Sarah hefyd sut y byddai’r bobl sy’n dymuno dysgu Cymraeg yn gallu nodi hyn ar y Cofnod Datblygiad Personol (PDR), a phwysleisiodd yr angen i reolwyr llinell ddeall yr ymrwymiad amser sy’n gysylltiedig â hyn. Bu tîm y cynllun hefyd yn gweithio gyda meysydd gwasanaeth ac Aelodau a'u staff i ddadansoddi anghenion dysgu a nodi'r dulliau addysgu gorau i ddiwallu anghenion y dysgwyr. Nododd y Pwyllgor y dull gweithredu cefnogol, yn hytrach na'r defnydd o dargedau ar gyfer dysgwyr, gan fod anghenion pawb yn wahanol a bod staff uwch yn wynebu rhwystrau posibl o ran gwneud cynnydd oherwydd cyfyngiadau amser. Bydd y tîm hefyd yn llunio Cynllun Hyder i annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau.

5.5 Nododd Ken Skates y cynnydd amlwg yn y defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr, sydd yn ei dro yn debygol o gynyddu'r niferoedd sy’n defnyddio ac yn dysgu’r Gymraeg. Nododd swyddogion fod y galw wedi cynyddu a bod Aelodau'n mynd ati'n rhagweithiol i ofyn i'r tiwtoriaid am help i ddysgu neu loywi sgiliau.

5.6 Cododd Ann Beynon bwynt cysylltiedig ynghylch sicrhau bod y di-Gymraeg neu ddysgwyr yn gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn gweithio mewn amgylchedd dwyieithog ac yn deall hunaniaeth a diwylliant Cymru. Nodwyd bod hyn yn cael ei drafod yn ystod y broses gynefino a’r gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth a monitro cydymffurfiaeth â'r cynllun.

5.7 Wedyn, gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog. Er ei bod bellach yn dechnegol bosibl defnyddio'r cyfleuster cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams, dywedodd Arwyn fod TGCh wrthi’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i brofi ei effeithiolrwydd a'i ddibynadwyedd. Bydd y cyfleuster hwn wedyn yn cael ei brofi ymhellach yn ystod cyfarfodydd mewnol cyn trafod a ddylid ei ddefnyddio ar gyfer busnes ffurfiol. Ychwanegodd Arwyn fod y defnydd o Zoom ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog wedi cynyddu ers i’r cwmni wella ei nodweddion diogelwch. 

5.8 Roedd Mair am nodi ei diolch i Sarah Dafydd a'i thîm am eu gwaith ac am y cynnydd sydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan bwysleisio llwyddiant y tîm wrth ymgorffori'r cynllun fel ‘busnes arferol’ yn y sefydliad.

5.9 Diolchodd y Pwyllgor i Gareth am yr adroddiad archwilio ac i Sarah a Mair am eu cyfraniadau. Roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynllun Archwilio 2022 ac adroddiad diweddaru Archwilio Cymru (gan gynnwys adroddiadau/allbynnau Archwilio Cymru)

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 5 - Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru

6.1 Cyflwynodd Gareth Lucey y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru. Roedd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn wedi'u hardystio gan Ann-Marie Harkin a'u gosod gerbron y Senedd ar 30 Mehefin. Bydd Archwilio Cymru mewn sefyllfa i gyhoeddi’r anfoneb, sy’n is na'r amcangyfrif cychwynnol ar hyn o bryd, cyn diwedd 2022.

6.2 Effeithiwyd ar y gwaith o gynllunio proses archwilio 2022-23 gan y broses o gyflwyno Safonau Archwilio Rhyngwladol diwygiedig 315 (ISA 315). O ganlyniad, ni fyddai Archwilio Cymru mewn sefyllfa i gyhoeddi'r Cynllun Archwilio ffurfiol nes cyfarfod ARAC ar 28 Ebrill, ond byddai'n cyflwyno cynllun amlinellol yn ystod y cyfarfod ar 13 Chwefror.

6.3 Wedyn, disgrifiodd Gareth oblygiadau’r ISA 315 diwygiedig i'r broses archwilio a llunio cyfrifon 2022-23. Mae’n galw am asesiad risg manylach fe rhan o’r gwaith cynllunio, a byddai canlyniadau'r asesiad hwn yn penderfynu lefel y profion archwilio pellach sy’n rhaid eu cynnal.

 

6.4 Gallai'r newidiadau hyn o bosibl effeithio ar amseriad yr archwiliad, gan y gallai fod angen mwy o amser cynllunio a phrofi ymlaen llaw, er y gallai hyn leihau lefel y profion archwilio terfynol oherwydd y risg is o gamddatganiadau materol. Mae’n bosibl y byddai’n effeithio ar gostau hefyd, oherwydd y byddai’n rhaid i staff mwy profiadol fod yn rhan o'r cam cynllunio. Amcangyfrifir y byddai’r ffioedd i gyrff llywodraeth leol yn cynyddu rhwng 12 a 18 y cant, ond byddai'r effaith ar ffi archwilio'r Comisiwn yn dod yn gliriach unwaith y byddai’r gwaith cynllunio wedi'i wneud. 

6.5 Hefyd, cyfeiriodd Gareth at allbynnau ehangach Archwilio Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gan dynnu sylw at yr adroddiadau ar y Fenter Twyll Genedlaethol a Dysgu o Ymosodiadau Seiber, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, ac ‘Amser am newid – Tlodi yng Nghymru’, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022.  

6.6 Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am rannu’r wybodaeth ddiweddaraf. Mynegodd y Cadeirydd bryder ynghylch y cynnydd posib mewn ffioedd o ganlyniad i’r ISA 315 diwygiedig, yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae’n bwysig bod Comisiwn y Senedd yn gweld rhai manteision o'r gwaith craffu manylach sy’n gysylltiedig â’r safon newydd. Roedd wedi gofyn i Archwilio Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynnydd yn y maes, ac roedd cyfres reolaidd o gyfarfodydd diweddaru wedi'u cytuno.  

Cam i’w gymryd:

·       Cynllun archwilio amlinellol i'w gyflwyno yn ystod y cyfarfod ar 13 Chwefror, cyn trafod y cynllun manwl ar 28 Ebrill.

7.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2022-23 a chyllideb 2023-24

7.1 Disgrifiodd Nia Morgan y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2022-23, gan gynnwys manylion y cyllidebau atodol. Roedd y papur hefyd yn amlinellu manylion cyllideb 2023-24, a chafwyd cadarnhad gan Nia fod y gyllideb hon wedi’i chymeradwyo yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Tachwedd.

7.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, rhannodd Nia a Manon fanylion ychwanegol am y buddsoddiad mewn cyfleusterau, sy’n cynnwys gwaith hanfodol i gynnal a chadw adeiladau a chryfhau pwynt bregus a nodwyd gan y tîm Diogelwch yn ystod protest diweddar.

7.3 Hefyd, rhannodd Arwyn ragor o fanylion am y buddsoddiad mewn adnoddau ar gyfer datblygu’r gwaith o ymgysylltu ag etholwyr, a oedd yn cynnwys system Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid ac adnodd ymgysylltu ar-lein. Bydd hyn yn hwyluso’r gwaith ymgysylltu, yn ogystal â’r gwaith o gasglu tystiolaeth ac ymatebion i ymgyngoriadau, i helpu i lywio gwaith Pwyllgorau'r Senedd a nodi adborth ar brofiadau ymwelwyr â'r ystâd.

8.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

8.1 Roedd Nia Morgan, Manon Antoniazzi a Ken Skates wedi rhoi tystiolaeth yn ddiweddar i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid. Roedd gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys copïau o adroddiadau ac ymatebion y Comisiwn, wedi’i rhoi i aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod hwn, ar 8 Tachwedd. Bydd copi o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi erbyn dechrau Rhagfyr, yn cael ei rannu hefyd.

8.2 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol gan y Pwyllgor Cyllid yn benodol, gan ychwanegu bod yr aelodau wedi croesawu'r holl wybodaeth ychwanegol a anfonwyd atynt. Hefyd, diolchodd y Pwyllgor i Nia am y sesiynau briffio a'r gefnogaeth a gafwyd ganddi y tu allan i'r cyfarfodydd ffurfiol. 

Cam i’w gymryd:

·       Y tîm clercio i ddosbarthu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus pan fydd ar gael.

9.

Crynodeb o'r Ymadawiadau

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 7 – Crynodeb o ymadawiadau
 

9.1 Nododd y Pwyllgor dri achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol. 

9.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch adnewyddu cytundeb y Gwasanaeth Darlledu, nododd Arwyn y bydd y Comisiwn yn parhau i geisio gwelliannau i'r gwasanaeth yn ystod trafodaethau rheolaidd â'r contractwr. Bydd hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch uwchraddio Senedd TV.

10.

Risgiau Corfforaethol

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 8 - Risgiau corfforaethol

ARAC (22-06) Papur 8 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol

ARAC (22-06) Papur 8 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd

10.1 Nododd y Pwyllgor y diweddariadau yng Nghofrestr Risg Corfforaethol y Comisiwn. Nododd y Cadeirydd fod y risgiau sy’n gysylltiedig â diwygio'r Senedd, seiber-ddiogelwch a chapasiti a gallu wedi'u trafod fel eitemau sylweddol ar yr agenda.

11.

Archwiliad beirniadol o un risg neu fater sydd eisoes wedi'i nodi neu sy'n dod i'r amlwg - Risg Capasiti a Galluogrwydd Corfforaethol

Eitem lafar - yn cyfeirio at HR-R-170 yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol

Cofnodion:

Eitem lafar (yn cyfeirio at y diweddariad yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol)

11.1 Rhoddodd Ed Williams drosolwg o’r ffordd y mae’r Comisiwn yn rheoli’r risgiau o ran capasiti a gallu i gefnogi'r Cynllun Cyflawni Corfforaethol, sydd bellach yn ymgorffori'r ddwy brif raglen drawsnewid, sef diwygio'r Senedd a Ffyrdd o Weithio. Nododd fod y gwaith o gynllunio'r gweithlu yn cael ei drafod eto o ganlyniad i hyn.

11.2 Cyfeiriodd Ed at y diagram yn Atodiad B i bapur 3, gan dynnu sylw at y ffaith bod cynllunio gwasanaethau, cynllunio capasiti a chynllunio ariannol yn y tymor canolig yn rhannau annatod o'r broses lywodraethu sy’n gysylltiedig â’r gwaith o gyflwyno'r rhaglenni trawsnewid a ‘busnes arferol’ o fewn y Cynllun Cyflawni Corfforaethol. Cyfeiriodd hefyd at brif themâu'r rhaglen Ffyrdd o Weithio a sut y byddai'r broses gynllunio yn helpu i sicrhau bod gan y Comisiwn y capasiti cywir yn y mannau cywir.

11.3 Amlinellodd Lowri Williams y gwaith y mae’r Comisiwn wedi bod yn ei wneud yn gyson ers sawl blwyddyn i gynllunio'r gweithlu, gan gynnwys yn ystod y pandemig, pan gafodd staff eu hadleoli i ddarparu gwasanaethau â blaenoriaeth. Ychwanegodd fod Penaethiaid Gwasanaeth yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cynllunio capasiti mewn ffordd effeithiol a disgrifiodd yr ymarfer manwl a gynhaliwyd yn ystod yr haf i nodi unrhyw arbedion effeithlonrwydd posibl ac ystyried cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd. Hefyd, nododd Lowri yr heriau sy’n gysylltiedig â chyfyngiadau ar gyllidebau ac ymateb i farchnad sy'n newid o ran recriwtio, a nododd hefyd sut y byddai’r templedi cynllunio gwasanaethau newydd yn hwyluso’r gwaith o gynllunio'r gweithlu ymlaen hyd 2024-25.

11.4 Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor, disgrifiodd Lowri y ffyrdd y mae gwybodaeth am sgiliau yn cael ei chasglu fel rhan o'r prosesau cynllunio a rheoli perfformiad. Amlinellodd hefyd sut roedd gwytnwch yn cael ei gryfhau drwy, er enghraifft, raglenni datblygu arweinyddiaeth a datblygu seneddol. Byddai'r cynlluniau gwasanaeth newydd hefyd yn cofnodi manylion unrhyw gapasiti ychwanegol a sgiliau newydd sydd eu hangen arnom i gyflwyno rhaglen ddiwygio'r Senedd.

11.5 Ochr yn ochr â’r risgiau o ran capasiti a gallu, nododd y Cadeirydd fod risgiau ehangach hefyd wrth i'r Comisiwn weithredu ei strategaeth Ffyrdd o Weithio. Mewn ymateb i hyn a chwestiynau eraill ynghylch rôl Swyddfa'r Rhaglen, a’r berthynas â’r swyddfa hon, amlinellodd Ed a Manon sut y bydd yr Uned Cynllunio Strategol newydd, sy'n cynnwys swyddi wedi'u hail-bwrpasu, yn mabwysiadu dull rheoli portffolio mwy cyfannol wrth ymdrin â newid. Bydd y Bwrdd Gweithredol yn goruchwylio’r broses hon, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau. Yr Uned newydd fydd yn gyfrifol am ddatblygu mecanweithiau ar gyfer adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol, gan gydlynu â’r adroddiadau sy’n dod i law gan Swyddfa'r Rhaglen. Cytunodd Ed i lunio nodyn briffio ar gyfer aelodau'r Pwyllgor i gyflwyno manylion pellach am y ffordd y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.


Cam i’w gymryd:

·       Ed i lunio papur briffio ychwanegol i'r Pwyllgor ar y trefniadau llywodraethu a newid ar gyfer gweithredu'r Cynllun Cyflawni Corfforaethol

12.

Diweddariad ar seiberddiogelwch

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 9 - Adroddiad sicrwydd Seiberddiogelwch

12.1 Croesawodd y Cadeirydd Mark Neilson, Jamie Hancock a Tim Bernat i'r cyfarfod i gyflwyno’r eitem hon.

12.2 Cyflwynodd Tim Bernat yr Adroddiad Sicrwydd Seiberddiogelwch diweddaraf a disgrifiodd y dirwedd bresennol o ran bygythiadau yn y maes hwn. Amlinellodd sut y bydd cyflwyno Canolfan Gweithrediadau Diogelwch newydd ym mis Rhagfyr yn uwchraddio gallu’r Comisiwn i nodi bygythiadau ymhellach, ac yn darparu tîm pwrpasol o ddadansoddwyr a pheirianwyr seiberddiogelwch a fydd ar gael 24/7/365. Ychwanegodd fod cymeradwyaeth wedi’i rhoi i greu swydd Swyddog Seiberddiogelwch i gynyddu gwytnwch o fewn y tîm.

12.3 Croesawodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf hon, a diolchodd i'r tîm am lunio adroddiad sicrwydd mor gynhwysfawr. Gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion drafod lefel y manylder mewn adroddiadau yn y dyfodol o ran y wybodaeth gefndirol sy’n cael ei chyflwyno, ac i amlygu unrhyw newidiadau ers y diweddariadau blaenorol.

12.4 Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am fanylion unrhyw ymdrechion eraill i godi ymwybyddiaeth, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer y digwyddiadau seiber arfaethedig, ac i gynnig hyfforddiant, gan gynnwys y posibilrwydd o hyfforddiant gorfodol.
 

12.5 Cadarnhaodd Mark y byddai'r swydd newydd yn helpu i hwyluso ffocws ar godi ymwybyddiaeth o risgiau seiber a chynnig hyfforddiant i staff y Comisiwn, yn ogystal ag Aelodau a'u staff cymorth. Ychwanegodd Manon mai rôl y Comisiwn fyddai penderfynu a ddylid gwneud unrhyw hyfforddiant yn fandadol. Dywedodd Arwyn ei fod wedi codi’r mater hwn yn un o'r cyfarfodydd rheolaidd y mae ef a Mark yn eu cael â Rhun ap Iorwerth AS, y Comisiynydd, i drafod materion TGCh. Awgrymodd Ken Skates y byddai modd trafod hyfforddiant gorfodol ar gyfer Aelodau a'u staff cymorth â phob grŵp gwleidyddol yn ei dro, o gofio bod hyn wedi digwydd mewn meysydd eraill yn y gorffennol.
 

12.6 Cadarnhaodd Tim hefyd fod y tîm wrthi'n cynllunio digwyddiad ymwybyddiaeth seiber ar gyfer 2023 ac y byddai'n datblygu strategaeth ymgysylltu seiber.

13.

Y wybodaeth ddiweddaraf am REWAC a Myfyrdodau gan Ann Beynon ar aelodaeth ARAC

Eitem lafar

Cofnodion:

Eitem lafar

13.1 Diolchodd Ann Beynon i'r Cadeirydd am neilltuo amser iddi rannu ei myfyrdodau. Roedd hi’n ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda sefydliad sector cyhoeddus ac ychwanegodd fod gwaith y Pwyllgor wedi bod yn hynod ddiddorol.

13.2 Llongyfarchodd swyddogion ar safon broffesiynol y papurau y maent yn eu llunio, yn enwedig mewn perthynas â chyllid, a soniodd am y dull ystyrlon o archwilio mewnol a ddilynir.

13.3 Diolchodd Ann hefyd i'r Cadeirydd am y trafodaethau rheolaidd a gafwyd y tu allan i'r cyfarfodydd ffurfiol. Roedd y trafodaethau hyn wedi helpu i wella ei dealltwriaeth o weithgarwch Comisiwn y Senedd. Argymhellodd y dylai gwaith y Pwyllgor barhau i ddatblygu, a chyfeiriodd at gymhlethdod y pwyllgorau cynghori a'r byrddau wrth i'r Senedd esblygu a'r angen iddynt gydweithio.

13.4 Er bod ei chysylltiad â swyddogion wedi’i gyfyngu'n fwy diweddar oherwydd y pandemig, nododd y diwylliant cwrtais, parchus, cadarnhaol a hyderus, yn ogystal â’r amgylchedd cefnogol, yr oedd wedi dod ar ei draws. Anogodd uwch reolwyr i fod yn ymwybodol o effaith pwysau allanol ar y diwylliant hwn ac i ystyried sut y mae unigolion yn ymateb yn wahanol i bwysau o’r fath, gan awgrymu y gallai hyn gael ei gynnwys mewn hyfforddiant i reolwyr. Soniodd hefyd am bwysigrwydd rhoi adborth gonest i staff, mewn modd cwrtais, yn unol â’r gwerthoedd sefydliadol o urddas a pharch.

13.5 Yn ei sylwadau olaf, anogodd swyddogion i ofalu am eu hunain a'i gilydd.

14.

Adolygu cylch gorchwyl y pwyllgor

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 10 – Y Cylch Gorchwyl presennol

14.1 Cytunodd y Pwyllgor nad oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i'w gylch gorchwyl.

15.

Canlyniadau arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 11 - Adroddiad ar yr arolwg o effeithiolrwydd ARAC 2022

15.1 Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm Clercio am lunio'r adroddiad manwl ar y dadansoddiad o ganlyniadau'r arolwg. Roedd yn falch o'r sgoriau, a oedd yn cadarnhau ei farn ar effeithiolrwydd parhaus y Pwyllgor. Diolchodd i bawb am lenwi'r arolwg, yn arbennig am y sylwadau defnyddiol a wnaed.

16.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 12 - Y flaenraglen waith

16.1 Nodwyd y flaenraglen waith, y bydd cael ei rhannu y tu allan i'r pwyllgor i wahodd sylwadau.

16.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

17.1 Talodd y Cadeirydd deyrnged i Catharine Bray, y Pennaeth Cyllid, sy’n ymddeol o Gomisiwn y Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf. Roedd yn awyddus i ddiolch iddi am ei chefnogaeth bob amser a nododd fod ei gwybodaeth a'i harbenigedd technegol wedi’u gwerthfawrogi'n fawr. Hefyd, ategodd ei ddiolch i Nia am ei chefnogaeth a'i harweiniad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

 

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 13 Chwefror 2023.