Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd.

 

1.2        Fe wnaeth Jocelyn Davies ddatgan buddiant yn eitemau 2 a 7 fel cyn Weinidog a oedd yn gyfrifol am dai ac ni chymerodd ran yn yr eitemau hynny.

 

 

(9:00 - 10:00)

2.

Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

Llywodraeth Cymru

 

PAC(4) 19-13 – Papur 1

Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru

Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Lisa Dobbins, Safonau Ansawdd Tai, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru; Kath Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru; a Lisa Dobbins, y Tîm Ansawdd Tai, Llywodraeth Cymru.

 

2.2 Fe wnaeth y Pwyllgor waith craffu ar y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         nodyn ar gylch gorchwyl y Tasglu Gweinidogol a sefydlwyd i fynd i’r afael â’r cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys rhestr o’i aelodaeth.

·         nodyn ar argymhellion yr adolygiad o’r fframwaith rheoleiddio gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru, gan gynnwys manylion am sut mae hynny’n mynd i’r afael â gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.

·         Astudiaethau achos o arfer da o ganlyniad i waith a wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fanteision Cymunedol.

(10:00 - 10:40)

3.

Sesiwn Friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru am Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG’

 

 

Linc i ‘Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG’

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr y Grŵp, Swyddfa Archwilio Cymru; a Steve Ashcroft, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

3.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i roi briff i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau ei adroddiad am weithredu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG.

 

3.3 Holodd y Pwyllgor Archwilydd Cyffredinol Cymru.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Rhaglen waith -  haf 2013

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol a’i raglen waith ar gyfer tymor yr haf 2013.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 6 a 7.

 

(10:40 - 10:50)

6.

Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor sut yr hoffai ymdrin â chanfyddiadau adroddiad yr archwilydd cyffredinol.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gael tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(10:50 - 11:00)

7.

Trafod y dystiolaeth am y cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru am y cynnydd wrth weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

Trawsgrifiad