Agenda item

Diwygio'r Senedd - Diweddariad corfforaethol, gan gynnwys. diagram strwythur llywodraethu ar gyfer Diwygio'r Senedd (strwythur tîm mewnol a chysylltiadau â Llywodraeth Cymru)

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 3 - Y wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddiwygio'r Senedd

3.1 Diolchodd y Cadeirydd i Siwan Davies a'i thîm am y dogfennau trylwyr a chynhwysfawr, a oedd yn cynnwys y papurau a gyflwynwyd yn ystod cyfarfod diweddar Bwrdd Rhaglen Ddiwygio'r Senedd.

3.2 Ar 15 Mehefin, cafodd y Pwyllgor drafodaeth fanwl ar y risg gorfforaethol sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddiwygio'r Senedd. Ar 7 Hydref, cytunodd y Bwrdd Gweithredol ar gylch gorchwyl ac aelodaeth Bwrdd Rhaglen Ddiwygio'r Senedd ('yr SRPB') a chafodd manylion y cylch gorchwyl hwn eu cynnwys yn y papurau.
 

3.3 Amlinellodd Siwan y trefniadau llywodraethu ar gyfer rheoli holl elfennau'r agenda ddiwygio, y mae’r SRPB yn rhan ohoni, fel yr amlinellir yn y diagram yn Atodiad A. Yn ogystal â pharatoi ar gyfer busnes seneddol y Seithfed Senedd, mae hyn hefyd yn cynnwys cydgysylltu a chefnogi’r gwaith o basio Bil Diwygio'r Senedd a diwygio'r Penderfyniad ar Gyflog a Lwfansau’r Aelodau, yn ogystal â chyflwyno'r rhaglen Ffyrdd o Weithio a chynnal busnes arferol.

3.4 Cyfeiriodd Siwan at sefydlu Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd, gan ychwanegu bod cylch gorchwyl y bwrdd hwn wedi’i gynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod. Hefyd, cyfeiriodd at y llinell amser a’r cerrig milltir lefel uchel, a oedd hefyd wedi’u cynnwys yn y papurau, sy’n nodi’r cynnydd hyd yn hyn. O ran y gyllideb, cadarnhaodd Siwan y byddai Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol yn dilyn set gyffredin o ragdybiaethau ac yn defnyddio un ffynhonnell o wybodaeth am gostau.

3.5 Cyfeiriodd Siwan at y risg sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddiwygio'r Senedd ac sydd wedi’i nodi yn y papurau, gan dynnu sylw at y risgiau ychwanegol o ran effaith bosib hinsawdd economaidd sy'n newid ar gyllidebau, capasiti a phenderfyniadau gwleidyddol ar gyfeiriad y daith tuag at ddiwygio.
  

3.6 Rhoddwyd sicrwydd i’r Cadeirydd bod y trefniadau llywodraethu priodol ar waith, a nodwyd y llinell amser, y gwaith o gydgysylltu a rheoli prosiectau a'r ddibyniaeth ar y Bwrdd Taliadau Annibynnol fel pwyntiau trafod.
 

3.7 Rhoddwyd sicrwydd i Ann Beynon hefyd gan y dull o reoli prosiectau, a gofynnodd am eglurder o ran ai rôl Llywodraeth Cymru neu'r Comisiwn fyddai rheoli’r risgiau perthnasol. Roedd hi hefyd am sicrhau bod gan rywun drosolwg o unrhyw ddirywiad yn y sefyllfa, fel her gyfreithiol bosib a chapasiti awdurdodau lleol i gynnal yr etholiadau. Roedd Ann hefyd yn awyddus i drafod yr amserlen, yn enwedig o ran yr adolygiad o ffiniau yn dilyn Cydsyniad Brenhinol a'r penderfyniad i aros yn Nhŷ Hywel yn ystod y Seithfed Senedd.

3.8 Gwnaeth Aled Eirug hefyd gwestiynu’r gefnogaeth wleidyddol i'r adolygiad o ffiniau, gan ofyn sut y byddai materion ynghylch etholaethau, y gallent fod yn ddadleuol, yn cael eu rheoli. Gofynnodd hefyd am eglurder ynghylch sut yr oedd swyddogion yn ymdrin â pherthynas a rhyng-ddibyniaethau'r prosiect seneddol a'r rhaglen Ffyrdd o Weithio. 

3.9    Ymatebodd Siwan ac Anna i'r pwyntiau hyn, fel a ganlyn:

a.      Cafodd y posibilrwydd o her gyfreithiol ei gofnodi ar gofrestr risg Llywodraeth Cymru a byddai cofrestr risg hefyd yn cael ei chreu ar gyfer y Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd.

b.      Roedd y trefniadau mewnol ar gyfer y Comisiwn, y Bwrdd Gweithredol, Bwrdd Rhaglen Ddiwygio'r Senedd, a'r Bwrdd Rhaglen Ffyrdd o Weithio wedi’u halinio, wedi’u trefnu ac yn gweithio ar ragdybiaethau cyffredin.

c.       Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd gweithio gyda'r awdurdodau lleol i gyflwyno’r diwygiadau etholiadol a'u paratoi ar gyfer yr etholiadau. Byddai’r mater hwn yn cael ei drafod drwy ddiweddariad rheolaidd yn y Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd yn seiliedig ar waith mapio rhanddeiliaid a fydd yn cael ei wneud ar y cyd hefyd.

d.      Roedd y llinell amser ar gyfer yr adolygiad o ffiniau a oedd wedi’i nodi yn y papurau yn un dangosol, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai gweithio gyda'r Comisiwn Ffiniau i sicrhau eu bod mor barod â phosibl, gan nad oedd modd cwblhau’r gwaith hwn tan ar ôl i’r Bil gael ei basio.

e.      Byddai gwybodaeth a chostau yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru fel rhan o Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’i chyhoeddi yn y Memorandwm Esboniadol a fydd yn cyd-fynd â'r Bil, sy'n debygol o fod yn ofynnol erbyn Gwanwyn 2023.

3.10  Mewn ymateb i gwestiynau am y berthynas â'r Bwrdd Taliadau Annibynnol, cafwyd sicrwydd gan Siwan fod y cyfathrebu rhwng y Bwrdd hwnnw, Comisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Busnes wedi’i gydgysylltu’n dda. Hefyd, cyfeiriodd at y gwaith a wnaed i symleiddio'r Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Aelodau o'r Senedd i helpu i egluro pwy sy’n gyfrifol am wneud pa benderfyniadau.

3.11  O ran y risgiau sy’n gysylltiedig â’r gwaith o ddiwygio'r Senedd, disgrifiodd Siwan yr heriau wrth wneud penderfyniadau gwleidyddol ac amcangyfrif y goblygiadau o ran adnoddau. Cafwyd sicrwydd ganddi fod dealltwriaeth gyffredin o'r risgiau, a bod camau i liniaru’r risgiau hyn wrthi’n cael eu datblygu. Ychwanegodd Ken y gallai unrhyw drafodaeth gyhoeddus ac ymateb Llywodraeth Cymru effeithio ar y cynigion.

3.12  Mewn ymateb i gwestiynau eraill ynghylch trefniadau llywodraethu ac adrodd mewnol, disgrifiodd Manon sut yr adroddodd yr SRPB, o dan gadeiryddiaeth Siwan, yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol, o dan ei chadeiryddiaeth hithau. Byddai'r Bwrdd Gweithredol yn parhau â’i oruchwyliaeth strategol o raglen ddiwygio'r Senedd a’r rhaglen Ffyrdd o Weithio, ac, yn ogystal â’r diweddariadau rheolaidd, mae’r cyfarfodydd a gynhelir bob pythefnos yn gyfle i drafod unrhyw benderfyniadau neu faterion sy'n codi.

3.13  Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad sylweddol hwn a'r cyfle i drafod y risgiau a'r materion allweddol, ac i nodi cynnydd rhaglen ddiwygio'r Senedd. O gofio bod y mater hwn wedi’i nodi fel eitem sefydlog ar yr agenda, nodwyd y byddai diweddariad pellach ar gynnydd yn cael ei roi yng nghyfarfod ARAC ym mis Chwefror.