Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2
Datganodd
Julie Morgan fuddiant am fod ei merch wedi bod yn rhan o'r tîm GIG Iechyd
Cyhoeddus Cymru a fu'n ymchwilio i ddigwyddiadau'n ymwneud â C Difficile
ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
||
(9:05 - 10:00) |
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi
Cadwaladr Geoff Lang, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Lleol
Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Martin Duerden, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd
Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nyrsio,
Bydwreigiaeth a Chleifion, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Helen Simpson, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd Lleol
Prifysgol Betsi Cadwaladr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd
Geoff Lang, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
Dr Martin Duerden, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr; Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nyrsio, Bydwreigiaeth a
Chleifion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a Helen Simpson, Cyfarwyddwr
Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tystion am ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal
Iechyd Cymru ar y cyd, ‘Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr’. Camau gweithredu: Cytunodd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu: ·
Rhagor o
fanylion ynghylch pa mor aml y bu cyfarfodydd rhwng Prif Weithredwr GIG Cymru a
Phrif Weithredwr ac uwch reolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. ·
Rhagor o
fanylion ynghylch pa mor aml y bu cyfarfodydd rhwng Cyfarwyddwr Cyllid y Bwrdd
Iechyd a Chyfarwyddwr Cyllid presennol a blaenorol Llywodraeth Cymru. ·
Ffigurau'n
dangos sawl claf gafodd lawdriniaeth wedi'i hoedi o ganlyniad i'r lleihad yn
nifer y triniaethau a berfformiwyd tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol, yn
seiliedig ar y newid i safon perfformiad. ·
Copïau
o'r adolygiadau allanol a gynhaliwyd gan Chris Hurst ym mis Ebrill 2012 ac
Allegra ym mis Rhagfyr 2012. |
|
Papurau i’w nodi PAC(4) 21-13 – Papur 1 - Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru – Gohebiaeth gan Llywodraeth Cymru PAC(4) 21-13 – Papur
2 - Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru - Gohebiaeth gan Llywodraeth Cymru PAC(4) 21-13 - Papur
3 - Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol: Ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol PAC(4) 21-13 – Papur 4 - Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau
Gwynllŵg
– Gohebiaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion y cyfarfod blaenorol Rhaglen waith - haf 2013 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y
papurau a ganlyn:
|
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 7. |
||
(10:00 - 10:15) |
Trafod y dystiolaeth ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a gafodd fel rhan o'i ymchwiliad i Drefniadau Llywodraethu Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 5.2 Bydd y Pwyllgor yn cymryd
rhagor o dystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad ddydd Iau 18 Gorffennaf 2013. |
|
(10:15 - 10:45) |
Trafod adroddiad drafft ‘Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori’ Cofnodion: 6.1 Yn sgîl cyfyngiadau amser,
cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod adroddiad drafft y Pwyllgor, ‘Gwaith Caffael
a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori’ tan y cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2013. |
|
(10:45 - 11:00) |
Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol: Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei
adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac
Atebolrwydd Lleol. |
|
Trawsgrifiad |