Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Nododd y
Cadeirydd, gan y byddant yn ethol Aelodau i fod ar bwyllgorau yn y Cyfarfod
Llawn yn hwyrach heddiw, mae’n debygol mai dyma oedd cyfarfod olaf Jocelyn
Davies. |
|
(09:00-10:15) |
Trefniadau Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-02-14 (papur 1) PAC(4)-02-14 (papur 3) Owen Evans – Cyfarwyddwr
Cyffredinol, yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru Dr Bret Pugh - Cyfarwyddwr y
Grŵp Safonau a Gweithlu Ysgolion Phil Jones - Dirprwy
Cyfarwyddwr yr Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Owen Evans,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru; Dr Bret Pugh,
Cyfarwyddwr Grŵp, y Grŵp Safonau Ysgolion a'r Gweithlu a Phil Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Safonau Ymarferwyr a Datblygiad Proffesiynol o ran
Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon. 2.2 Cytunodd Owen Evans i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer o faterion
a godwyd yn ystod y sesiwn. |
|
(10:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 4 a 5 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:15 - 10:30) |
Trefniadau Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ystyried y
dystiolaeth bellach y gofynnwyd amdani gan Lywodraeth Cymru a phenderfynu wedyn
ynghylch a oes angen gwneud gwaith pellach cyn bod modd paratoi'r adroddiad. |
|
(10:30 - 11:00) |
Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-02-14 (papur 4) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio lafar gan Swyddfa Archwilio Cymru ar
y gwasanaethau awyr o fewn Cymru - rhwng Caerdydd ac Ynys Môn - a chytunodd i
gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn yn nes ymlaen yn y tymor. |