Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(9:05 - 10:00) |
Ystyried rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4) 08-13 –
Papur 1 – Swyddfa Archwilio Cymru: Rhaglen astudiaethau gwerth am arian Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Estynnodd y Cadeirydd
wahoddiad i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, gyflwyno rhaglen
astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru. 2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
Archwilydd Cyffredinol am y rhaglen waith a bu'n trafod y blaenoriaethau ar
gyfer Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal gwaith gwerth am arian. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2013. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 8. |
||
(10:00 - 10:10) |
Ystyried rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod
rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru ac amlinellodd
nifer o feysydd yr oedd am i'r Archwilydd Cyffredinol eu hystyried fel rhan o'i
gynllun gwaith. |
|
(10:10 - 10:20) |
Ystyried Cylch Gorchwyl yr ymchwiliad sy'n ymwneud â Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg Cofnodion: 6.1 Trafododd a chytunodd y
Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg a thrafod pa dystion yr hoffai gasglu tystiolaeth ganddynt. |
|
(10:20 - 10:40) |
Ystyried rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2013 Cofnodion: 7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei
raglen waith ar gyfer gweddill tymor y gwanwyn/yr haf 2013. |
|
(10:40 - 11:00) |
Adolygu'r cymorth a ddarperir i bwyllgorau. Cofnodion: 8.1 Gofynnodd y Pwyllor i gael
trafod yr eitem hon heb i staff y Cynulliad na swyddogion Swyddfa Archwilio
Cymru fod yn bresennol. |
|
Trawsgrifiad |