Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Sandy Mewies AC. |
||
(9.00 - 12.35) |
Materion sy'n codi o ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg' Llywodraeth Cymru (9.00 – 10.00) Gareth Jones, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru (10.00 – 10.50) Emyr Roberts, Prif
Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru Egwyl (10.50 – 10.55) Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a
Gwynllŵg a Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio (10.55 – 11.45) PAC(4) 14-13 –
Papur 1 PAC(4) 14-13 –
Papur 2 Richard Penn, Rheolwr
Gyfarwyddwr, Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg Dr Jean Venables,
Prif Weithredwr, Cymdeithas yr Awdurdodau Draenio Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg (11.45 – 12.35) Dean
Jackson-Johns, Cyn Glerc a Pheiriannydd, Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau
Cil-y-coed a Gwynllŵg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Llywodraeth Cymru 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth
Cymru; a Jo Larner, Pennaeth
Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Llywodraeth Cymru. 2.2 Craffodd y
Pwyllgor ar waith y tystion. Camau gweithredu: 2.3 Cytunodd
Llywodraeth Cymru i ddarparu: ·
nodyn
ynghylch a wnaeth DEFRA ymgynghori â Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r rheolau
sefydlog enghreifftiol (a gafodd eu cyhoeddi yn 2005) ·
nodyn
ynghylch pwy ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygiad posibl y
Byrddau Draenio Mewnol. Cyfoeth Naturiol Cymru 2.4 Croesawodd y
Cadeirydd y tystion Dr Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol Cymru; a Tim
England, Rheolwr Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol – Ardal y De-ddwyrain,
Cyfoeth Naturiol Cymru. 2.5 Craffodd y
Pwyllgor ar waith y tystion. Cam gweithredu: 2.6 Cytunodd
Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu: ·
nodyn
ynghylch a gafodd trefniadau ariannu ardal Gwent eu hailbrisio a’u hailwerthuso
ar ôl adroddiad gan DEFRA yn 2006 Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a
Gwynllŵg a Chymdeithas yr Awdurdodau Draenio 2.7 Croesawodd y
Cadeirydd Richard Penn, Rheolwr Cyffredinol Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau
Cil-y-coed a Gwynllŵg;
a Dr Jean Venables, Prif Weithredwr Cymdeithas yr Awdurdodau Draenio. 2.8 Craffodd y
Pwyllgor ar waith y tystion. Cam gweithredu: 2.9 Cytunodd y
Rheolwr Cyffredinol i ddarparu: ·
copi o Reolau Sefydlog presennol a
chymeradwy’r Bwrdd Draenio gyda’r sicrwydd y byddent yn cael eu cyhoeddi ar wefan
y Bwrdd. 2.10 Cytunodd y Cynghorydd Cyfreithiol i’r Pwyllgor i ddarparu rhagor o
wybodaeth ar gymhwysedd cyfreithiol Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag
Awdurdodau Draenio. Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg 2.11 Croesawodd y
Cadeirydd Dean Jackson-Johns, Cyn Glerc a Pheiriannydd Bwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg 2.12 Holodd y
Pwyllgor y tyst. Cam gweithredu: 2.13 Cytunodd
Dean Jackson-Johns i ddarparu: ·
fersiwn
electronig o’r papur a ddarparodd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod. |
|
Papurau i'w nodi PAC(4) 14-13 –
Papur 3 – Ymateb i gam i’w gymryd o gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar
23 Ebrill gan Hywel Dda Cofnodion y
cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn ymateb i gam gweithredu
o gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2013. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5. Cofnodion: Eitem 5 |
||
Trawsgrifiad |
||
(12.35 - 13.00) |
Ystyried tystiolaeth ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg Cofnodion: 5.1 Trafododd Aelodau’r
dystiolaeth a gafwyd yn ystod y cyfarfod. |