Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(13:30-14:15) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-23-14
papur 1 Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o newidiadau. Bydd fersiwn
ddiwygiedig yn cael ei pharatoi i'r Pwyllgor ei hystyried ar 13 Hydref. |
|
(14:15-14:45) |
Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 - 2014 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Cofnodion: 2.1
Trafododd yr Aelodau gynnwys y briff ymchwil cyn y sesiwn graffu a gynhelir
gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru
2013-14. |
|
(15:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau i’r Pwyllgor. 3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Alun Ffred Jones. Roedd Jocelyn Davies yn dirprwyo ar ei ran. 3.3 Dywedodd Jocelyn Davies
fod Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi'i chynnwys yn ei phortffolio pan
yr oedd hi'n Weinidog. |
|
(15:00-16:30) |
Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 - 2014 PAC(4)-23-14
papur 2 Syr Derek
Jones – Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1
Craffodd y Pwyllgor ar waith Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth
Cymru, a'i swyddogion mewn perthynas â Chyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth
Cymru 2013 – 2014. 4.2
Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol: · i anfon manylion ynghylch y
pecynnau ymadael a ddyfarnwyd a'r arbedion cysylltiedig mewn costau cyflog, ac
i roi dadansoddiad o'r cynnydd a welwyd yn niferoedd staff y sefydliad · i roi eglurhad o'r ddarpariaeth ar
gyfer cronfa risg Cymru · i egluro'r gostyngiad a welwyd yn
nefnydd ynni adnewyddadwy a'r cynydd a welwyd yn nefnydd ynni anadnewyddadwy ar
ystâd Llywodraeth Cymru · i ddarparu dadansoddiad o'r
gwariant a wnaed ar deithio busnes swyddogol yn 2012-13 a 2013-14, o lwfansau
ymrwymiad lleihau carbon, ac o wariant ar ynni yn 2013-14 · i ddarparu dadansoddiad o'r
gwariant wnaed ar deithio, cynhaliaeth a lletygarwch yn 2013-14 · i roi eglurhad manwl o'r
goblygiadau sydd ynghlwm â methiant Llywodraeth Cymru i sicrhau £25.6 miliwn ar
ffurf darpariaeth nad yw'n arian parod. Yn dilyn trafodaeth gyda'r Ysgrifennydd
Barhaol, cytunodd yr Aelodau eu bod yn dymuno gweld yr adroddiad a luniwyd ar y
gwersi a ddysgwyd yn dilyn y digwyddiad hwn. |
|
(16:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16:30-17:00) |
Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru 2013 - 2014 Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i edrych eto ar y mater
hwn ar ôl cael y wybodaeth ychwanegol gan yr Ysgrifennydd Parhaol. |