Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Sandy Mewies yn sgil ei chyfrifoldebau fel un o Gomisiynwyr
y Cynulliad (yn unol â RhS 18.9). Dirprwyodd Keith Davies ar ei rhan. |
||
(09:05-10:15) |
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014 PAC(4)-24-14
papur 1 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Peter Black
AC - Comisiynydd Claire
Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nicola
Callow – Cyfarwyddwr Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013
– 2014, gan holi Peter Black AC, Comisiynydd, Claire Clancy, Prif Weithredwr a
Chlerc y Cynulliad, a Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad. 2.2
Cytunodd Claire Clancy: · i ddarparu amlinelliad o'r camau a
gymerwyd yn dilyn y digwyddiad twyll · i ddarparu manylion pellach
ynghylch llithriad y prosiect Adnoddau Dynol â'r Gyflogres · i anfon darn o Adroddiad
Cydraddoldeb Blynyddol 2013-14 sy'n dangos y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ôl
gradd · i ddarparu amlinelliad o raddau
effeithlonrwydd ynni Tŷ Hywel a'r Senedd · i ddarparu gwybodaeth fanwl am y
costau TGCh ar gyfer 2013-14, gan gynnwys y costau rhedeg arferol a'r gwariant
a wnaed fel rhan o'r prosiect i ddod â darpariaeth TGCh yn fewnol |
|
(10:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 4 Cofnodion: 3.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:15-11:00) |
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 4.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i edrych eto ar y mater
hwn ar ôl cael y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad. |