Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Tom Jackson  Legislation: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:00 - 9:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

2.

Papurau i'w nodi

PAC(4) 01-13 – Papur 1 – Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Gweinidog Cyllid ar Gyfnod 1 y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

PAC(4) 01-13 – Papur 2 – Gohebiaeth gan undebau llafur Swyddfa Archwilio Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y gwaith o graffu ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

PAC(4) 01-13 – Papur 3 – Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar raddfa ffioedd Llywodraeth Leol Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4) 01-13 – Papur 4 – Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar fynediad gan Weinidogion at bapurau cyn Weinidogion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Cyfnod 1 o’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

2.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor ynghylch y gwaith o graffu ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

2.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch graddfa ffioedd llywodraeth leol Swyddfa Archwilio Cymru.

 

2.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch mynediad Gweinidogion i bapurau Geinidogion blaenorol.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 i 5.

(9:05 - 9:30)

4.

Trafod yr adroddiad drafft ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru a chytunodd i drafod adroddiad diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(9:30 - 10:00)

5.

Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen - y prif themâu a materion sy'n dod i'r amlwg

Cofnodion:

5.1 Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Julie Morgan ar yr eitem hon a dywedodd na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn trafod y prif themâu a’r materion sy’n dod i’r amlwg yn ei ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen.

 

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i drafod canfyddiadau’r ymchwiliad ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.

Trawsgrifiad