Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00-09:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2        Diolchodd y Cadeirydd i Gwyn Price am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor a chroesawodd Sandy Mewies.

 

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 3, 6 a 7 a’r cyfarfod ar 7 Mai 2013.

 

Cofnodion:

Eitemau 3, 5 a 6 a’r cyfarfod ar 7 Mai 2013.

(9:05 - 9:30)

7.

Goblygiadau Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Ystyried yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes ynghylch goblygiadau’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywydd yn argymell:

 

·         bod swyddogaethau cleient a goruchwylio’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cael eu rhannu rhyngddo a phwyllgor arall;

·         bod y Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am ystyried, cymeradwyo a gwneud addasiadau i’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru.

·         y dylid sefydlu pwyllgor newydd gyda chyfrifoldeb am oruchwylio trefniadau llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru.

(09:30-10:15)

4.

Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori – Tystiolaeth gan Gyngor Caerdydd

Jonathan House, Prif Weithredwr, Cyngor Caerdydd

Steve Robinson, Pennaeth Comisiynu a Chaffael, Cyngor Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Jonathan House, Prif Weithredwr, Cyngor Caerdydd a Steve Robinson, Pennaeth Comisiynu a Gwaith Caffael, Cyngor Caerdydd.

 

4.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Cyngor Caerdydd i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am fesurau effeithlonrwydd a gymerwyd gan Bartneriaeth Caffael Gogledd Cymru, gan gynnwys manylion costau yn ymwneud â’i sefydlu;

·         Enghreifftiau o arfer da mewn gwaith ymgynhori a chaffael yn ne Cymru, gan gynnwys gwaith a wnaeth Academi Caerdydd.

(9:05 - 9:30)

3.

Goblygiadau'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Trafod yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

5.

Papurau i'w nodi

PAC(4) 12-13 – Papur 1 – Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru – Ymateb i’r cam gweithredu sy’n deillio o’r cyfarfod ar 18 Ebrill 2013

 

PAC(4) 12-13 – Papur 2 - Gohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - cleifion Preifat Mynediad i Wasanaethau GIG

 

PAC(4) 12-13 – Papur 3 – Blaenraglen Waith

 

 

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2013

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2013

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf a chofnodion y cyfarfod ar 18 Ebrill a 23 Ebrill.

(10:15-10:20)

6.

Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar waith caffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori.

(10:20-11:00)

7.

Rheoli Grantiau yng Nghymru – Trafod yr adroddiad terfynol drafft

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad terfynol drafft ar Reoli Grantiau yng Nghymru a chytunodd i’w drafod ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.

Trawsgrifiad