Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.00 - 9.05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(9.05 - 10.00) |
Materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg' Cofnodion: Y Comisiwn Archwilio 2.1 Croesawodd y Cadeirydd
David Aldous, Rheolwr Cyswllt y Gwasanaethau Technegol Archwilio, y Comisiwn
Archwilio, i'r cyfarfod. 2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tyst. Swyddfa Archwilio Cymru 2.3 Croesawodd y Cadeirydd
Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru; Mike Usher,
Cyfarwyddwr y Grŵp Archwilio Ariannol; a David Rees, Rheolwr Llywodraethu o Swyddfa
Archwilio Cymru, i'r cyfarfod. 2.4 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tystion. Camau gweithredu: 2.5 Gofynnwyd i'r tystion
ddarparu: ·
Nodyn
ynghylch pryd y daeth uned Archwilio Mewnol Casnewydd ynghlwm â'r ymchwiliad
i'r pryderon ynghylch y Bwrdd Draenio; a ·
Nodyn
ynghylch yr opsiynau cynnydd sydd ar gael i archwilwyr. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y
canlynol: ·
Gohebiaeth
gan Dean Jackson Johns i Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru; ·
Gohebiaeth
gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol i Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol
Cymru; a ·
Rhaglen
waith y Pwyllgor ar gyfer haf 2013. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Eitemau 5 a 6. |
||
(10.00 - 10.20) |
Trafod y dystiolaeth ar faterion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg' Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y
dystiolaeth a glywsant yn ystod yr ymchwiliad. |
|
(10:20 - 11:00) |
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor 'Argyfyngau Sifil yng Nghymru' Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau
welliannau i adroddiad drafft y Pwyllgor a chytuno y bydd testun terfynol yr
adroddiad yn cael ei gytuno'n ffurfiol dros e-bost. |
|
Trawsgrifiad |