Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:10 - 9:15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle. |
|
(9:15 - 9:30) |
Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ohebiaeth ynghylch gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru PAC(4) 12-12 – Papur 1, Atodiad – Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru – Ywybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Rhoddwyd briff i’r Pwyllgor gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Dave Thomas, Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a Tracey Davies, Rheolwr Archwilio Perfformiad. Camau i’w cymryd: Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu: · Rhagor o wybodaeth am gyfraddau genedigaethau Cesaraidd y byrddau iechyd yng Nghymru o’u cymharu â rhanbarthau a chenhedloedd eraill y DU, gan gynnwys y data diweddaraf sydd ar gael. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar funudau’r cyfarfod blaenorol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 i 9. Cofnodion: Eitemau 5 i 9. |
||
(9:30 - 9:45) |
Opsiynau ar gyfer ymdrin â gohebiaeth ynghylch gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dewisiadau ar gyfer ymdrin â’r cyngor a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar wasanaethau mamolaeth, a phenderfynodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad byr i rai materion sy’n peri pryder a amlygwyd yn ei ohebiaeth. |
|
(9:45 - 10:15) |
Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Powys Fadog - gwerthu gwesty'r River Lodge Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor
friff preifat gan Gillian Body, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol – Archwilio Perfformiad ac Ian Hughes, Rheolwr
Cydymffurfio, ar adroddiad a gyhoeddir yn fuan, The Welsh Government’s acquisition and action to dispose of the former
River Lodge Hotel, Llangollen (heb ei gyhoeddi yn
Gymraeg hyd yn hyn) . |
|
(10:15 - 10:30) |
Opsiynau ar gyfer ymdrin â Phowys Fadog - gwerthu gwesty'r River Lodge Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, The Welsh Government’s acquisition and action to dispose of the former River Lodge Hotel, Llangollen a gofynnodd i’r Clerc gasglu rhestr o dystion posibl i roi tystiolaeth. |
|
(10:30 - 10:45) |
Trafod busnes y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol a'i raglen waith ar gyfer haf 2012 Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer tymor yr haf 2012. |
|
(10:45 - 11:00) |
Trafod ymweliad â Chynulliad Gogledd Iwerddon Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y cynigion i ymweld â Chynulliad Gogledd Iwerddon ar 12-13 Medi 2012 i drafod arfer gorau â’i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Cytunwyd ar y cynigion. |
|
Trawsgrifiad |