Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09:00 - 10:00)

2.

Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Stephen Martin - Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Meilyr Rowlands -  Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyda Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon’. Roedd Stephen Martin o Swyddfa Archwilio Cymru a Meilyr Rowlands o Estyn yno gyda'r Archwilydd Cyffredinol. Yn ystod y sesiwn friffio, cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.

 

(10:00)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

(10:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5, 6, 7 & 8

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:00 - 10:15)

5.

Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Aelodau i drafod y materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r ‘Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon’.

 

(10:15 - 10:30)

6.

Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-27-13 Papur 1

PAC(4)-27-13 Papur 2

 

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i adolygu'r sefyllfa ar ôl i adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau, a ddisgwylir ym mis Rhagfyr 2013, gael ei gyhoeddi.

 

(10:30 - 10:45)

7.

Argyfyngau Sifil yng Nghymru: Trafod y cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-27-13 Papur 3

PAC(4)-27-13 Papur 4

 

Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Andy Phillips – Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd y byddai'r Clerc yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael eglurhad o'r materion a godwyd yn ei gyngor.

 

(10:45 - 11:00)

8.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen: Trafod y cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-27-13 Papur 5

 

Gillian Body – Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru

Paul DimblebeeCyfarwyddwr y Grŵp, Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a bwriad Swyddfa Archwilio Cymru i fonitro'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru ac yn egluro cynnydd gyda gweithredu argymhellion y Pwyllgor.