Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(9:05 - 10:00) |
Materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg James Harris, Cyn-aelod o Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd
James Harris, Cyn-aelod o Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg. 2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst. |
|
Papurau i'w nodi PAC(4) 18-13 –
Papur 1 – Ymateb i gam i’w gymryd o gyfarfod ar 16 Mai gan Llywodraeth Cymru PAC(4) 18-13 –
Papur 2 – Ymateb i gam i’w gymryd o gyfarfod ar 16 Mai gan Richard Penn Cofnodion y
cyfarfod blaenorol Rhaglen waith - haf 2013 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor sut
roedd Llywodraeth Cymru a Rheolwr Cyffredinol Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a
Gwastadeddau Gwynllŵg wedi ymateb i'r camau gweithredu. 3.2 Nododd y Pwyllgor
gofnodion y cyfarfod blaenorol. 3.3 Nododd y Pwyllgor ei
raglen waith ar gyfer tymor yr haf 2013. 3.4 Nododd Pwyllgor
longyfarchiadau ar goedd i Ian Summers ar dderbyn ei MBE. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 7. |
||
(10:00 - 10:10) |
Trafod y dystiolaeth ynghylch materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a ddarparwyd ar gyfer ei ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg. |
|
(10:10 - 10:30) |
Penodi Cadeirydd ac Aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei gyfrifoldebau o dan y Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a thrafododd y trefniadau ar gyfer taliadau a
thelerau eraill o ran penodi Cadeirydd ac aelodau anweithredol, a phenodi i
swyddi Cadeirydd ac aelodau anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
(10:30 - 11:00) |
Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol. |
|
Trawsgrifiad |