Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Webber
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd
i’r cyfarfod. |
|
Sesiwn breifat Penderfynodd y Pwyllgor
i eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer eitemau 3 a 8 yn unol â Rheol
Sefydlog 17.42(ix). |
|
Cyflwyniad i gylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor ei rôl
a’i gylch gwaith a’i berthynas
â Swyddfa
Archwilio Cymru. |
|
Cyflwyniad i gylch gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru (9.15 - 9.45) Huw Vaughan
Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol – Archwilio Perfformiad Anthony Barrett, Partner Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 3.1 Amlinellodd Archwilydd Cyffredinol Cymru rôl Swyddfa
Archwilio Cymru. |
|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Dulliau o flaengynllunio gwaith y Pwyllgor (9.45 - 10.15) Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor weithgareddau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y dyfodol. |
|
Deddfwriaeth Archwilio (10.15-10.30) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor ddeddfwriaeth archwilio arfaethedig Llywodraeth Cymru. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y broses gaffael (10.30 - 10.40) Y wybodaeth ddiweddaraf am y broses gaffael sydd ynghlwm â phenodi archwilwyr i archwilio cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o benodi archwilwyr i gyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru. |
|
Busnes Arall Ymweliad Y
wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ar ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r Comisiwn
Archwilio. Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio adroddiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion at y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn iddo graffu arno ymhellach. |
|
Materion sy’n ymwneud â llywodraethu ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (10.50 - 11.00) PAC(4)-02-11 Papur 1 Bydd y Pwyllgor yn trafod dulliau o ystyried materion sy’n ymwneud â llywodraethu ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1Gan nad oedd y Pwyllgor mewn sefyllfa i sefydlu is-bwyllgor, cytunodd i ohirio’r penderfyniad. |
|
Trawsgrifiad |