Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Tom Jackson
Clerk: Tom Jackson
Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
1. 1 Croesawodd y
Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Diolchodd y
Cadeirydd i Andrew RT Davies am ddirprwyo ar ei ran fel Cadeirydd dros dro yn
ystod ei gyfnod o absenoldeb.
1.3 Croesawodd y
Cadeirydd Tom Jackson, sef Clerc newydd y Pwyllgor, i’r cyfarfod, a diolchodd i
Alun Davidson, y Clerc blaenorol.
|
2. |
Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y cynnydd o ran cyrraedd safon ansawdd tai Cymru
PAC(4) 01-12 – Papur
1 – adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mathew Mortlock, Arbenigwr Perfformiad
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Matthew Mortlock,
Arbenigwr Perfformiad, i’r cyfarfod.
2.2 Cafodd
Aelodau’r Pwyllgor eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad gan
Swyddfa Archwilio Cymru, sef Cynnydd o
ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor
i gynnal ymchwiliad i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.
|
3. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
Cofnodion:
|
4. |
Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’
Cofnodion:
4.1 Bu’r Pwyllgor
yn ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’.
|
5. |
Adroddiad drafft y Pwyllgor ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai
Cofnodion:
5.1 Gwnaeth
aelodau’r Pwyllgor sylwadau ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar arlwyo a maeth
cleifion mewn ysbytai.
5.2 Cytunodd
aelodau’r Pwyllgor i ystyried adroddiad diwygiedig a gaiff ei anfon atynt ar
ffurf e-bost.
|
6. |
Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr adroddiad 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
Cofnodion:
6.1 Bu’r Pwyllgor
yn trafod sut i ymdrin ag adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef ‘Darlun o
Wasanaethau Cyhoeddus’.
|
7. |
Busnes y Pwyllgor yn y dyfodol
Cofnodion:
7.1 Bu aelodau’r
Pwyllgor yn trafod blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2012.
|
8. |
Papurau i'w nodi
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
8.1 Cymeradwyodd
y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
|
|
Trawsgrifiad
|