Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:30)

2.

Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru'

Cofnodion:

1.1        Nododd y Pwyllgor ei fod wedi cytuno yn ei gyfarfod diwethaf, ar 3 Gorffennaf 2012, i ddechrau’r cyfarfod hwn yn breifat.

1.2        Trafododd y Pwyllgor y newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ a chytunodd arnynt.

 

(9:30 - 9:55)

3.

Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru'

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’ a chytunodd i’w ystyried ymhellach yn ei gyfarfod ar 17 Gorffennaf 2012.

(9:55 - 10:00)

4.

Paratoi ar gyfer tystiolaeth Llywodraeth Cymru ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y ffordd y mae’n bwriadu ymdrin â’r sesiwn dystiolaeth ddilynol (eitem 5) ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen’.

 

 

(10:00 - 10:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod.

(10:05 - 11:00)

5.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

 

Y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter Technoleg a Gwyddoniaeth; Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd; a David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu.

 

5.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Pwyntiau gweithredu:

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau, cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Manylion ar p’un a fyddai uwch reolwyr Llywodraeth Cymru sy’n uwch na lefel ranbarthol wedi bod yn bresennol ar gyfer sesiynau briffio’r cyn Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ynghylch cynigion i brynu gwesty River Lodge.

·         Nodyn ynghylch a oes dyddiad cau wedi’i bennu i waredu hen westy River Lodge.

·         Nodyn ynghylch y cynnydd ar gyfer gwerthuso ceisiadau ar ddefnyddio’r safle, gan gynnwys manylion am unrhyw amodau ar adeiladu pont droed ar y safle.

·         Rhagor o fanylion am Dîm Arweinyddiaeth Eiddo Llywodraeth Cymru.

·         Manylion am sut y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru yn y gogledd ymdrin â phryderon a godwyd gan Aelod Cynulliad lleol mewn llythyr i’r Gweinidog ynglŷn â chaffael gwesty River Lodge.

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 1 o gyfarfod y Pwyllgor ar 17 Gorffennaf 2012.

Trawsgrifiad