Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Tom Jackson Legislation: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
|
|
(9:05 - 9:50) |
Briff gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Argyfyngau Sifil yng Nghymru' PAC(4) 02-13 – Papur 1 – Argyfyngau Sifil yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru;
Andy Phillips, Rheolwr Archwilio Perfformiad; a John Weston, Arbenigwyr
Perfformiad. 2.2 Trafododd y Pwyllgor ganfyddiadau adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru, ‘Argyfyngau Sifil yng Nghymru’. |
|
Papurau i'w nodi PAC(4) 02-13 – Papur 2 – Gohebiaeth ynghylch Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer 2011-12. Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor
yr ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2011-12. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 7. Cofnodion: Eitemau 5 i 7 |
||
(9:50 - 10:00) |
Ystyried y dewisiadau i ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Argyfyngau Sifil yng Nghymru' Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Argyfyngau Sifil yng Nghymru’ a
chytunodd i gynnal ymchwiliad yn ystod tymor y gwanwyn 2013. |
|
(10:00 - 10:50) |
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen - y prif themâu a'r materion sy'n dod i'r amlwg Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif themâu a’r materion sy’n
dod i’r amlwg yn ei ymchwiliad i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a
gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen. 6.2 Cytunodd y
Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r
camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen mewn
cyfarfod sydd ar y gweill. |
|
(10:50 - 11:00) |
Trafodaeth ar ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar raddfeydd ffioedd archwilio ac arolygu llywodraeth leol 2013-14 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ar raddfeydd ffioedd archwilio
ac arolygu llywodraeth leol 2013-14. |
|
Trawsgrifiad |