Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Tom Jackson
Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Leanne Wood.
|
2. |
Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-05-12 :
Llywodraeth Cymru – Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru
Kath Palmer,
Dirprwy Gyfarwyddwr Tai
Gareth Jones, Cyfarwyddwr
Cyffredinol Dros Dro, Dyfodol Cynaliadwy
Brian Gould,
Pennaeth Safonau Ansawdd Tai
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Dai; Gareth Jones,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy; a Paul Davies, Swyddog Safon
Ansawdd Tai Cymru a Chynaliadwyedd, i’r cyfarfod.
2.2 Bu’r Aelodau’n
holi’r tystion.
2.3 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau nas gofynnwyd yn
ystod trafodion y cyfarfod.
|
3. |
Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Tystiolaeth gan Cartrefi Cymunedol Cymru
PAC(4) 05-12 – Papur
2 – Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC)
Nick Bennett, Prif Weithredwr Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru
Peter Cahill, Cadeirydd Cartrefi Cymunedol Cymru a Phrif Weithredwr
Tai Dinas Casnewydd
Andrew Bateson, Cadeirydd fforwm gwasanaethau technegol Cartrefi Cymunedol Cymru a Chyfarwyddwr gwasanaethau technegol Cadwyn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Nick Bennett, Prif Weithredwr Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru; Peter Cahill,
Cadeirydd Cartrefi Cymunedol Cymru a Phrif Weithredwr Tai Dinas Casnewydd; ac Andrew
Bateson, Cadeirydd fforwm gwasanaethau technegol Cartrefi Cymunedol Cymru a
Chyfarwyddwr gwasanaethau technegol Cadwyn
3.2 Bu’r Aelodau’n
holi’r tystion.
|
4. |
Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin â'r Bil Archwilio Drafft
PAC(4) 05-12 – Papur 3 – Bil Archwilio (Cymru) Drafft
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi
ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Drafft ddydd Iau 15 Mawrth.
4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ystyried y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) Drafft ac i gael sesiwn friffio
technegol gan swyddogion y Llywodraeth.
4.3 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes er mwyn asesu’r posibilrwydd o
drefnu slotiau ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor.
|
5. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Cofnodion:
|
6. |
Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ar y cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru
Cofnodion:
6.1 Bu’r Pwyllgor
yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar y cynnydd a wnaed o ran cyrraedd Safon
Ansawdd Tai Cymru.
|
7. |
Ystyried adroddiad drafft ar 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
Cofnodion:
7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad
drafft ar ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’.
|
8. |
Papurau i'w nodi
PAC(4) 04-12 – Cofnodion
y cyfarfod blaenorol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
8.1 Cymeradwyodd
y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2012.
|
|
Trawsgrifiad
|