Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd aelodau’r is-bwyllgorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Menter a
Busnes i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Darren Millar, a oedd yn hwyr yn cyrraedd am ei fod mewn
cyfarfod o’r Pwyllgor Busnes. 1.3
Hefyd, cafwyd ymddiheuriadau gan gynrychiolwyr Cynghrair
Cynhyrchwyr Sinema a Theledu (PACT), nad oeddent yn gallu dod i roi tystiolaeth
o dan eitem 2. |
|
(09.00 - 10.00) |
Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 - Sesiwn Dystiolaeth 1 BBC Cymru SFP(4)-01-13 – Papur 1 SFP(4)-01-13 – Papur 1a ·
Clare
Hudson - Pennaeth Cynyrchiadau
BBC Cymru PACT (Cynghrair Cynhyrchwyr Sinema a Theledu) · Sue Vertue, Hartswood Films ac aelod o PACT Teledwyr Annibynnol
Cymru SFP(4)-01-13 – Papur 3a ·
Sion Clwyd
Roberts, Arbenigwr Cyfryngau
ac Eiddo Deallusol - Capital Law ac aelod
o Gyngor TAC Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Cymerodd
yr is-bwyllgorau dystiolaeth gan gynrychiolwyr BBC Cymru a Teledwyr Annibynnol
Cymru. 2.2
Cytunodd
y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y costau ynglwm wrth y rheoliadau,
gan gynnwys: cost adleoli cynhyrchiadau’r BBC i Loegr i recordio golygfeydd
dramatig sy’n cynnwys actorion yn ysmygu; costau am fod cynyrchiadau yn
penderfynu peidio â dod i Gymru o ganlyniad i ddiffyg eithriad yn y
ddeddfwriaeth; a rhagor o fanylion am y gost o efelychu ysmygu gan ddefnyddio
technoleg CGI. |
|
(10.00 - 11.00) |
Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012- Sesiwn Dystiolaeth 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cymerodd yr is-bwyllgorau dystiolaeth
gan gynrychiolwyr ASH Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a Cancer Research UK. 3.2 Cytunodd yr
is-bwyllgorau i chwilio am ragor o wybodaeth am effaith atal ysmygu ar setiau
ffilm a theledu ar y diwydiannau ffilm a theledu yn yr Alban a Gogledd
Iwerddon. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |